Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr ASB: Cyflwyniad

Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn disgrifio sut y byddwn yn troi uchelgeisiau ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Diben y cynllun

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd yr ASB ei strategaeth bum mlynedd a’i gweledigaeth ar gyfer y system fwyd, gan nodi ei chyfeiriad tan fis Mawrth 2027. Gwnaethom hefyd gyhoeddi cyfres o flaenoriaethau i’w cyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y strategaeth, gydag ymrwymiad i gyhoeddi cynllun corfforaethol 3 blynedd ar gyfer y 3 blynedd ariannol nesaf (3 i 2023).

Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn rhoi’r strategaeth ar waith. Mae’n pontio’r bwlch rhwng yr uchelgeisiau yn ein strategaeth a’n cynlluniau busnes blynyddol manylach. Mae hefyd yn cynnwys dangosyddion cynnydd i nodi sut y byddwn yn gwerthuso’r cynnydd a wneir yn erbyn ein strategaeth.

Ein cyd-destun a’n dull hyblyg

Pwysleisiodd ein strategaeth fod angen i’n dull fod yn hyblyg, a hynny mewn cyd-destun lle mae’r dirwedd yn newid yn gyflym. Amlygodd hefyd fod cyflymder y newid mewn technoleg a modelau busnes yn y system fwyd yn parhau i gyflymu.

Ers i ni gyhoeddi’r strategaeth, mae digwyddiadau wedi golygu ein bod wedi gorfod ailflaenoriaethu ein gwaith. Mae’r heriau hyn a’r pwysau cysylltiedig ar ein hadnoddau yn debygol o barhau yn y blynyddoedd i ddod ac mae’n rhaid i’n gwaith cynllunio roi’r hyblygrwydd i ni ymateb. Rydym felly wedi sicrhau bod y cynllun yn caniatáu digon o hyblygrwydd drwy fod yn eglur ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i ni, y dylem ni, neu y gallem ni ei gyflawni, fel y mae adnoddau’n caniatáu.

Mae hyn wedi’i lywio gan ein setliad yn Adolygiad o Wariant 2021 Trysorlys EF, a ddarparodd, yn y bôn, gyllideb wastad ar gyfer pob un o dair blynedd y cyfnod adolygu hyd at 3. Felly, mae angen i ni fabwysiadu cynllun y gellir ei gyflawni o fewn ein hadnoddau presennol ac sy’n caniatáu i ni ymdopi â phwysau chwyddiant neu bwysau annisgwyl. 

Strwythur y cynllun

Mae dwy ran i’r cynllun hwn:

  • mae ein huchelgeisiau a’n dangosyddion cynnydd yn nodi pa mor bell yr ydym am fynd â’n cenhadaeth a’n gweledigaeth ar gyfer y 3 blynedd nesaf, a sut y byddwn yn monitro hyn. Mae Atodiad 3 yn cynnwys mwy o fanylion am y dangosyddion cynnydd
  • mae ein hamcanion yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’r uchelgeisiau hyn. Mae Atodiad 1 yn cynnwys mwy o fanylion am y gweithgareddau y byddwn yn gweithio arnynt dros y 3 blynedd nesaf

Gweithio ar draws 3 a 4 gwlad

Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu rôl yr ASB ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, gan adlewyrchu ein dull ‘Un ASB’. Ar gyfer pob un o’r amcanion, rydym wedi ystyried amgylchiadau penodol pob gwlad, a byddwn yn sicrhau bod rhanddeiliaid o bob gwlad yn cael eu hysbysu a’u clywed. Rydym hefyd yn cydweithio â Safonau Bwyd yr Alban, yn unol â’n hymrwymiadau i weithio ar draws y 4 gwlad. Mae rhagor o wybodaeth am yr ASB yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon yn ein cynllun blaenoriaeth ar gyfer Cymru ac yn yr adroddiad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.