Ein rolau
Rolau gwahanol yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn y system fwyd a sut mae pob un yn llywio'r strategaeth bum mlynedd.
Mae gan yr ASB amrywiaeth o bwerau a dyletswyddau statudol, ac rydym ni’n cyflawni rolau gwahanol yn y system fwyd.
- Rydym ni’n gynhyrchydd tystiolaeth
- Rydym ni’n wneuthurwr polisi
- Rydym ni’n rheoleiddiwr
- Rydym ni’n gorff gwarchod
- Rydym ni’n gynullydd ac yn gydweithredwr
Nid yw’r bennod hon yn nodi cynllun gwaith cyflawn ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ond mae’n cynnwys rhai enghreifftiau allweddol ddangos y gwaith y disgwyliwn ei wneud. Disgrifir ein dull mwy manwl o gynllunio busnes yn gweithredu’r strategaeth a mesur cynnydd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r rolau hyn yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r gwahanol rannau o’n gweledigaeth.
Cynhyrchydd tystiolaeth
Un o brif swyddogaethau statudol yr ASB yw cynhyrchu tystiolaeth a dadansoddi mewn perthynas â’r meysydd o fewn ein cylch gwaith (a nodir yn adran 8 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999).
Rydym ni’n ceisio, yn adolygu ac yn cyhoeddi gwybodaeth. Rydym ni’n deall risgiau ac yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth. Rydym ni hefyd yn casglu gwybodaeth i lywio ein dull ar draws meysydd eraill o’n gwaith, er enghraifft targedu ein hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf.
Bydd y rhan fwyaf o’n gwaith fel cynhyrchydd tystiolaeth yn ymwneud â diogelwch a dilysrwydd bwyd. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cynyddu ein sylfaen dystiolaeth bresennol ar fwyd iachach a mwy cynaliadwy. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar ymddygiad a phrofiadau defnyddwyr yn y meysydd hyn, ac ar wneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â thystiolaeth a gynhyrchir gan eraill yn y meysydd hyn.
Ein gwaith
Mae gennym ni enw da yn fyd-eang am wyddoniaeth ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys asesiadau cyflym o risgiau i ddiogelwch defnyddwyr, datblygu technegau gwyliadwriaeth newydd i nodi risgiau’n gyflymach, a deall ymddygiad defnyddwyr. Rydym ni’n cyhoeddi ein tystiolaeth yn unol â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw. Mae hyn yn golgygu bod ar gael am ddim i eraill sy’n gwneud polisïau a phenderfyniadau, i lywio canllawiau i fusnesau ac fel y gall y cyhoedd ymddiried yn ein penderfyniadau.
Pam rydym ni’n gwneud hyn
Sicrhau bod ein penderfyniadau ni, a phenderfyniadau eraill, yn cael eu llywio gan y dystiolaeth orau – fel y gall bawb gael bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Rydym ni am i ddata, dadansoddiadau, mewnwelediad ac ymchwil gref ddylanwadu ar y canlyniadau amgylcheddol ac iechyd mawr sy’n ymwneud â bwyd, yn ogystal ag ar ddiogelwch a dilysrwydd bwyd.
Ein nod
Byddwn yn creu ac yn cydgysylltu tystiolaeth ar draws ystod o faterion yn ymwneud â bwyd. Byddwn yn adeiladu ein sylfaen dystiolaeth. Byddwn yn ymgorffori tystiolaeth am iechyd a chynaliadwyedd ochr yn ochr â’n corff o wybodaeth am ddiogelwch a dilysrwydd bwyd.
Ein gwaith yn y rôl hwn
Meithrin ein gallu gwyddonol
Mae Labordai Swyddogol yn gyfrifol am gynnal dadansoddiadau pwysig o samplau bwyd a bwyd anifeiliaid. Defnyddir y dadansoddiadau hyn i gynnal gwiriadau statudol ar y ffin ar gyfer mewnforion, cefnogi gorfodi cyfraith droseddol, cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach, a chaniatáu ymatebion effeithiol i ddigwyddiadau mawr sy’n gysylltiedig â bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae graddfa ac ystod y profion dadansoddol wedi gostwng dros y blynyddoedd diweddaf, ac yn dilyn ein hymadawiad â’r UE, rydym ni hefyd wedi colli mynediad i Labordai Cyfeirio yr UE, a oedd yn datblygu dulliau dadansoddol ac yn rhannu gwybodaeth â labordai yn y DU. Yn y blynyddoedd i ddod, byddwn yn diwygio ac yn gwella’r system, i fynd i’r afael â’r gostyngiad mewn capasiti ac adeiladu System labordai Rheolaethau Swyddogol gwydn.
Fframwaith Clefydau a Gludir gan Fwyd
Rydym ni wedi datblygu ein Fframwaith Clefydau a Gludir gan Fwyd i ddwyn ynghyd data a gwybodaeth gwyliadwriaeth ar y tri ar ddeg o bathogenau sy’n cael yr effaith fwyaf niweidiol ar gymdeithas. Mae’r fframwaith hefyd yn cael ei lywio gan adnodd Dadansoddi Penderfyniad Meini Prawf Lluosog, a ddatblygwyd gan yr ASB, i gyfrifo pa un o’r pathogenau sy’n cael yr effaith fwyaf andwyol ar gymdeithas (er enghraifft nifer yr achosion y flwyddyn, cost i gymdeithas a lefel pryder y cyhoedd). Yn gyffredinol, bydd y dull yn cynorthwyo ein gwaith i weithredu cynlluniau lleihau risg ar gyfer pob un, yn unol â’n dull o fod yn seiliedig ar risg ac yn gymesur.
Gwyliadwriaeth Iechyd Deietegol yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, lle mae’r ASB yn gyfrifol am gynghori gweinidogion ar faeth, rydym ni’n comisiynu ac yn dadansoddi amrywiaeth o arolygon i fonitro agweddau o ran deiet a phatrymau prynu. Rydym ni’n defnyddio’r rhain i lywio ein gwaith, i rannu gyda rhanddeiliaid sy’n gweithio ar y materion hyn ac i fonitro canlyniadau yn strategaeth atal gordewdra Gogledd Iwerddon. Rhennir y data’n rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol yng Ngogledd Iwerddon i gefnogi ymchwil iechyd deietegol a datblygiad polisi ehangach.
Asesu proteinau amgen
Rydym ni’n disgwyl gweld ceisiadau am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio yn dod i law ym maes bwyd proteinau amgen. Mae’r ymholiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn wedi cynnwys cig wedi’i feithrin (cultured meat) (mewn labordai), cynhyrchion planhigion ac algâu, a phryfed bwytadwy. Rydym ni am fod yn rhagweithiol, gan gydnabod potensial proteinau amgen i fod o fudd i iechyd deietegol, yr amgylchedd, ac economi’r DU, gan barhau i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Byddwn yn parhau i gynghori rhanddeiliad a phartneriaid ar ddarparu tystiolaeth o ansawdd uchel i gefnogi eu ceisiadau a helpu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Rydym ni hefyd yn ariannu ymchwil i ddeall yn well y risgiau diogelwch posibl a phroblemau newydd eraill a allai fod yn gysylltiedig â phroteinau amgen. Rydym ni’n edrych ar agweddau defnyddwyr at y cynhyrchion hyn a sut y gallai’r risgiau diogelwch fod yn wahanol i broteinau traddodiadol, er mwyn helpu i lywio penderfyniadau rheoleiddio a chyngor i’r diwydiant yn y dyfodol.
Gwneuthurwr polisi
Mae gennym ni swyddogaeth statudol i ddatblygu polisïau sy’n ymwneud â diogelwch bwyd neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Rydym ni’n cynghori gweinidogion, a all gyflwyno newidiadau i’r gyfraith ar gyfer pob busnes sy’n ymwneud â chynhyrchu a gwerthu bwyd. Mae ein meysydd cyfrifoldeb polisi penodol yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mewn meysydd eraill, byddwn yn dal i gynnig cyngor neu fewnbwn i lunwyr polisi lle mae gennym ni dystiolaeth neu sgiliau perthnasol, ond bydd adrannau eraill yn “berchen” ar y polisi ac yn cynghori eu gweinidogion arno.
Fel lluniwr polisi, byddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ein rôl graidd, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a’n cylch gwaith maeth yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd angen dull gwahanol o lunio polisi ar Ogledd Iwerddon hefyd, gan ei fod yn dal i fod yn ddarostyngedig i benderfyniadau polisi’r UE o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Ein gwaith
Rydym ni’n cynghori gweinidogion ar ddiogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r meysydd polisi rydym ni’n cynghori arnynt yn wahanol ym mhob gwlad. Yna mae Gweinidogion yn llunio’r cyfreithiau a’r rheolau ar gyfer pob busnes sy’n ymwneud â chynhyrchu a gwerthu bwyd. Ategir hyn gan asesiadau risg o ddatblygiadau newydd a defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth.
Pam rydym ni’n gwneud hyn
Er mwyn sicrhau bod y corff o ganllawiau, rheolau a rheoliadau sy’n bodoli – yn genedlaethol, yn rhyngwladol ac ar lefel ddatganoledig, yn darparu bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
Ein nod
Byddwn yn gwneud argymhellion cadarn ac yn cefnogi gweinidogion i wneud penderfyniadau gwybodus ar reolau yn ymwneud â bwyd, yn seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau annibynnol. Byddwn yn gwneud y gwaith hwn yn unol â’n hegwyddorion i weithredu mewn modd cymesur sy’n seiliedig ar risg a’i gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau. Byddwn yn defnyddio dull pedair gwlad yn ein gwaith, gan ystyried Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a chydweithio â Safonau Bwyd yr Alban. Byddwn yn nodi ac yn achub ar gyfleoedd i ddiwygio rheoleiddio, fel bod ein dull yn addasu i system fwyd sy’n newid.
Ein meysydd cyfrifoldeb polisi
Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:
- Diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
- Mae hyn yn cynnwys gorsensitifrwydd i fwyd
Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon:
- Safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd*
Yng Ngogledd Iwerddon yn unig:
- Safonau maeth a labelu
- Iechyd a gwyliadwriaeth deietegol
(*Yn Lloegr mae’r ASB yn gweithredu ac yn gorfodi rheolau ar gyfer y meysydd hyn, ond nid yw’n arwain datblygiad polisi).
Pwysig
Ein gwaith yn y rôl hwn
Awdurdodi Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio
Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban bellach yn gyfrifol am wneud argymhellion i weinidogion ar awdurdodiadau ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u rheoleiddio cyn y gallant gael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Rydym ni hefyd yn bwriadu adolygu a moderneiddio’r ddeddfwriaeth a etifeddwyd gan yr UE er mwyn symleiddio’r dull awdurdodi. Bydd hyn yn ei gwneud yn gliriach ac yn haws, a fydd yn hyrwyddo arloesedd a thwf economaidd y DU, gan ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn.
Sicrhau pwerau cyfreithiol yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yr ASB yn gyfrifol am fynd i’r afael ag achosion o droseddau bwyd difrifol, cyfundrefnol a chymhleth. Byddwn yn ymgynghori’n gyhoeddus ar gynigion ar gyfer pwerau ychwanegol i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd er mwyn cefnogi ymchwiliadau a lleddfu’r baich ar yr heddlu a chydweithwyr safonau masnach.
Gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
Rydym ni’n cynyddu ein gallu i gefnogi gwaith y llywodraeth ar gyfleoedd masnach i’r DU y tu allan i’r UE. Rydym ni’n darparu asesiadau risg ar gyfer gwledydd sydd am ddechrau mewnforio i’r DU, gan gefnogi trafodaethau Cytundeb Masnach Rydd ac arddangos ein trefniadau diogelwch bwyd ein hunain i wledydd yr ydym yn hallforio iddynt.
Mae Protocol Gogledd Iwerddon a natur ddatganoledig penderfyniadau polisi bwyd hefyd yn golygu, gan fod Prydain Fawr bellach y tu allan i system gyson yr UE, fod systemau rheoleiddio gwahanol wledydd y DU wedi dechrau dargyfeirio eisoes. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda rhannau eraill o’r llywodraeth i geisio consensws o ran y cyngor a roddwn i weinidogion ym mhob gwlad.
Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd y cyngor a roddwn i weinidogion yn cynnwys potensial ar gyfer dargyfeirio rhwng gwahanol wledydd. Ein dull o ymdrin â hyn yw sicrhau mai diogelwch, a risgiau iechyd y cyhoedd a nodir drwy asesiad risg, yw’r ffactor canolog yn ein penderfyniadau, tra’n cydnabod y cyd-destun ehangach a’r effaith y gallai ein cynigion ei chael ar fuddiannau eraill defnyddwyr.
Rheoleiddiwr
Mae gennym ni gyfrifoldeb penodol fel rheoleiddiwr uniongyrchol o fewn y sectorau cig, llaeth a gwin, gan orfodi rheolau gan gynnwys diogelwch, uniondeb a pha mor iach yw bwyd. Rydym ni hefyd yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfiaeth â rheolau lles anifeiliaid mewn lladd-dai ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn Lloegr a Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud i’r ASB gan DAERA.
Rydym ni’n arwain, cynghori a hyfforddi’r awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd sy’n gorfodi’r rheolau ar gyfer y busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid nad yw’r ASB yn eu rheoleiddio’n uniongyrchol.
Rydym ni hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd i feithrin eu gallu i gyflwyno gwiriadau ar fwyd a bwyd anifeiliaid a gaiff eu mewnforio o’r UE, yn dilyn ymdawiad y DU â’r UE.
Mae ein cyfrifoldebau statudol fel rheoleiddiwr yn canolbwyntio ar sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Fodd bynnag, byddwn yn archwilio sut y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn ystyried yn briodol effeithiau iechyd neu amgylcheddol bwyd yn ein gwaith i sicrhau diogelwch.
Ein gwaith
Rydym ni’n rheoleiddio’r system fwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym ni’n gweithredu rheolaethau uniongyrchol o ran cynhyrchu cig, cynnyrch llaeth cynradd a gwin. Rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol sy’n arolygu, busnesau lleol sy’n gwerthu bwyd – gan osod y fframwaith arolygu, darparu cyngor a chanllawiau. Rydym ni’n gwneud yr un peth ar gyfer awdurdodau iechyd porthladdoedd, sy’n arolygu mewnforion bwyd. Rydym ni’n darparu canllawiau i fusnesau bwyd. Rydym ni’n defnyddio gwyliadwriaeth i nodi risgiau i ddefnyddwyr a sylwi ar ddigwyddiadau diogelwch bwyd posib, ac rydym ni’n ymateb i’r rhain pan fyddant yn digwydd.
Pam rydym ni’n gwneud hyn
I wneud yn siŵr bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r rheolau a’u cefnogi i ddilyn arferion gorau, fel bod defnyddwyr yn cael bwyd y gallwch chi ymddiried ynddo.
Ein nod
Byddwn yn gweithredu yn unol â’n hegwyddor i fod yn gymesur ac yn seiliedig ar risg, gan deilwra ein dull o weithio ar gyfer gwahanol fusnesau a lefel y risg i ddefnyddwyr. Byddwn yn buddsoddi ein adnoddau er mwyn rheoleiddio a sicrhau busnesau bwyd mewn ffyrdd callach, gan ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn i ddefnyddwyr. Byddwn yn gweithio gyda a thrwy weithredwyr dylanwadol eraill ar y system fwyd, fel agregwyr digidol.
Ein gwaith yn y rôl hwn
Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
Bydd ein rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn moderneiddio’r ffordd y caiff busnesau bwyd eu rheoleiddio gan yr ASB ac awdurdodau lleol, drwy ddatblygu ffyrdd newydd o gynnal goruchwyliaeth reoleiddiol effeithiol dros system fwyd fwy amrywiol a chymhleth.
Bydd ein rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn datblygu set o ddulliau rheoleiddio gwell a fydd yn ei gwneud yn haws i fusnesau ddarparu bwyd diogel y gellir ymddiried ynddo i ddefnyddwyr, gan dargedu adnoddau rheoleiddio yn y meysydd sy'n peri’r risg fwyaf a gwella cydymffurfiaeth ar draws y system drwy weithio gydag eraill a thrwy eraill.
Mae’r rhaglen yn cynnwys tair ffrwd waith:
- Rheoleiddio cymesur, wedi’i dargedu. Rydym ni’n cynllunio dull mwy cymesur, wedi’i dargedu o reoleiddio busnesau bwyd gan awdurdodau lleol.
- Dulliau lefel menter. Byddwn yn llunio modelau rheoleiddiol newydd ar gyfer set o fusnesau mawr sy’n cydymffurfio â rheoliadau ac yn dylanwadu ar y gadwyn fwyd.
- Sicrwydd gwerthiannau bwyd ar-lein. Byddwn yn asesu’r risgiau posib i ddefnyddwyr o brynu bwyd ar-lein, a’r dulliau rheoleiddio sydd ar gael i fynd i’r afael â’r rhain.
Trawsnewid Gweithredol
Mae angen i’r model rheoleiddio ar gyfer y Rheolaethau Swyddogol yr ydym yn eu darparu’n uniongyrchol fod yn gyson ag arloesedd y diwydiant. Yn debyg i’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau a ddisgrifiwyd uchod, byddwn yn rheoleiddio mewn modd callach tra’n parhau i sicrhau ymddiriedaeth a diogelwch bwyd. Byddwn yn arloesol, yn seiliedig ar risg ac yn gymesur ac yn sicrhau model gweithredu cost-effeithiol yn y dyfodol.
Nod ein Rhaglen Trawsnewid Gweithredol yw:
- Datblygu dull modern a chymesur o arolygu.
- Gwella prosesau a gweithredu er mwyn cynyddu cydymffurfiaeth, ailffocysu adnoddau cyfyngedig yn y meysydd risg uchaf.
Byddwn yn ceisio gwneud gwelliannau o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, ond byddwn hefyd yn ceisio newid deddfwriaethol lle bo angen.
Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r ASB yn gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (y Cynllun) mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Cynllun yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am y safonau hylendid mewn safleoedd bwyd adeg arolygiadau awdurdodau lleol i wirio cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol. Mae’r Cynllun yn fesur pwysig i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac mae sgoriau uchel yn gysylltiedig â llai o achosion o glefydau a gludir gan fwyd.
Gall pobl weld y sgoriau yn www.food.gov.uk/sgoriau a thrwy apiau ffôn clyfar, a data agored. Mae busnesau hefyd yn cael sticeri du a gwyrdd nodedig sy’n dangos eu sgôr i’w harddangos ar eu safleoedd.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon arddangos eu sticeri sgoriau ar eu safleoedd, ac mae cynigion i ddeddfu ar gyfer eu harddangos ar-lein yn cael eu datblygu. Yn Lloegr, nid oes gorfodaeth i’w arddangos ar hyn o bryd, ond rydym ni wedi ymrwymo i wthio’r achos dros arddangos gorfodol ar safleoedd ac ar-lein i gyd-fynd â Chymru a Gogledd Iwerddon.
Rhaglen Gweithredu Bwyd Anifeiliaid
Mae’r ASB yn gyfrifol am gomisiynu gweithredu Rheolaethau Swyddogol ar fwyd anifeiliaid drwy bartneriaid awdurdodau lleol. Mae ymadawiad y DU â’r UE ynghyd â’r angen i’r sector bwyd anifeiliaid gyfrannu at gynhyrchu bwyd cynaliadwy wedi arwain at amgylchedd sy’n newid yn gyflym mewn cadwyni cyflenwi bwyd anifeiliaid.
Er enghraifft, bu datblygiadau yn y defnydd o broteinau pryfed a cheisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid y mae eu datblygwyr yn gobeithio y byddant yn cael effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Mae gan yr ASB ran i’w chwarae i sicrhau bod rheoleiddio bwyd anifeiliaid yn ddigon hyblyg i ymateb i gyflymdra arloesi.
Byddwn yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau diogelwch a pharhad o ran diogelwch iechyd y cyhoedd. Byddwn yn cefnogi ein partneriaid gweithredu mewn awdurdodau lleol drwy wneud y canlynol:
- Manteisio i’r eithaf ar allu a chapasiti partneriaid gorfodi.
- Datblygu offer a mecanweithiau i gyflymu’r broses o nodi mewnforion bwyd anifeiliaid, a thrwy hynny ganolbwyntio adnoddau ar y materion sy’n cael yr effaith fwyaf.
- Diweddaru ein cyfarwyddiadau a chanllawiau Rheolaethau Swyddogol i ddarparu eglurder amserol lle mae datblygiadau cyflym yn gofyn am hyn.
Dosbarthu Ardaloedd Pysgod Cregyn
Mae’r ASB yn gyfrifol am ddosbarthu ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn sy’n rhagofyniad ar gyfer cynhyrchu pysgod cregyn. Caiff safleoedd eu dosbarthu yn dibynnu ar lefel yr halogiad a nodir gan brofion E.coli. Rhoddodd ymadawiad y DU â’r UE ffocws ychwanegol ar y sector hwn ac ar y rhaglen ddosbarthu.
Rydym ni’n mireinio ein dulliau o weithredu rheolaethau swyddogol ar bysgod cregyn, gan weithio o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol i gefnogi busnesau wrth iddynt addasu i ofynion allforio newydd a gwneud yn siŵr bod unrhyw newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth a bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid i foderneiddio’r ffordd y caiff y rheolaethau hyn eu gweithredu.
Corff gwarchod (watchdog)
Gall yr ASB edrych dros y system fwyd a monitro datblygiadau neu gynnydd tuag at gamau gweithredu sy’n cefnogi iechyd y cyhoedd, neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Byddwn yn defnyddio ein pwerau i gyhoeddi cyngor a gwybodaeth.
Rydym ni’n gwneud hyn drwy: gyhoeddi adroddiadau ar safonau bwyd, asesu graddfa bygythiadau troseddau bwyd, a chyhoeddi cyngor annibynnol i lywodraethau pan fyddwn o’r farn bod risgiau i ddiogelwch y cyhoedd neu i fuddiannau defnyddwyr. Byddwn yn ceisio defnyddio’r rôl hon fel corff gwarchod i ysgogi newidiadau mewn polisi, ymddygiad defnyddwyr ac ymddygiad busnesau.
Byddwn yn adolygu ac yn adrodd ar safonau a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn y DU, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban.
Byddwn yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth am droseddau bwyd, ac yna’n ymchwilio iddynt a tharfu arnynt fel rhan o’n rôl fel rheoleiddiwr.
Byddwn yn siarad yn gyhoeddus am feysydd sydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, pan fydd gennym dystiolaeth neu arbenigedd i’w hychwanegu.
Ein gwaith
Rydym ni’n adolygu ac yn adrodd ar safonau bwyd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth, sganio’r gorwel a chudd-wybodaeth. Rydym ni’n siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, pan fydd gennym ni dystiolaeth neu arbenigedd a allai wneud gwahaniaeth.
Pam rydym ni’n gwneud hyn
Fel sefydliad sy’n gweithio ar draws y system fwyd, gallwn helpu i nodi materion sy’n dod i’r amlwg, tueddiadau a risgiau posibl i ddefnyddwyr, a gwneud yn siŵr bod pawb sy’n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar y system fwyd yn ymwybodol ohonynt. Mae hyn yn ein helpu ni, ac eraill, i ddiogelu safonau bwyd uchel y DU a sicrhau bod pawb yn gallu parhau i gael bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
Ein nod
Byddwn yn defnyddio ein hannibyniaeth, ein llais a’n tystiolaeth i hysbysu a pherswadio eraill yn unol â’n hegwyddor i fod yn llais dibynadwy ar safonau bwyd, gan ddiogelu buddiannau defnyddwyr.
Ein gwaith yn y rôl hwn
Adroddiad Blynyddol i’r Senedd
Bydd yr ASB, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cyhoeddi adroddiad blynyddol newydd ar safonau bwyd yn 2022. Drwy gydol paratoadau’r DU ar gyfer Ymadael â’r UE, roedd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn glir y byddem yn gweithio i gynnal ein safonau uchel o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae ein hadroddiad blynyddol wedi’i ddatblygu i roi adroddiad annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddwyr am safonau bwyd y DU.
Bydd yr adroddiad yn cwmpasu cyflwr plât y genedl trwy roi trosolwg o arferion siopa a bwyta pobl: ble mae pobl yn prynu bwyd, ble mae pobl yn bwyta, beth maent yn ei fwyta, a faint maent yn ei wario ar fwyd. Bydd yn cwmpasu pryderon, diddordebau, a blaenoriaethau defnyddwyr o ran bwyd. Bydd yr adroddiad yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i archwilio’r cwestiwn craidd: a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal, yn cynyddu, neu’n gostwng ledled y DU?
Asesiadau Strategol o Droseddau Bwyd
Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi asesiadau strategol cyfnodol o droseddau bwyd. Mae’r asesiadau hyn yn disgrifio bygythiadau i’r DU a’i buddiannau yn sgil troseddau bwyd.
Er enghraifft, daeth yr asesiad blaenorol i’r casgliad bod y rhan fwyaf o droseddau bwyd yn ymwneud â dau ddosbarth eang o weithgarwch – naill ai ail-osod deunyddiau sydd ag ychydig neu ddim gwerth yn y gadwyn fwyd fel rhai y gellir eu bwyta a’u marchnata, neu werthu bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid arferol fel cynnyrch sydd â mwy o gyfaint neu briodoleddau mwy dymunol.
Rydym ni’n defnyddio’r asesiadau hyn i ddatblygu ein blaenoriaethau a darparu strategaethau i wrthsefyll y bygythiadau mwyaf niweidiol, ac i gyfeirio’r broses o gasglu gwybodaeth lle mae gennym fylchau o ran ein cwmpas neu ein dealltwriaeth. Disgwylir i’r asesiad strategol nesaf gael ei gyhoeddi ddechrau 2023.
Cynullydd a chydweithredwr
Dim ond un o’r gweithredwyr yn y system fwyd yw’r ASB. I gyflawni bwyd y gallwch ymddiried ynddo, bydd angen i ni weithio gyda rhannau eraill o’r llywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gweinyddiaethau datganoledig, Safonau Bwyd yr Alban ac awdurdodau lleol, ein cyflenwyr, y diwydiant, a chymdeithasau defnyddwyr.
Rydym ni’n disgwyl chwarae rôl cynullydd neu gydweithredwr ar gyfer llawer o’n gwaith cynnar ar fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy. Nid oes gennym ni gyfrifoldeb polisi ar gyfer y meysydd hyn, ar wahân i safonau maeth a labelu yng Ngogledd Iwerddon, ond rydym ni’n disgwyl y byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r adrannau sydd yn gyfrifol, ochr yn ochr â phartneriaid y tu allan i’r llywodraeth. Gallwn ddod â’n tystiolaeth a’n profiad o reoleiddio polisi bwyd i’n helpu i lywio datblygiad cynlluniau i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Ein gwaith
Rydym ni’n dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â phroblemau yn y system fwyd, gan weithio gyda rhannau eraill o’r llywodraeth, y byd academaidd, cymdeithas sifil a busnesau i gefnogi nodau ac amcanion a rennir. Rydym ni’n rhannu mewnwelediadau a thystiolaeth ar fuddiannau dinasyddion i helpu i lywio syniadau ar draws y llywodraeth.
Pam rydym ni’n gwneud hyn
Er mwyn sicrhau bod gweithredwyr (actors) dylanwadol yn y system fwyd yn cyd-weithio, oherwydd mae gan bob un ohonom rôl a chyfrifoldeb i greu system fwyd y gallwch ymddiried ynddi.
Ein nod
Byddwn hyd yn oed yn fwy rhwydweithiol gydag eraill yn y system fwyd. Rydym ni’n gweithredu yn unol â'n hegwyddor i weithio gydag eraill a thrwy eraill a datblygu perthnasoedd gwaith dyfnach. Bydd hyn yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl a busnesau, oherwydd gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd.
Ein gwaith yn y rôl hwn
Tyfu ein presenoldeb rhyngwladol
Strategaeth ryngwladol yr ASB yw cynyddu ein dylanwad i ddod yn llais cryfach a mwy dylanwadol ar lwyfan y byd. Rydym ni am ddefnyddio ein harbenigedd i helpu i ddatrys problemau a wynebir yn rhyngwladol, ac rydym ni am ddysgu oddi wrth reoleiddwyr eraill fel bod arferion gorau yn cael eu cymhwyso yn y DU. Rydym ni hefyd am wneud yn siŵr bod bwyd a fewnforir yn bodloni safonau uchel, felly byddwn yn chwarae ein rhan mewn sgyrsiau amlochrog am safonau bwyd.
Mae’r DU yn ddylanwadol mewn fforymau rhyngwladol, sy’n gosod safonau byd-eang o ran bwyd ac iechyd anifeiliaid a phlanhigion, a ddefnyddir hefyd gan Sefydliad Masnach y Byd. Mae’r cyfrifoldebau dros arwain gwaith gwahanol bwyllgorau’r Comisiwn Codex Alimentarius yn cael eu rhannu rhwng adrannau’r llywodraeth.
Mae’r ASB yn arwain ar bwyllgorau diogelwch bwyd, fel hylendid bwyd, ychwanegion bwyd a halogion; mae gan bwyllgorau eraill arweinwyr mewn adrannau eraill. Mae’r ASB hefyd yn weithgar o fewn Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
PATH-SAFE
Mae’r prosiect PATH-SAFE (Gwyliadwriaeth Pathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd) yn dod â’r ASB, Safonau Bwyd yr Alban, Defra, DHSC, yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd ac Asiantaeth yr Amgylchedd ynghyd i brofi’r defnydd o dechnolegau genomig wrth oruchwylio pathogenau a gludir gan fwyd a microbau ymwrthedd gwrthficrobaidd ym mhedair gwlad y DU.
Bydd cyllid o £19.2 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Canlyniadau a Rennir y Trysorlys yn cefnogi prosiect tair blynedd gyda’r nod o ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol peilot. Bydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes dilyniannu DNA a samplu amgylcheddol i wella’r broses o ganfod ac olrhain pathogenau a gludir gan fwyd a phathogenau ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy’r system fwyd-amaeth gyfan o’r fferm i’r fforc. Mae hon yn enghraifft dda o gyflawni ein hegwyddorion o weithio gydag eraill a thrwy eraill, a chael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth.
Safonau Bwyd Mewn Ysgolion
Rydym ni’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran dros Addysg, Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau, ac awdurdodau lleol i asesu a gwella lefelau cydymffurfio â Safonau Bwyd mewn Ysgolion. Mae’r safonau hyn yn orfodol ar gyfer ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn Lloegr, ac yn gosod safonau maeth gofynnol ar gyfer bwyd ysgolion.
Gan ddefnyddio ein gwybodaeth am y system fwyd a’n profiad o weithio gydag awdurdodau lleol, rydym ni’n cynnal cyfres o gynlluniau peilot i brofi sut y gellir sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau yn well.
Hanes diwygio
Published: 15 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Medi 2023