Gair amdanom
Pwy ydyn ni, ein rôl, a sut rydym yn cyflawni ein gwaith yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol annibynnol, a sefydlwyd yn 2000 yn dilyn nifer o achosion proffil uchel o salwch a gludir gan fwyd, fel BSE (clefyd gwartheg gwallgof).
Mae ein hamcanion, ein pwerau a’n dyletswyddau wedi’u nodi’n bennaf yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Rydym yn gweithio ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ein prif amcanion yn ôl y gyfraith yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau sy’n deillio o fwyta bwyd, ac i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd ar ddiogelwch bwyd, comisiynu neu gydlynu ymchwil ym maes gwyddoniaeth ar faterion o’r fath, a goruchwylio diogelwch bwyd anifeiliaid a buddiannau eraill y rheiny sy’n defnyddio bwyd anifeiliaid.
Mae ein pwerau statudol yn cynnwys y pŵer i gynnal arsylwadau o’r gweithgarwch hwn, monitro perfformiad yr awdurdod gorfodi perthnasol o ran gorfodi’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyhoeddi canllawiau ar reoli clefydau a gludir gan fwyd acunrhyw beth sy’n ein helpu i arfer ein swyddogaeth statudol. Ceir mwy o wybodaeth am bwy sy’n gorfodi rheolaethau bwyd ar y dudalen we ar y system rheoleiddio bwyd.
Cawn ein llywodraethu gan Fwrdd, a chaiff y Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd eu penodi
gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Cytunir ar ein gwaith yng nghyfarfodydd agored y Bwrdd, ac mae’r gwaith hwn bob amser wedi’i ategu gan y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae tryloywder yn allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, a’r egwyddor hon sy’n llywio gwaith yr ASB.
Cyfanswm ein cyllideb ar gyfer 2022/23 oedd £143.3 miliwn.
![Bwyd y gallwch ymddiried ynddo](/sites/default/files/media/image/Pages%20from%20FSA_FoodYouCanTrust%20A4%20Landscape%20v15_WELSH%20-%20accessible.pdf_.jpg)