Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer yr Uned Iechyd, Diogelwch a Lles
Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd yr Uned Iechyd, Diogelwch a Lles, pam mae angen data arnom, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.
Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu
Mae’r wybodaeth bersonol sydd gennym yn ymwneud ag adrodd am ddigwyddiad, ac mae’n cynnwys enwau, manylion cyswllt a gwybodaeth sy’n berthnasol i’r digwyddiad. Gall hyn gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif.
Rydym yn cael yr wybodaeth bersonol hon yn uniongyrchol gan unigolion sy’n adrodd am y digwyddiad, a chan drydydd partïon at ddibenion cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad a bodloni ein gofynion adrodd statudol.
Mae’n bosib y bydd angen i ni gysylltu ag unigolion ynghylch y digwyddiad a gofyn am ragor o wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol at y dibenion hyn.
Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth bersonol hon er mwyn cyflawni ein dyletswydd gofal i ddiogelu ein gweithwyr a’n contractwyr rhag risgiau i’w hiechyd, eu diogelwch a’u lles, ac i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad statudol a gallai methu â darparu'r wybodaeth arwain at yr ASB yn methu â chyflawni ei dyletswydd na ellir ei dirprwyo fel cyflogwr dan Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol gennych nad oes ei hangen arnom ni.
Sut a ble rydym ni’n storio eich data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu
Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau statudol hyn y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw (o'r dyddiad y daw i law) am 40 mlynedd o ran data canlyniadau gwyliadwriaeth iechyd a 3 blynedd (o'r dyddiad y daw i law) mewn perthynas â data sy'n gysylltiedig â digwyddiadau iechyd a diogelwch (damweiniau a fu’n agos at ddigwydd (near misses), damweiniau ag anafiadau, clefydau galwedigaethol a bwlio/aflonyddu).
Byddwn yn rhannu rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch pan fydd gennym rwymedigaeth i wneud hynny o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR).
I gael rhagor o wybodaeth am Sut a ble rydym yn storio eich data a gyda phwy y gallwn ei rannu, gweler ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)
I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.
Hanes diwygio
Published: 26 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2022