Hysbysiad Preifatrwydd – Hysbysu cronfa ddata pobl wedi'u gwahardd
Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd ar gyfer hysbysu cronfa ddata pobl wedi'u gwahardd, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau chi.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.
Pa wybodaeth sydd gennym ni?
Mae’r data personol sydd gennym yn cynnwys: (enw, enw’r busnes, y math o fusnes, cyfeiriad y safle, dyddiad y gorchymyn, dyddiad y troseddau a chosbau, manylion enwau tybiedig)
O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon?
Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan yr Awdurdod Cymwys (awdurdod lleol) perthnasol sy'n gyfrifol am yr erlyniad.
Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?
Rydym yn casglu ac yn prosesu’r data hwn i’w gwneud yn bosib i swyddogion awdurdodau lleol wirio a yw gweithredwyr busnesau bwyd wedi cyflawni troseddau yn y gorffennol, ac a oes unrhyw orchmynion gwahardd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Sail gyfreithlon
Rydym yn prosesu data personol at y dibenion hyn o dan (Erthygl 6(1)(e) o Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR)) ac Adran 8 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) yn unol â’r angen i gyflawni ein dyletswyddau statudol o dan y pwerau a ganlyn:
Cymru | Lloegr | Gogledd Iwerddon |
Deddf Diogelwch Bwyd 1990 | Deddf Diogelwch Bwyd 1990 | |
Deddf Safonau Bwyd 1999 | Deddf Safonau Bwyd 1999 | Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991 |
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 | Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Lloegr) 2009 | Deddf Safonau Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991 |
Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd (Cymru) 2006 | Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd (Lloegr) 2013 | Rheoliadau Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2009 |
Rheoliad 2017/625 Rheolaethau Swyddogol a gweithgareddau eraill a gynhelir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid | Rheoliad 2017/625 Rheolaethau Swyddogol a gweithgareddau eraill a gynhelir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid | Rheoliad 2017/625 Rheolaethau Swyddogol a gweithgareddau eraill a gynhelir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid |
Ni fyddwn yn prosesu unrhyw ddata personol nad oes ei angen arnom.
Pan fyddwn yn prosesu data sy’n ymwneud ag euogfarnau, rydym yn gwneud hynny am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd wrth arfer ein swyddogaeth fel adran o’r llywodraeth ac yn unol â’n polisi Diogelu Data ac Atodlen 1, Rhan 2 paragraffau (6) a (36) o Ddeddf Diogelu Data 2018.
Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi’r data ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.
Sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu
Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni’r swyddogaethau hyn rydym cadw’r data personol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd y data hwn yn cael ei gadw nes:
- bod cadarnhad nad yw’r gorchymyn gwahardd mewn grym bellach
- bod unrhyw derfynau amser cyfreithiol sy’n ymwneud â throseddau mewn cysylltiad â’r gorchymyn wedi dod i ben
Bydd y data personol hwn ar gael i awdurdodau cymwys yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd 7.2.6. Bydd yr ASB weithiau’n rhannu data gydag adrannau eraill o’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, neu pan fydd er budd y cyhoedd. Efallai y byddwn ni’n rhannu’r data fel rhan o waith gwerthuso a dadansoddi risg gyda chyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill, fel Safonau Masnach ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, am yr un rhesymau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym yn storio’ch data a chyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Rydym ond yn cadw gwybodaeth cyhyd ag y bo angen i gyflawni ein swyddogaethau.
Trosglwyddiadau Rhyngwladol
I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr UE
I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau chi
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.
Cysylltiadau Tîm
Y Tîm Rheoli Gwybodaeth: information.governance@food.gov.uk
Hanes diwygio
Published: 6 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ebrill 2025