Ein dull ni o weithio a’r cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo
Rydym yn defnyddio dull gwyddonol, seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Ein dull o weithio
Rydym wedi datblygu saith prif egwyddor sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein strategaeth.
Ein prif egwyddorion:
- Ni yw’r llais dibynadwy ar safonau bwyd, gan ddiogelu buddiannau defnyddwyr
- Rydym yn cael ein harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth
- Rydym yn agored ac yn dryloyw
- Rydym yn gweithio gydag eraill, a thrwy eraill
- Rydym yn ei gwneud yn haws i fusnesau gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud
- y peth iawn i ddefnyddwyr
- Rydym yn seiliedig ar risg ac yn gymesur
- Rydym yn arloesol
Mwy o wybodaeth am ein prif egwyddorion.
Oeddech chi'n gwybod bod 89% o bobl wedi clywed am yr ASB. Ac o’r bobl
hynny, mae 79% yn ymddiried ynom i wneud ein gwaith
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2 (cyhoeddwyd Ebrill 2024)
Y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo
Yn y sector bwyd yn y DU:
- £128.3 biliwn = Cyfraniad y sector bwyd-amaeth i’r Gwerth Ychwanegol Gros cenedlaethol yn 2021 (DU)
- 4.2 miliwn o bobl = Wedi’u cyflogi yn y sector bwyd-amaeth yn 2022 (Prydain Fawr)
- £254 biliwn = Gwariant defnyddwyr ar fwyd, diod ac arlwyo yn 2022 (DU)
- £20.2 biliwn = Allforion bwyd, bwyd anifeiliaid a diodydd yn 2021 (DU)
Ffynhonnell: “Food Statistics National Statistics in your pocket”
O'r 600,000+ o fusnesau bwyd cofrestredig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon:
- 4,000+ o gynhyrchwyr cynradd
- 17,000 o weithgynhyrchwyr a phacwyr
- 1,000+ o fewnforwyr/allforwyr
- 9,000+ o ddosbarthwyr a chludwyr
- 121,000+ o fanwerthwyr
- 407,000+ o fwytai ac arlwywyr
Ffynhonnell: Ffigurau blynyddol ar gyfer gwaith gorfodi cyfraith bwyd mewn awdurdodau lleol (2021/22 a 2019/20)
Hanes diwygio
Published: 20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Gorffennaf 2024