Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer yr arolwg Bwyd a Chi
Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd yr Arolwg Bwyd a Chi 2, pam mae angen data arnom, yr hyn yr ydym yn ei wneud â’r data a’ch hawliau.
Pwy sy’n cynnal yr ymchwil hon?
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Ipsos, asiantaeth arolygu annibynnol, ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae’r ASB yn adran lywodraethol annibynnol sy’n gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd. Mae’r Asiantaeth yn diogelu’r cyhoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) hefyd yn cyfrannu’n ariannol i’r arolwg.
Yr ASB yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr ymchwil hon. Ipsos yw’r Prosesydd Data.
Sut cawsoch chi afael ar fy nghyfeiriad?
Anfonwyd gwahoddiad atoch i gymryd rhan am fod eich cyfeiriad wedi’i ddewis ar hap o’r ffeil cyfeiriadau post (PAF). Casgliad o gyfeiriadau codau post y Post Brenhinol yn y Deyrnas Unedig yw PAF. Dewisir tuag 20,000 o gyfeiriadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gymryd rhan ym mhob cylch o’r arolwg Bwyd a Chi 2 a gynhelir bob chwe mis.
Ipsos yw’r rheolydd data ar gyfer y sampl PAF mae’n ei chadw’n fewnol. Bydd gwybodaeth am eich cyfeiriad yn cael ei storio’n ddiogel, ac ni chaiff ei throsglwyddo i’r ASB.
Pam mae angen i chi gael yr wybodaeth hon gennyf fi?
Mae’n ofynnol i’r ASB lunio a chyhoeddi Ystadegau Swyddogol. Mae gwneud hynny o fudd mawr i’r cyhoedd. Bydd yr ymchwil hon hefyd yn helpu’r ASB i gyflawni ei dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999, sef diogelu buddiannau ehangach defnyddwyr ac iechyd y cyhoedd, a hyrwyddo diogelwch bwyd a safonau bwyd. Defnyddir yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd yr ymchwil hon yn helpu’r ASB i ddeall agweddau ac ymddygiadau pobl mewn perthynas â bwyd er mwyn llywio polisïau a gweithgareddau cyfathrebu’r ASB. Tasg gyhoeddus yw’r sail gyfreithlon dros brosesu.
Fel diolch am lenwi’r arolwg hwn, hoffem gynnig taleb i chi. I gael eich taleb, gofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi a fyddech yn hapus i’r ASB, neu asiantaethau ymchwil sy’n gweithredu ar ran yr ASB, gysylltu â chi eto i gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol. Os byddwch yn cytuno i’r ASB neu ei phartneriaid gysylltu â chi eto, efallai y bydd Ipsos yn anfon eich enw a’ch cyfeiriad e-bost ymlaen. Bydd Ipsos hefyd yn anfon eich ymatebion i arolwg Bwyd a Chi 2 at yr ASB. Cânt eu storio ar wahân a’u cysylltu â’ch manylion cyswllt yn unig, a hynny dim ond er mwyn nodi grwpiau o ddiddordeb at ddibenion ymchwil ddilynol.
Hoffem eich sicrhau bod yr holl ddata’n cael ei gadw’n ddiogel gan y sefydliadau uchod, a bydd eich enw a’ch cyfeiriad ond yn cael eu defnyddio gan yr ASB, neu ei phartneriaid, at ddibenion ymchwil, os cynhelir ymchwil ddilynol. Ni fydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion masnachol, a bydd yn cael ei dinistrio ar ôl dwy flynedd. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl drwy gysylltu ag Ipsos yn foodandyou2survey@Ipsos.com.
Sut caiff fy ngwybodaeth ei defnyddio?
Bydd eich ymatebion i’r arolwg yn cael eu cyfuno ag ymatebion y miloedd o bobl eraill sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil hon. Cyhoeddir canfyddiadau’r arolwg mewn adroddiad, tablau data a set ddata. Bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ystadegol yn unig, ac ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw setiau data ac adroddiadau cyhoeddedig. Bydd eich manylion personol yn cael eu storio ar wahân i atebion yr arolwg.
Pwy fydd â mynediad at fy nata personol?
Bydd gan Ipsos fynediad at y data personol a roddwch yn yr arolwg am gyfnod cyfyngedig. Mae manylion am hyn yn yr adran ‘Am ba hyd y bydd Ipsos a’r ASB yn cadw fy ngwybodaeth’.
Bydd yr holl ddata a drosglwyddir i’r ASB yn ddienw. Os ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi unwaith eto, mae’n bosib y bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu trosglwyddo i’r ASB fel y gallant eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil bellach.
Os hoffech ofyn am gyfweliad dros y ffôn i gwblhau’r arolwg mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, cysylltwch â thîm y llinell gymorth ar 0800 0149467 neu anfonwch e-bost i foodandyou2survey@Ipsos.com. Bydd tîm y llinell gymorth wedyn yn pennu dyddiad ac amser i chi gwblhau eich cyfweliad dros y ffôn gyda Language Line (y cwmni cyfieithu).
Os ydych wedi nodi yr hoffech gael taleb, bydd Love2Shop (y cwmni sy’n gyfrifol am rhain) yn cael eich enw a’ch e-bost fel y gellir anfon y rhain atoch yn uniongyrchol.
Os ydych wedi gofyn am daleb drwy’r post, bydd Formara Ltd. (y cwmni argraffu) yn cael eich enw a’ch cyfeiriad i’w hargraffu ar y llythyrau a’u postio (mae mwy o fanylion yn yr adran nesaf).
Am ba mor hir y bydd Ipsos a’r ASB yn cadw fy ngwybodaeth (a FSS ar gyfer Cylch 8 yn unig)?
Mae Ipsos yn cydymffurfio â’r safonau rheoleiddio uchaf ar gyfer prosesu data personol a/neu sensitif yn gyfreithlon ac yn ddiogel, gan gynnwys Cod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad, IS0 27001 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Bydd Ipsos ond yn cadw eich data personol mewn ffordd a all beri eich adnabod am gyfnod mor hir ag sy’n angenrheidiol i gefnogi’r prosiect ymchwil. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw eich data personol hyd nes y bydd yr holl dalebau wedi’u hanfon oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi eto. Os ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi eto, bydd Ipsos yn cadw eich data personol yn ddiogel, wedi’i gysylltu a’ch atebion yr arolwg er mwyn caniatáu gallu dewis ymatebwyr addas ar gyfer ymchwil ychwanegol. Bydd manylion personol yn cael eu cadw am ddwy flynedd, ac ar ôl hynny bydd yr holl ddata personol yn cael ei ddileu’n ddiogel o’n systemau. Bydd eich data arolwg dienw, anadnabyddadwy yn cael ei gadw i gefnogi’r prosiect ymchwil, y canfyddiadau ac adroddiadau cyhoeddedig.
Bydd Ipsos yn defnyddio’r cyflenwyr Forama Limited (argraffwyr), Love2Shop (talebau) a Language Line (cyfieithu). Darperir gwybodaeth am gyfeiriadau i Formana Limited er mwyn argraffu llythyrau ar gyfer yr ar olwg a hefyd holiaduron papur. Rhoddir manylion enwau a chyfeiriadau hefyd i Formara Limited i anfon talebau. Rhoddir enwau ac e-byst i Love2Shop i anfon e-godau talebau. Bydd Formara Limited a Love2Shop ond yn cael ac yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon eich taleb. Ni fyddant yn cysylltu â chi am unrhyw resymau eraill nac yn trosglwyddo eich data i unrhyw un arall. Mae data’n cael ei ddileu o system Formara Limited o fewn dau fis ac o systemau Love2Shop ar ôl chwe blynedd. Ni fydd gan Language Line fynediad i’ch data personol.
Bydd y canfyddiadau ymchwil dienw a ddarperir i’r ASB yn cael eu dal am gyfnod amhenodol.
Bydd manylion cyswllt a drosglwyddir i’r ASB at ddibenion ail-gysylltu yn cael eu cadw’n ddiogel am ddwy flynedd o ddiwedd y gwaith maes cyn eu dileu’n ddiogel.
Mae’r holl ddata a brosesir gan yr ASB yn cael ei gadw ar weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwasanaethau cwmwl yr ASB wedi’u caffael trwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion diogelwch cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Os ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi unwaith eto, mae’n bosib y bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu trosglwyddo i’r ASB a’i phartneriaid ymchwil dibynadwy fel y gallant eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil bellach. Nid oes gan drydydd partïon eraill fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.
Pa wybodaeth bersonol y byddwch chi’n ei chasglu?
Gall data a all beri adnabod person a gesglir fel rhan o’r arolwg Bwyd a Chi 2 gynnwys:
- Data manwl ar ethnigrwydd, rhyw, oedran, iechyd, incwm a chrefydd. Bydd unrhyw gwestiynau sy’n gofyn am wybodaeth am un o’r rhain yn cynnwys dewis ateb ‘mae’n well gen i beidio â dweud’
- Data daearyddol-ddemograffig, y gofynnwyd i Ipsos ei atodi i’r set ddata ddienw mae’n ei darparu i’r ASB
- Cyfeiriad e-bost ac enw, y gofynnwyd amdanynt gan yr ymatebwr at ddibenion anfon talebau
- Cyfeiriad e-bost ac enw, ynghyd ag atebion arolwg perthnasol cyfyngedig os ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi eto
Ar ôl ei gasglu, bydd data personol yn ddienw. Felly dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y bydd y data a restrir uchod yn gallu adnabod unigolyn, hynny yw ar gyfer rhoi talebau ac ailgysylltu os rhoddir caniatâd.
Beth yw fy hawliau?
Mae gennych chi’r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriadau e-bost isod. Os ydych chi’n credu ar unrhyw adeg fod yr wybodaeth yn anghywir, gallwch wneud cais iddi gael ei chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data, a fydd yn ymchwilio i'r mater.
 phwy y dylwn i gysylltu os oes gen i gwestiynau?
Gallwch chi gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn nhîm Cydymffurfiaeth Ipsos trwy compliance@ipsos.com (dyfynnwch “24-002987-01, Food and You 2” wrth gysylltu â nhw).
Gallwch chi gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, trwy: information.governance@food.gov.uk
Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO.
Hanes diwygio
Published: 20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ebrill 2024