Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Llyfryn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Ein cenhadaeth a’n gweledigaeth

Ein cenhadaeth yw ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, a’n gweledigaeth ar gyfer y system fwyd yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 May 2024

Mae bwyd yn ddiogel

Mae bwyd yn hanfodol i bawb, bob dydd. Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddisgwyl na fydd y bwyd rydym yn ei fwyta yn ein gwneud yn sâl. Dyna pam y byddwn yn blaenoriaethu cadw lefel clefydau a gludir gan fwyd yn isel. Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd.

Maent yn cynnwys gosod y rheoliadau diogelwch bwyd, monitro’r system arolygu diogelwch bwyd, ein gwaith arolygu uniongyrchol yn y diwydiannau cig, llaeth a gwin, a’n rhaglenni gwyliadwriaeth a’n rhaglenni ataliol. 

Rydym hefyd yn ymateb i ddigwyddiadau bwyd, gan weithredu i ddiogelu defnyddwyr pan fydd pryder am ddiogelwch neu ansawdd bwyd a bwyd anifeiliaid. Er mwyn cyflawni’r rhan hon o’n gweledigaeth, bydd angen i ni barhau i arloesi, esblygu ac ymateb i newidiadau ar draws y system fwyd.

Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Dylai defnyddwyr fod yn hyderus bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dyna pam y byddwn yn sicrhau bod bwyd yn ddilys ac wedi’i ddisgrifio’n gywir. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cyhoedd, a’n partneriaid masnachu rhyngwladol, yn hyderus am fwyd y DU. Mae cysylltiad agos hefyd rhwng dilysrwydd bwyd a diogelwch bwyd.

Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Os ydym am ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, rhaid i ni hefyd gyfrannu at ymdrechion i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Ni yw’r unig adran sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fwyd, ac felly byddwn yn defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd i annog a chyfrannu at newid cadarnhaol. 

Mae angen i ni chwarae ein rhan wrth gefnogi partneriaid y llywodraeth ac eraill yn y system fwyd ehangach i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ddeiet iachach a mwy cynaliadwy.

Ein strategaeth

Mae’r sector bwyd yn datblygu’n gyflym, a hynny oherwydd technolegau newydd a modelau busnes newidiol, fel pobl yn prynu bwyd trwy lwyfannau ar-lein, sef maes sy’n tyfu’n gyflym iawn. Mae’r sector bellach yn delio ag effaith prisiau bwyd ac ynni uwch, prinder llafur, ac effeithiau costau byw wrth i ddefnyddwyr a busnesau geisio torri costau a’u defnydd o ynni.

I adlewyrchu’r amgylchedd newydd hwn sy’n newid yn gyflym, mae ein strategaeth yn nodi egwyddorion ar gyfer sut y byddwn yn gweithredu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi arloesedd, sicrhau ein bod yn seiliedig ar risg ac yn gymesur, a’i gwneud yn haws i fusnesau wneud y peth iawn i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Rydym yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio data a thechnoleg newydd i wneud rheoleiddio yn fwy cymesur, a gweithio gyda busnesau dylanwadol i ysgogi newid.

Darllenwch ein strategaeth.