Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr ASB: Cyflwyniad
Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn disgrifio sut y byddwn yn troi uchelgeisiau ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn.
Diben y cynllun
Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd yr ASB ei strategaeth bum mlynedd a’i gweledigaeth ar gyfer y system fwyd, gan nodi ei chyfeiriad tan fis Mawrth 2027. Gwnaethom hefyd gyhoeddi cyfres o flaenoriaethau i’w cyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y strategaeth, gydag ymrwymiad i gyhoeddi cynllun corfforaethol 3 blynedd ar gyfer y 3 blynedd ariannol nesaf (3 i 2023).
Mae’r cynllun corfforaethol 3 blynedd hwn (y cynllun) yn rhoi’r strategaeth ar waith. Mae’n pontio’r bwlch rhwng yr uchelgeisiau yn ein strategaeth a’n cynlluniau busnes blynyddol manylach. Mae hefyd yn cynnwys dangosyddion cynnydd i nodi sut y byddwn yn gwerthuso’r cynnydd a wneir yn erbyn ein strategaeth.
Ein cyd-destun a’n dull hyblyg
Pwysleisiodd ein strategaeth fod angen i’n dull fod yn hyblyg, a hynny mewn cyd-destun lle mae’r dirwedd yn newid yn gyflym. Amlygodd hefyd fod cyflymder y newid mewn technoleg a modelau busnes yn y system fwyd yn parhau i gyflymu.
Ers i ni gyhoeddi’r strategaeth, mae digwyddiadau wedi golygu ein bod wedi gorfod ailflaenoriaethu ein gwaith. Mae’r heriau hyn a’r pwysau cysylltiedig ar ein hadnoddau yn debygol o barhau yn y blynyddoedd i ddod ac mae’n rhaid i’n gwaith cynllunio roi’r hyblygrwydd i ni ymateb. Rydym felly wedi sicrhau bod y cynllun yn caniatáu digon o hyblygrwydd drwy fod yn eglur ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i ni, y dylem ni, neu y gallem ni ei gyflawni, fel y mae adnoddau’n caniatáu.
Mae hyn wedi’i lywio gan ein setliad yn Adolygiad o Wariant 2021 Trysorlys EF, a ddarparodd, yn y bôn, gyllideb wastad ar gyfer pob un o dair blynedd y cyfnod adolygu hyd at 3. Felly, mae angen i ni fabwysiadu cynllun y gellir ei gyflawni o fewn ein hadnoddau presennol ac sy’n caniatáu i ni ymdopi â phwysau chwyddiant neu bwysau annisgwyl.
Strwythur y cynllun
Mae dwy ran i’r cynllun hwn:
- mae ein huchelgeisiau a’n dangosyddion cynnydd yn nodi pa mor bell yr ydym am fynd â’n cenhadaeth a’n gweledigaeth ar gyfer y 3 blynedd nesaf, a sut y byddwn yn monitro hyn. Mae Atodiad 3 yn cynnwys mwy o fanylion am y dangosyddion cynnydd
- mae ein hamcanion yn nodi sut y byddwn yn cyflawni’r uchelgeisiau hyn. Mae Atodiad 1 yn cynnwys mwy o fanylion am y gweithgareddau y byddwn yn gweithio arnynt dros y 3 blynedd nesaf
Gweithio ar draws 3 a 4 gwlad
Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu rôl yr ASB ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, gan adlewyrchu ein dull ‘Un ASB’. Ar gyfer pob un o’r amcanion, rydym wedi ystyried amgylchiadau penodol pob gwlad, a byddwn yn sicrhau bod rhanddeiliaid o bob gwlad yn cael eu hysbysu a’u clywed. Rydym hefyd yn cydweithio â Safonau Bwyd yr Alban, yn unol â’n hymrwymiadau i weithio ar draws y 4 gwlad. Mae rhagor o wybodaeth am yr ASB yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon yn ein cynllun blaenoriaeth ar gyfer Cymru ac yn yr adroddiad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.
Hanes diwygio
Published: 10 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Gorffennaf 2023