Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gweithio i ni

Swyddi gwag cyfredol, ein strwythur cyflogaeth, manteision gweithio i ni a’r cod ymddygiad y mae’n rhaid i’n gweithwyr ei ddilyn.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithio ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. 

Mae ein gwaith yn diogelu iechyd pobl, yn lleihau baich economaidd clefydau a gludir gan fwyd, ac yn cefnogi economi a masnach y DU trwy sicrhau, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, fod gan ein bwyd enw da o ran diogelwch a dilysrwydd yn y DU a thramor.

Rydym yn cyflogi dros 1300 o staff mewn amrywiaeth helaeth o rolau gan gynnwys gwyddonwyr, arolygwyr rheng flaen, milfeddygon, arbenigwyr gorfodi, timau gweithredu polisi, economegwyr, cyfreithwyr, arbenigwyr digidol a gweinyddwyr. Rydym newydd lansio strategaeth newydd ar gyfer 2022-27 ac rydym yn gyffrous iawn am y cyfleoedd a fydd yn codi yn sgil hyn.

Mae nifer o fanteision ynghlwm â gweithio i ni, fel lwfansau gwyliau hael ac ymrwymiad i gydbwysedd bywyd a gwaith. Mae gennym ni swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Birmingham, Llundain ac Efrog, ac mae llawer o staff yn gweithio o bell.

Rydym o’r farn y dylai amrywiaeth fod yn sail i bopeth a wnawn fel sefydliad, ac rydym yn awyddus i’n gweithlu adlewyrchu’r ystod eang o gymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn cynnig nifer o gynlluniau recriwtio i annog a chefnogi ceisiadau gan ymgeiswyr amrywiol eu cefndir – gan gynnwys y Cynllun Hyderus o ran Anabledd a’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog (GPTW)

Rydym yn cydymffurfio ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, gan sicrhau bod penodiadau i’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn dilyn cystadleuaeth deg ac agored. Darllenwch ragor am yr Egwyddorion Recriwtio a’r adegau lle y gallai fod eithriadau iddynt.

Swyddi gwag ar hyn o bryd

Uwch-asesydd Risg x 2 (SEO)
Dyddiad cau: Dydd Llun, 6 Mai

Uwch-reolwr Gwaith Gweithredu Mewnforion (SEO)
Dyddiad cau: Dydd Sul, 12 Mai

Archwilydd Milfeddygol x 2 (SEO)
Dyddiad cau: Dydd Sul, 12 Mai

Strwythur cyflog a graddau

Mae gennym ni chwe gradd y tu allan i’r Uwch-Wasanaeth Sifil:

  • Swyddog Gweinyddol (AO)
  • Swyddog Gweithredol a theitlau cyfwerth (EO)
  • Swyddog Gweithredol Uwch a theitlau cyfwerth (HEO)
  • Uwch-Swyddog Gweithredol a theitlau cyfwerth (SEO)
  • Gradd 7 (G7)
  • Gradd 6 (G6)

Mae gennym ddwy raddfa gyflog: un ar gyfer staff yn Llundain, ac un ar raddfa genedlaethol ar gyfer yr holl staff eraill. Mae hefyd gennym ni gynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm eithriadol untro.

Mae ein polisïau AD yn ystyried anghenion pawb

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gyflogwr cynhwysol. Mae ein polisïau AD yn gwbl gynhwysol ar gyfer ein holl staff beth bynnag y bo’u hoedran, patrwm gwaith, anabledd neu gyflyrau iechyd tymor hir, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol; beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, mynegiant rhywedd neu ailbeniad rhywedd, neu statws perthynas; priodas (gan gynnwys priodas gyfartal/o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil.

Mae gennym nifer o rwydweithiau staff ac rydym am i lais pawb gael ei glywed. 

Darllenwch ragor am ein hymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

Trefniadau gweithio, cyfnod prawf a gwyliau blynyddol

Yn yr ASB, rydym yn ymrwymo i fod yn weithle lle mae pawb yn teimlo:

  • y gallwn ni fod ni’n hunain
  • bod ein cyfraniad unigryw yn cael ei gydnabod, ei barchu a’i werthfawrogi
  • ein bod ni’n sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • y gallwn ni ganfod ystyr yn ein gwaith
  • ein bod ni’n perthyn ac mae lle i ni dyfu
  • ein bod ni’n gwasanaethu pob rhan o’r gymuned mewn ffordd sy’n adlewyrchu ei hanghenion
     

Ein trefniant gweithio mwyaf cyffredin yw 37 awr yr wythnos. Rydym yn cynnig cynllun oriau gwaith hyblyg yn y rhan fwyaf o rolau, sy’n galluogi gweithwyr i addasu eu diwrnod gwaith i ddiwallu eu hanghenion unigol. Rydym hefyd yn cefnogi staff sy’n dymuno gweithio gartref, gweithio rhan amser neu rannu swydd, yn amodol ar anghenion busnes. Gellir ystyried trefniadau gweithio hyblyg eraill.

Rydym yn darparu’r holl offer y bydd eu hangen arnoch i weithio’n effeithiol gartref, ac yn cynnig lwfans hael ar gyfer prynu dodrefn swyddfa ac offer cymwys arall i sicrhau y gallwch chi weithio gartref yn ddiogel.

Cyfnod prawf

Bydd yr holl staff sy’n ymuno â ni ac sy’n newydd i’r Gwasanaeth Sifil yn ymgymryd â chyfnod prawf o chwe mis. Mae hwn yn gyfle i ni eich cefnogi chi yn ystod eich cyfnod cynefino, cefnogi eich datblygiad, a gwneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i ymgartrefu yn y Gwasanaeth Sifil a gweithio’n effeithiol yn eich rôl newydd. 

Gwyliau blynyddol

Rydym yn cynnig pecyn gwyliau blynyddol hael iawn, gan ddechrau gyda 25 diwrnod, ynghyd â naw diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint, gan godi i 30 diwrnod yn unol â hyd gwasanaeth.

Manteision

Absenoldeb rhiant

Rydym yn cynnig absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir hyd at 26 wythnos o dâl llawn, ac yna 13 wythnos o dâl statudol ac 13 wythnos arall heb dâl, ac absenoldeb tadolaeth hyd at 3 wythnos o dâl llawn.

Dysgu a datblygu

Rydym yn gwbl ymrwymedig i ddysgu a datblygu ein staff, ac fel rhan o’n tîm gallwch chi edrych ymlaen at gyfleoedd hyfforddi a datblygu o safon. Rydym ni o’r farn y dylem helpu pawb sy’n gweithio i ni i fanteisio i’r eithaf ar eu doniau ac i wireddu eu potensial llawn – dyna pam rydym yn rhoi cyfle i bawb ddatblygu.

Byddwch chi’n cael cyfle i ymgymryd â datblygu i ddiwallu anghenion eich rôl, ac ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol trwy gyfleoedd datblygu ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â hyfforddiant yn y swydd. Mae pawb yn cael sgyrsiau rheolaidd am ddatblygiad gyrfa gyda’u rheolwr ac rydym yn gweithredu yn unol â Phroffesiynau’r Gwasanaeth Sifil. Rydym yn annog rhannu dysgu.

Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis pensiwn galwedigaethol neu bensiwn cyfranddeiliaid deniadol, gan roi hyblygrwydd a dewis. Mae manylion y pensiynau sydd ar gael i’w gweld ar wefan y Gwasanaeth Sifil.

Manteision ychwanegol

Wrth weithio gyda’r ASB gallwch chi gael mynediad at ystod eang o fuddion ariannol. Er enghraifft:

  • cynllun disgownt gweithwyr yr ASB
  • cynllun gofal llygaid
  • derbyn cyflog ymlaen llaw er mwyn talu am docynnau tymor
  • cynllun aberthu cyflog Beicio i’r Gwaith
  • rhaglen defnyddiwr Microsoft yn y cartref
  • cynllun teithio First Bus
  • talu tanysgrifiadau proffesiynol
  • cyflog llawn, ac yna hanner cyflog, hyd at yr uchafswm y mae’r cynllun tâl salwch galwedigaethol perthnasol yn ei ganiatáu

Rydym hefyd yn cynnig nifer o fuddion di-dâl, er enghraifft:

  • pum diwrnod o ddysgu a datblygiad y flwyddyn - gan gynnwys mynediad at yr adnoddau dysgu, rhaglenni a chefnogaeth amrywiol a gynigir gan Civil Service Learning
  • amser i ffwrdd o’r gwaith i ddelio ag argyfyngau, sefyllfaoedd annisgwyl a rhai amgylchiadau arbennig eraill heb eu cynllunio
  • absenoldeb arbennig â thâl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli anstatudol a dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus fel milwr wrth gefn yn y lluoedd arfog
  • cyfleoedd i weithio’n hyblyg
  • cynllun gwobrwyo yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau personol neu gyflawniadau tîm eithriadol untro
  • Rhaglen Cymorth Gweithwyr benodol lle gallwch chi gael mynediad at gymorth cwnsela, cyngor a gwybodaeth gyffredinol a chyngor ariannol a dyled
  • yr opsiwn i ymuno ag undeb llafur

Yn ogystal, fel gwas sifil gallwch chi hefyd ymuno â, neu fwynhau, buddion nifer o sefydliadau eraill fel Cymdeithas Yswiriant y Gwasanaeth Sifil, Elusennau dros Weision Sifil, gofal iechyd y Gwasanaeth Sifil a HASSRA.

Gwrthdrawiad Buddiannau

Mae’n ofynnol i’r holl staff sy’n gweithio i ni wneud cais am gymeradwyaeth cyn iddynt fynd ynghlwm wrth unrhyw fath o fuddiant busnes preifat sy’n gysylltiedig â’r diwydiant bwyd. Os ydych chi’n gysylltiedig ag unrhyw fusnes preifat o’r math hwn, gofynnir i chi roi gwybod am eich buddiant ynddo, a faint o amser y disgwyliwch ei roi iddo. Gallwn wedyn ystyried a fyddai unrhyw wrthdaro â dyletswyddau swyddogol os cewch gynnig y penodiad a’i dderbyn.

Mae hyn yn berthnasol i fuddiannau ariannol yn unig yn ogystal ag os ydych chi’n ymwneud â rheoli’r busnes. Dylech chi ddweud wrthym ni a oes gennych chi gysylltiad anuniongyrchol o’r math hwn, er enghraifft, trwy bartner neu aelod o’r teulu y mae gennych chi gysylltiad agos ag ef/hi.

Mae yna reolau hefyd i staff sy’n gadael yr ASB a’r Gwasanaeth Sifil ynglŷn â chymryd gwaith. Mae’r rhain yn berthnasol yn gyffredinol i Uwch Weision Sifil, ond maen nhw hefyd yn berthnasol i staff eraill mewn amgylchiadau arbennig.

Cod y Gwasanaeth Sifil

Rhaid i bob un o’n gweithwyr gydymffurfio â chod y Gwasanaeth Sifil, sy’n gosod y gwerthoedd craidd a’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Add to smarter communications search Off