Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr ASB: Ein huchelgeisiau a’n dangosyddion cynnydd

Mae'r cynllun hwn yn nodi mai ein cenhadaeth yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo, a’n gweledigaeth yw bwyd diogel, bwyd sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a bwyd iachach a mwy cynaliadwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae ein strategaeth yn nodi mai ein cenhadaeth yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo, a’n gweledigaeth yw bwyd diogel, bwyd sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a bwyd iachach a mwy cynaliadwy.

Rydym nawr yn gosod ein huchelgais ar gyfer ein cenhadaeth a’n gweledigaeth dros y 3 blynedd nesaf.

Diagram cynnal bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Ein huchelgeisiau 

  • cynnal bwyd y gallwch ymddiried ynddo: ein huchelgais yw y bydd ymddiriedaeth a hyder yn y system fwyd, ac yn yr ASB, yn parhau ar eu lefelau uchel presennol
  • cynnal safonau bwyd, fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label: ein huchelgais yw cynnal y lefelau uchel presennol o ddiogelwch a dilysrwydd bwyd yn y DU
  • cynyddu ein cyfraniad at – a’n dylanwad ar – fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy: ein huchelgais yw cynyddu ein cyfraniad at fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy, gan adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i ddechrau 

Er mwyn monitro a yw ein cenhadaeth a’n gweledigaeth yn cael eu cyflawni, mae angen i ni wybod beth sy’n digwydd yn y system fwyd. Ar ôl pennu ein huchelgais ar gyfer ein cenhadaeth a’n gweledigaeth, rydym wedi nodi nifer o ddangosyddion cynnydd sy’n rhoi trosolwg o p’un a yw’r system fwyd yn parhau i ddarparu bwyd y gallwch ymddiried ynddo neu a oes meysydd sydd angen mwy o sylw.   

Mae’r dangosyddion yn tynnu ar ddata a gwybodaeth bresennol a ddarperir yng nghyhoeddiadau’r ASB, fel yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfunol, yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd ac adroddiadau ymchwil manylach. Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau blynyddol ar ein dangosyddion cynnydd, gan sicrhau ein bod yn atebol i’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd.

Mae gwerthuso effaith yr ASB ar y system fwyd yn broses gymhleth, ac mae angen ystyried data yng nghyd-destun dylanwadau a newidiadau ehangach sy’n effeithio ar y system fwyd. Bydd y dangosyddion hyn yn rhoi cipolwg a fydd yn tynnu sylw at newidiadau yn y system fwyd y gallai fod angen ymchwilio ac ymateb iddynt, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i sicrhau bwyd y gallwch ymddiried ynddo. 

Nodir isod y dangosyddion cynnydd sy’n dod o dan bob rhan o’r genhadaeth a’r weledigaeth.

Cynnal bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Un o’r rhesymau dros sefydlu’r ASB oedd er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn diogelwch bwyd ar ôl cyfres o arswydon proffil uchel am fwyd yn ystod y 1980au a’r 90au. Mae bwyd y gallwch ymddiried ynddo yn parhau i fod yn genhadaeth i ni yn yr ASB.

Ein huchelgais yw sicrhau bod ymddiriedaeth a hyder yn y system fwyd, ac yn yr ASB, yn parhau ar eu lefelau uchel presennol. Mae amrywiaeth eang o ffactorau yn effeithio ar ymddiriedaeth yn y system fwyd, gan gynnwys penderfyniadau busnesau bwyd, y ffordd y caiff y system ei rheoleiddio a’r ffordd yr adroddir arni. Mae ymddiriedaeth yn yr ASB ei hun yn dibynnu ar ein cymhwysedd, amlygrwydd ein gwaith a sut rydym yn gweithredu’n gyson â buddiannau defnyddwyr. 

Dangosyddion cynnydd ar ymddiriedaet

Cwestiynau arolwg Bwyd a Chi 2 yr ASB ar ymddiriedaeth, gan gynnwys: 

  • mae’r bwyd rydych yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta
  • mae’r wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir
  • gallwn ddibynnu ar yr ASB i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n ymwneud â bwyd

Ymchwil i ymddiriedaeth rhanddeiliaid yn yr ASB.

Cynnal bwyd sy’n ddiogel ac sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label

Gwaith yr ASB, fel y nodir yn Neddf Safonau Bwyd 1999, yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau sy’n codi mewn cysylltiad â bwyta bwyd, a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae busnesau bwyd eu hunain yn gyfrifol am sicrhau bod y bwyd y maent yn ei gynhyrchu a’i gyflenwi yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae llawer o waith yr ASB, gan gynnwys llawer o’r swyddogaethau statudol rydym yn eu cyflawni, wedi’i anelu at sicrhau bod y system hon yn gweithio ac yn cefnogi diogelwch a dilysrwydd bwyd yn y DU. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio’n uniongyrchol a chyda phartneriaid fel awdurdodau lleol.

Rydym yn rhagweld y bydd heriau yn dal i wynebu’r system fwyd dros y 3 blynedd nesaf. Bydd pwysau economaidd yn parhau i effeithio ar ddefnyddwyr a busnesau. Mae cyllid awdurdodau lleol a phrinder staff hefyd yn risg barhaus. Er mwyn parhau i ddiogelu defnyddwyr, ein huchelgais yw cynnal y lefelau uchel presennol o ddiogelwch a dilysrwydd bwyd yn y DU. 

Dangosyddion cynnydd ar fwyd sy’n ddiogel ac sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label 

  • Cyfraddau clefydau a gludir gan fwyd (4 prif bathogen)
    Cyfraddau cydymffurfiaeth busnesau (Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ac arolygiadau o sefydliadau prosesu cig ac arolygiadau hylendid llaeth)
    Samplu bwyd wedi’i dargedu i gadarnhau bod cynhyrchion bwyd yn cydymffurfio (Arolwg Basged nwyddau’r ASB)
    Digwyddiadau bwyd 
    Digwyddiadau bwyd sy’n gysylltiedig ag alergenau

Cyfrannu at fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy

Os ydym am ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, rhaid i ni hefyd gyfrannu at ymdrechion i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy. Ni yw’r unig adran sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fwyd, ac felly byddwn yn defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd, i annog a chyfrannu at newid cadarnhaol.

Mewn rhai meysydd, mae gennym rôl wedi’i diffinio’n glir, er enghraifft, ein cyfrifoldebau polisi mewn perthynas â bwyd iachach yng Ngogledd Iwerddon. Y tu hwnt i’r rolau diffiniedig hyn, mae gennym fwy o ddisgresiwn i benderfynu sut rydym yn cyfrannu at ddarparu bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy. Rydym yn gweithio i nodi’r ffordd orau i ni wneud hyn o fewn ein cylch gwaith a’n swyddogaethau statudol, er enghraifft drwy gyhoeddi tystiolaeth yn rhinwedd ein rôl fel corff gwarchod neu gyfrannu at brosiectau trawslywodraethol.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn gyfrifol am bolisi iechyd deietegol, gwyliadwriaeth, a labelu, cyfansoddiad a safonau maeth. Er nad oes gennym y cyfrifoldebau hyn yng Nghymru, rydym yn dilyn gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effeithiau hirdymor eu gweithredoedd, gan gynnwys ar anghydraddoldebau o ran iechyd a’r amgylchedd. Er nad ydym ni’n gorff a enwir o dan y ddeddf, rydym yn gweithio i’r egwyddorion sydd ynddi. 

Rydym hefyd yn gweithio drwy’r fframweithiau 4 gwlad, sef prosesau trawslywodraethol sy’n sicrhau dull gweithredu cyffredin mewn meysydd polisi datganoledig, a chydag ystod eang o randdeiliaid i gyfrannu at iechyd a chynaliadwyedd ledled y DU a thu hwnt. 
 

Dangosyddion cynnydd ar fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy 

Gogledd Iwerddon

Astudiaethau achos a data, gan gynnwys:

  • Rhaglen Bwyta’n Iach, Dewis yn Well yr ASB ac arolygon cysylltiedig
  • Calorie Wise
  • MenuCal

Cyfrannu mwy
Astudiaethau achos a data, er enghraifft:

  • Safonau Bwyd mewn Ysgolion
  • Cydweithio gyda WRAP* i leihau gwastraff bwyd

* Mae’r Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd.
 

Data Arolwg Bwyd a Chi 2 ar ymddygiad defnyddwyr

Gweler atodiad 2 i gael y data diweddaraf ar y dangosyddion. Byddwn yn darparu diweddariadau ar y dangosyddion hyn bob blwyddyn, gan ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd fel bod modd i’r  dangosyddion ddatblygu dros amser.