Dave Holland - Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Bu Dave yn gweithio am bron i 40 mlynedd ym myd llywodraeth leol, gan arwain ar ystod o wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Rheoleiddio. Mae wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar nifer o faterion polisi yn ymwneud â diogelu defnyddwyr, diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd.
Mae cefndir proffesiynol Dave yn cynnwys gweithio fel Swyddog Safonau Masnach, gan arbenigo mewn cyfraith diogelwch cynhyrchion. Wrth i’w yrfa fynd yn ei blaen, daeth Dave yn gyfrifol am faterion Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu, yn gyntaf yng Nghaerdydd ac yna fel Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sef menter gydweithredol sy’n cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Roedd Dave yn Gadeirydd Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd rhwng 2018 a 2021. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n arwain ar y gwaith o gydlynu ymateb sefydliadau proffesiynol i faterion fel trychineb Grenfell a’r pandemig COVID-19.
Mae gan Dave hanes hir o weithio yn y byd busnes i helpu busnesau bach i lywio cymhlethdodau deddfwriaeth diogelu defnyddwyr, a hynny trwy gynlluniau fel Partneriaeth Busnesau Caerdydd, Egwyddor yr Awdurdod Cartref, ac yn fwyaf diweddar hyrwyddo cysyniad y Cynllun Prif Awdurdod.