Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd: Atodiad 1: Ein gweithgareddau

Mae'r atodiad hwn ynrhannu pob amcan yn gyfres o weithgareddau mwy manwl a phenodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Ein dull hyblyg

Rydym wedi rhannu pob amcan yn gyfres o weithgareddau mwy manwl a phenodol. O ystyried ein cyd-destun, mae angen i ni fod yn hyblyg o ran yr hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni yn ystod y 3 blynedd nesaf.

I adlewyrchu hyn, rydym wedi rhannu ein gweithgareddau ymhellach i dri is-gategori:

  • rhaid: pethau y mae’n rhaid i ni eu cyflawni’n ddi-amod, a allai fod yn gyfrifoldebau statudol y mae angen i ni barhau i’w bodloni neu’n newidiadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod y system reoleiddio’n parhau i ddiogelu defnyddwyr.
  • dylid: pethau y byddwn yn ceisio eu cyflawni ond efallai y bydd angen eu hailasesu os bydd amgylchiadau’n newid.
  • gellid: pethau y byddwn yn eu cyflawni dim ond os bydd adnoddau ac amgylchiadau’n caniatáu

Byddwn yn adolygu cydbwysedd yr hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni yn ein cynlluniau busnes blynyddol. Byddwn yn eu trafod yn ein Pwyllgor Busnes ym mis Mawrth bob blwyddyn.

Cynhyrchydd tystiolaeth

Amcan (craidd): Byddwn yn sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a byddwn yn rhannu’r dystiolaeth hon i lywio a dylanwadu ar eraill (defnyddwyr, busnesau a llunwyr polisi).

Gweithgaredd Manylion pellach 
[EG1] Rhaid i ni sicrhau bod penderfyniadau ar ddadansoddi risg a gwaith ‘craidd a newid’ sy’n flaenoriaeth yn cael eu llywio gan wyddoniaeth a thystiolaeth amserol a chadarn. 

Bydd hyn yn cynnwys darparu asesiad risg, ymchwil a thystiolaeth ar gyfer blaenoriaethau a ddisgrifir mewn mannau eraill yn y cynllun hwn, fel yr Adolygiad o Gyfraith yr UE a Ddargedwir, y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau a’n gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig. 

Bydd y gwaith hwn yn parhau bob blwyddyn, yn unol ag anghenion tystiolaeth.

Amcan (newid): Byddwn yn adeiladu tystiolaeth, gan gynnwys trwy wyddoniaeth ac ymchwil, fel y gallwn ragweld cyfleoedd a risgiau ar draws system fwyd y DU. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
[EG2] Rhaid i ni ddatblygu labordai a chyfundrefn samplu sy’n addas at y diben ac yn wydn at y dyfodol er mwyn sicrhau diogelwch a dilysrwydd bwyd. 

Mae labordai swyddogol dadansoddwyr cyhoeddus yn cynnal dadansoddiadau cemegol a chyfansoddiadol ar samplau bwyd a bwyd anifeiliaid, a anfonir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd at ddibenion gorfodi a gwyliadwriaeth. Mae angen ymyrraeth uniongyrchol i sicrhau bod y DU yn cadw ac yn meithrin y capasiti a’r galluogrwydd profi sydd ei angen i gynnal profion rheolaidd, cefnogi digwyddiadau a chynnal gwaith dadansoddi sy’n gysylltiedig ag ymchwil.
Rydym wedi nodi dull 3 cham ar gyfer mynd i’r afael â hyn. Byddwn yn cyflawni cam 2 yn 2023/24 a 2024/25, ac yna’n symud i gam 3 yn 2025/26.

[EG3] Dylem nodi a phrofi datblygiadau technegol a gwyddonol arloesol er mwyn gwella galluoedd yr ASB a’n partneriaid.

Mae hyn yn cynnwys dulliau profi newydd mewn labordai i wella ein galluoedd gwyliadwriaeth fel dilyniannu genomau a phrofion dŵr gwastraff. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno drwy’r rhaglen draws-lywodraethol ar gyfer Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE). Yn 2023/24 byddwn yn parhau i ddatblygu’r rhaglen, yn barod ar gyfer treialu dulliau newydd yn 2024/25 a 2025/26.

Mae hefyd yn cynnwys dulliau gweithredu a dulliau dadansoddol newydd i’n helpu i wneud defnydd gwell o ddata, fel ymddiriedolaethau data, y byddwn yn eu harchwilio yn 2024/25.

[EG4] Dylem gynnal a, lle bo angen, adeiladu ein sylfaen dystiolaeth ar ddiddordeb y cyhoedd mewn bwyd.

Mae hyn yn cynnwys gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad pobl. Byddwn yn parhau i gyhoeddi ymchwil ar ein gwefan ac yn ei defnyddio i lywio ein holl waith. Bydd hyn hefyd yn darparu gwybodaeth i gefnogi ein Hadroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd, a drafodir isod yn yr adran ar ein rôl fel corff gwarchod.

Yn 2023/24, byddwn yn canolbwyntio ar effaith diffyg diogeledd bwyd cartrefi, ac yna, yn 2024/25 a 2025/26, efallai y gallwn ddechrau ehangu cwmpas ein tystiolaeth i ystyried deietau iachach a mwy cynaliadwy, yn unol â strategaeth yr ASB.  Rydym yn bwriadu gweithio gydag eraill i gyflawni hyn, gan gynnwys drwy gymryd rhan yn Nhreialon Bwyd SALIENT. Byddwn yn helpu i gynllunio a gwerthuso cyfres o dreialon ar draws y sector bwyd i annog deietau iach a chynaliadwy.
 

Pe bai adnoddau’n caniatáu, gallem wneud y canlynol: 

[EG5] dechrau adeiladu mwy o dystiolaeth ar gostau allanol bwyd a fwyteir yn y DU o ran yr amgylchedd ac iechyd pobl, er mwyn dangos pa mor bwysig yw safon bwyd

Lluniwr polisi

Amcan (craidd): Byddwn yn gwneud argymhellion cadarn ac yn cefnogi gweinidogion i wneud penderfyniadau gwybodus ar reolau yn ymwneud â bwyd, yn seiliedig ar dystiolaeth ac asesiadau annibynnol. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
[PM1] Rhaid i ni gynnal proses dadansoddi risg effeithiol ac effeithlon, gan gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws 4 gwlad y DU.

Dadansoddi risg yw’r broses o asesu, rheoli a chyfleu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan wneud argymhellion cadarn ac annibynnol ar ddiogelwch a safonau bwyd i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae ein proses dadansoddi risg yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i ddarparu cyngor i’r llywodraeth, busnesau a defnyddwyr ar risgiau diogelwch bwyd a’r hyn y dylid ei wneud yn eu cylch. Drwy wneud hyn, rydym yn sicrhau safonau uchel o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac yn diogelu defnyddwyr.

Mae hyn yn weithgaredd parhaus, a byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon bob blwyddyn.

[PM2] Rhaid i ni wneud argymhellion i Weinidogion ynghylch pa gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid y dylid eu hawdurdodi i’w gwerthu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr a chynghori ar oblygiadau newidiadau rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae angen i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Mae’r ASB, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnal proses dadansoddi risg ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig ac yn darparu cyngor i Weinidogion, a fydd yn penderfynu a ellir rhoi’r cynnyrch ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Byddwn yn parhau i roi cyngor ar oblygiadau newidiadau rheoleiddiol yng Ngogledd Iwerddon, o dan Brotocol Gogledd Iwerddon a Fframwaith Windsor. Mae hwn yn weithgarwch parhaus. Rydym yn parhau i gyflawni ein rhaglen o welliannau parhaus, sy’n canolbwyntio ar wneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon, er enghraifft trwy wella cymorth i ymgeiswyr a symleiddio ein prosesau.  Byddwn yn cynnwys camau gwella penodol yn ein cynlluniau blynyddol. 
[PM3] Rhaid i ni asesu a gwneud argymhellion ar geisiadau mynediad i’r farchnad a chynnig mewnbwn technegol i adrannau eraill y llywodraeth ar faterion “Iechydol a Ffytoiechydol” a “Rhwystrau Technegol i Fasnachu” mewn cytundebau masnach. 

Byddwn yn parhau i gefnogi gwaith y llywodraeth ar gyfleoedd masnach i’r DU, gan ddarparu asesiadau risg o wledydd sydd am ddechrau mewnforio i’r DU a dangos ein trefniadau diogelwch bwyd ein hunain i wledydd rydym yn allforio iddynt. Rydym yn rhoi cyngor i weinidogion ynghylch a yw Cytundebau Masnach Rydd yn cynnal amddiffyniadau statudol ar gyfer iechyd dynol i gefnogi adroddiadau a gaiff eu llunio ar gyfer Senedd y DU o dan Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Rydym hefyd yn rhoi cyngor ar geisiadau i gael mynediad i’n marchnadoedd ar gyfer nwyddau penodol. 

Mae hwn yn weithgarwch parhaus. Bydd ein cyngor ar Gytundebau Masnach Rydd yn parhau i gael ei ddatblygu ar gais, ar ôl cytuno ar gytundebau newydd. Yn 2023/24, rydym yn rhagweld y byddwn yn cytuno ar gytundeb lefel gwasanaeth gyda Defra ar gyfer mynediad i’r farchnad fewnforion, ac os felly byddwn yn cyflawni yn unol â’r cytundeb hwnnw. 

Mae’r gweithgaredd hwn hefyd yn cysylltu â’n rôl fel corff gwarchod isod, gan roi sicrwydd i’r senedd a’r cyhoedd ar gytundebau masnach.

[PM4] Rhaid i ni ddarparu cyngor polisi i gefnogi’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol effeithiol sy’n seiliedig ar risg. 

Cyfeirir at weithgareddau fel arolygiadau, archwiliadau a gwyliadwriaeth, a samplu mewn busnesau bwyd yn rheolaethau swyddogol. Byddwn yn sicrhau cyngor polisi ac argymhellion clir ac amserol i gefnogi’r broses rheolaethau swyddogol, sy’n gwneud y defnydd gorau o’r dystiolaeth sydd ar gael, gan ymgysylltu’n gynnar ar draws holl wledydd y DU i leihau gwahaniaethau lle bo’n briodol.

Mae hyn yn weithgarwch parhaus, ond byddwn yn gosod nodau polisi penodol yn ein cynlluniau blynyddol i adlewyrchu materion sy’n codi ar y pryd.

[PM5] Rhaid i ni reoli achosion o ddargyfeirio, cyflawni ein rhwymedigaethau o ran y fframwaith cyffredin a sicrhau cysondeb i ddefnyddwyr a busnesau ledled y DU.

Mae natur ddatganoledig penderfyniadau polisi bwyd yn golygu, gan fod Prydain Fawr bellach y tu allan i system gyson yr UE, fod systemau rheoleiddio gwahanol wledydd y DU wedi dechrau dargyfeirio eisoes. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhannau eraill o’r llywodraeth i geisio consensws o ran y cyngor a roddwn i weinidogion ym mhob gwlad . Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn Fframweithiau Cyffredin, sef prosesau traws-lywodraethol sy’n sicrhau bod dull cyffredin yn cael ei fabwysiadu mewn meysydd polisi datganoledig.

Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud, gan sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faterion dargyfeirio wrth ddatblygu polisi.

[PM6] Rhaid i ni sicrhau bod safonau bwyd ac iechyd y cyhoedd yn cael eu cynnal, o dan drefniadau Fframwaith Windsor ar gyfer masnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. 

Ar 27 Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod wedi dod i gytundeb rhyngwladol newydd gyda’r UE ar newidiadau i drefniadau ymarferol ar gyfer Protocol Gogledd Iwerddon. 

Rhaid i’r ASB weithredu agweddau ar y cytundeb newydd, gan ddechrau ddiwedd 2023/24 hyd at 2025. 

[PM7] Rhaid i ni gyflwyno cyfres o Offerynnau Statudol yng Nghymru a Lloegr a Rheoliadau Statudol yng Ngogledd Iwerddon, er mwyn bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau i REUL y cytunwyd arnynt.

Mae Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd yn cynnwys rhestr o Gyfreithiau’r UE a Ddargedwir (REUL) a fydd yn cael eu dirymu’n uniongyrchol ar ddiwedd 2023 drwy amserlen ddirymu. Bydd pob Rheoliad arall yr UE yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i ddeddfwriaeth ddomestig y DU ar yr un dyddiad. Byddwn yn adolygu pob darn o REUL o fewn ein cylch gwaith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn cynghori gweinidogion ar bob un ohonynt. Bydd angen i ni sicrhau bod y corff o gyfreithiau yn parhau i weithio’n effeithiol yn ei gyfanrwydd, ac yn cyflawni rhwymedigaethau sy’n deillio o gytundebau rhyngwladol. Byddwn yn gwneud hyn wrth ddatblygu rhaglen ddiwygio er mwyn manteisio i’r eithaf ar allu’r ASB i ysgogi newid.

Gwneir gwaith cychwynnol i adolygu REUL ym mlwyddyn gyntaf y cynllun hwn, gyda diwygiadau tymor hwy yn cael eu cyflawni yn 2024/25 a 2025/26.

Amcan (newid): Byddwn yn creu dull rheoleiddio cymesur, effeithiol, effeithlon sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy’r broses dadansoddi risg a’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n diogelu defnyddwyr ac yn dileu rhwystrau i arloesi. 

Gweithgaredd Manylion pellach
[PM8] Rhaid i ni ddatblygu trefn reoleiddio newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl.

Mae bridio manwl yn disgrifio ystod o dechnegau genetig a all newid DNA planhigion ac anifeiliaid mewn ffordd gyflymach a mwy manwl, ond gan arwain at ganlyniadau y gellid bod wedi’u cyflawni gan ddefnyddio dulliau confensiynol. 

Mae’r Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn rheoleiddio planhigion ac anifeiliaid sydd wedi’u bridio’n fanwl a ddefnyddir yn Lloegr. Er mwyn cefnogi hyn a diogelu defnyddwyr, byddwn yn parhau i ddatblygu proses awdurdodi cyn marchnata newydd yn seiliedig ar dystiolaeth, proses orfodi a chofrestr gyhoeddus ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a ddatblygir gan ddefnyddio’r technolegau hyn. Byddwn hefyd yn parhau i gynghori gweinidogion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ar oblygiadau’r Ddeddf yn y gwledydd hynny.

Yn 2023/24, byddwn yn dylunio pob elfen, gan ymgynghori ar ein cynigion. Rydym yn disgwyl y caiff y rheoliadau angenrheidiol eu gwneud yn 2024 (mae hyn yn dibynnu ar amserlenni seneddol). Unwaith y daw’r drefn newydd yn gyfraith, byddwn yn barod i dderbyn ceisiadau o dan y rheoliadau newydd.

[PM9] Dylem ystyried diwygiadau wedi’u targedu i’r drefn cynhyrchion rheoleiddiedig drwy bwerau sy’n debygol o gael eu creu o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir. 

Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer diwygio rheoleiddiol, er mwyn gwneud y gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig yn fwy effeithlon ac effeithiol, a chael gwared ar rwystrau i arloesi.

Wrth weithio ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir, byddwn yn achub ar y cyfle i gael gwared ar rai o’r elfennau aneffeithlon a etifeddwyd yn y corff o gyfreithiau sy’n deillio o’r UE, ac i symleiddio’r broses awdurdodi gan ei gwneud yn fwy effeithlon i’w gweinyddu, lleihau oedi diangen a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr ac ar gyfer y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys y drefn ar gyfer awdurdodi bwydydd newydd (bwydydd nad ydynt wedi cael eu bwyta’n eang gan bobl yn y DU na’r Undeb Ewropeaidd cyn mis Mai 1997). Mae angen awdurdodi bwydydd newydd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, ac mae’r ASB yn cynghori gweinidogion ar benderfyniadau awdurdodi.

Yn 2023/24, bydd canfyddiadau adolygiad annibynnol o ddulliau rheoleiddio bwydydd newydd yn dod i law, a byddwn yn gwerthuso’r rhain i ystyried pa rai fyddai’n fwyaf buddiol i’w harchwilio ymhellach. Lle bo modd, byddwn yn bwrw ymlaen â newidiadau blaenoriaethol fel rhan o ail gam y gwaith ar Gyfraith yr UE a Ddargedwir (erbyn 2026). Bydd diwygiadau mwy uchelgeisiol yn dibynnu a yw’r adnoddau i gynllunio a gweithredu newid ar gael.

[PM10] Dylem archwilio opsiynau i wella’r ddarpariaeth o wybodaeth am alergenau i bobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.

Yn ogystal â’n gwaith craidd o leihau niwed i bobl â gorsensitifrwydd i fwyd (fel ymateb i achosion o alergenau a darparu cyngor a chanllawiau i’r diwydiant a swyddogion gorfodi), rydym wedi gosod rhaglen waith sy’n ceisio gwella ansawdd bywyd pobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.

Yn 2023/24, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth, cyfuno’r hyn sydd gennym hyd yma a datblygu opsiynau ar gyfer y camau nesaf ar ddarparu gwybodaeth yn y sector bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. Byddwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i’r diwydiant ar ddatganiadau ‘gallai gynnwys’. Yn 2024/25, rydym yn bwriadu ymgynghori ar system ymarferol ar gyfer labelu alergenau rhagofalus a phrofi opsiynau polisi yn sgil ein gwaith casglu tystiolaeth cynharach.

Gallem fynd ymhellach pe bai amser ac adnoddau yn caniatáu:

  • [PM11] Adolygu a chryfhau gallu’r ASB i ystyried manteision a risgiau amgylcheddol ac iechydol wrth ystyried ffactorau cyfreithlon eraill fel rhan o ddadansoddi risg. 
  • [PM12] Dylanwadu ar safbwyntiau y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth mewn perthynas â bwyd i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu diogelu. Gallai enghreifftiau gynnwys gwybodaeth i ddefnyddwyr am effaith amgylcheddol bwyd, neu iechyd deietegol hirdymor.

Rheoleiddiwr

Amcan (craidd): Byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio i alluogi busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid i gydymffurfio â’r rheolau fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
 [R1] Rhaid i ni gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio fel y rheoleiddiwr cenedlaethol i sicrhau bod busnesau bwyd, bwyd anifeiliaid a mewnforio yn cydymffurfio â’r rheolau. 

Mae’r ASB yn gweithredu fel ’Awdurdod Cymwys Canolog’ – rhan o strwythur tair haen i oruchwylio a chadarnhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd. Mae gweithredwyr busnesau bwyd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r rheolau. Mae Awdurdodau Cymwys yn cadarnhau ac yn gorfodi cydymffurfiaeth gweithredwyr busnesau bwyd, ac mae Awdurdodau Cymwys Canolog yn archwilio ac yn sicrhau gwaith Awdurdodau Cymwys.

Mae’r gweithgarwch hwn yn adlewyrchu ein rôl fel Awdurdod Cymwys Canolog. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y rhai sy’n gweithredu fel awdurdodau cymwys yn cyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol ac yn darparu cymorth i awdurdodau lleol yn bennaf, ymhlith eraill, i gynnal rheolaethau swyddogol ar gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae hon yn rôl barhaus a fydd yn parhau drwy gydol 3 blynedd y cynllun hwn. Byddwn yn adrodd wrth Bwyllgor Busnes yr ASB bob chwarter am y cynnydd a wnaed gan awdurdodau cymwys wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau, ac wrth Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yr ASB am ganfyddiadau ein rhaglen archwilio.

[R2] Rhaid i ni gynnal rheolaethau swyddogol yn uniongyrchol mewn busnesau cig, llaeth a gwin (gan gynnwys allforwyr).

Yn ogystal â’n rôl fel Awdurdod Cymwys Canolog, mae gan yr ASB gyfrifoldeb uniongyrchol (Awdurdod Cymwys) am arolygu, archwilio a rhoi sicrwydd i fusnesau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynhyrchu cig, gwin a chynnyrch llaeth. Mae’r ASB yn cynnal rheolaethau ar bysgod cregyn ar y cyd ag awdurdodau lleol.

Mae hwn yn weithgarwch parhaus. Byddwn yn parhau i sicrhau y darperir sicrwydd priodol ar draws yr holl weithgareddau perthnasol, gan wella safonau a sicrhau cydymffurfiaeth. Byddwn yn sicrhau bod rheolaethau swyddogol ar gyfer cig, cynnyrch llaeth a gwin yn cael eu cynnal yn effeithiol o fewn amser, cost ac i’r ansawdd gofynnol yng Nghymru a Lloegr, gyda’r capasiti a’r galluogrwydd cywir. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol, sy’n nodi’r tasgau, y cyfrifoldebau a’r dyletswyddau y mae staff yr ASB a chontractwyr milfeddygol yn eu cyflawni mewn sefydliadau cig cymeradwy. Yn 2024/25, byddwn hefyd yn cyhoeddi fersiwn o’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol sy’n bodloni gofynion hygyrchedd.

[R3] Rhaid i ni ddarparu ymateb effeithlon ac effeithiol i digwyddiadau o ran bwyd a bwyd anifeiliaid.

Ceir digwyddiad bwyd pan allai pryderon am ddiogelwch neu ansawdd bwyd a/neu fwyd anifeiliaid olygu bod angen cymryd camau gweithredu er mwyn diogelu defnyddwyr. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dulliau gwyliadwriaeth i nodi risgiau i ddefnyddwyr a sylwi ar ddigwyddiadau posib o ran diogelwch bwyd, a byddwn yn ymateb i’r rhain pan fyddant yn digwydd. Mae hyn hefyd yn tynnu ar gyfraniadau polisi ymatebol a wneir yn sgil digwyddiadau, a chyngor polisi â chefnogaeth dda i gynorthwyo camau gweithredu.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod gan yr ASB y capasiti a’r galluogrwydd i ganfod, ymateb i ac atal digwyddiadau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn effeithiol. 

[R4] Rhaid i ni ddarparu ymateb effeithlon ac effeithiol i droseddau bwyd.

Mae ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd yn gweithio i fynd i’r afael â thwyll difrifol a throseddu cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd. 

Byddwn yn parhau i ddarparu ymateb effeithlon ac effeithiol i droseddau bwyd bob blwyddyn. Byddwn hefyd yn gwella ein modd ni o wneud hyn yn barhaus. Yn 2023/24 a 2024/25, byddwn yn parhau i gyflawni ein cynllun i weithredu’r canfyddiadau a nodwyd yn adolygiadau’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a gwblhawyd yn 2020 a 2022. Erbyn 2025/26, byddwn yn meincnodi ein gwaith yn erbyn y ‘goreuon’ ym maes Gorfodi’r Gyfraith yn y DU a strwythurau arbenigol eraill ym maes ymchwilio i droseddau bwyd mewn gwledydd eraill. Mae cysylltiad agos rhwng y gwelliant hwn a sicrhau pwerau ymchwilio, a ddisgrifir isod yn yr adran newid.

Amcan (newid): Byddwn yn diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg, nawr ac yn y dyfodol. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
[R5] Rhaid i ni sicrhau bod y safonau bwyd newydd a’r modelau cyflawni hylendid diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ar waith ac yn gweithio’n dda.

Rydym am gefnogi awdurdodau lleol yn well fel y gallant ganolbwyntio eu hamser a’u harbenigedd lle mae’n ychwanegu’r gwerth mwyaf ac yn diogelu defnyddwyr orau. Mae hyn yn cynnwys moderneiddio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn rheoleiddio hylendid bwyd a safonau bwyd mewn busnesau bwyd. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â diffygion gyda’r modelau presennol. 

Ar gyfer y model safonau bwyd, bydd Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig yn cael eu cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr yn gynnar yn 2023/24, a bydd awdurdodau lleol yn dechrau pontio i roi’r model newydd ar waith. Byddwn hefyd yn cytuno ar ddangosyddion perfformiad allweddol cychwynnol a ffordd o gasglu data. Ein huchelgais yw i bob awdurdod lleol roi’r cod newydd ar waith yn 2024/25, ac yna byddem yn cynnal adolygiad ôl-weithredu yn 2025/26. Yng Nghymru, byddwn yn treialu’r model newydd yn 2023/24, ac rydym yn rhagweld y bydd Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig yn cael ei gynnig yn 2024/25.


Ar gyfer y model hylendid bwyd, byddwn yn ymgynghori ar newidiadau i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd i adlewyrchu’r model newydd yn 2023/24, ac yna’n dechrau cynllun peilot yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rydym yn disgwyl y byddwn yn cynnig ac yn gweithredu cod newydd yn 2025/26.

[R6] Rhaid i ni weithio’n effeithiol gyda llywodraethau ym mhob gwlad i gytuno ar a chyflawni’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau mewn perthynas â rheolaethau mewnforio.

Mae’r llywodraeth wedi pennu Strategaeth Ffiniau’r DU, sy’n cynnwys Model Gweithredu Targed hirdymor ar gyfer y ffin. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno rheolaethau mewnforio Iechydol a Ffytoiechydol ar nwyddau’r UE a diwygio’r rheolaethau ar nwyddau nad ydynt yn dod o’r UE. Mae’r ASB wedi gweithio gydag adrannau eraill o’r llywodraeth ar ddatblygu Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod lefelau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu cynnal, neu eu gwella, wrth gyflwyno’r Model Gweithredu Targed newydd ar gyfer y Ffiniau.

Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r Model Gweithredu Targed arfaethedig ar gyfer y Ffiniau yn 2023, ac yn rhagweld y bydd y model yn cael ei roi ar waith erbyn diwedd 2-23 a thrwy 2024, gyda gwelliannau parhau yn cael eu gwneud yn 2025/26.

[R7] Rhaid i ni ddatblygu model cynaliadwy sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer rheolaethau swyddogol. 

Mae’r maes bwyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y 3 degawd ers cyflwyno’r system reoleiddio gyfredol. Er bod rheoleiddio wedi parhau i ddatblygu, nid yw wedi llwyddo i aros yn gyfoes â’r newidiadau sylweddol yn y diwydiant bwyd. Ar gyfer rhai rhannau o’r sector bwyd, efallai y bydd ffyrdd mwy effeithiol o sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheolau na’n model rheoleiddio cyfredol, sy’n seiliedig yn helaeth ar awdurdodau lleol yn arolygu wyneb yn wyneb ac yn rheolaidd mewn safleoedd busnesau bwyd. 

Yn 2023/24, byddwn yn treialu math newydd o reoleiddio ar lefel menter gyda rhai o’r prif fanwerthwyr yn Lloegr. Gellid gweithredu hyn yn ddiweddarach yn y cyfnod o 3 blynedd yn dibynnu ar ganlyniad y treial.

Yn ystod 2023/24 byddwn hefyd yn dechrau gwaith polisi ar yr opsiynau tymor hwy sydd ar gael ar gyfer model rheoleiddio yn y dyfodol, a disgwyliwn barhau â’r gwaith hwnnw yn y blynyddoedd sydd i ddod. 

[R8] Dylem sicrhau pwerau ymchwilio ychwanegol priodol i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd.

Ar hyn o bryd nid oes gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr ystod lawn o bwerau sydd eu hangen arni er mwyn casglu’r dystiolaeth angenrheidiol i sicrhau erlyniadau mewn achosion cymhleth a heriol o droseddau bwyd. Er bod gan yr NFCU rai pwerau ac offer ymchwilio, mae’n dal i ddibynnu ar bartneriaid allanol, yn bennaf yr heddlu, neu awdurdodau lleol o bosib, i gynnal rhai swyddogaethau ymchwilio sylfaenol. Yn unol ag argymhellion adolygiadau o’r NFCU (gweler Adolygiad Kenworthy, Swyddfa Archwilio Genedlaethol), rydym wrthi’n sicrhau’r pwerau hyn. Ym mis Ebrill 2022, pasiodd y senedd Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd. Mae’n galluogi i’r Ysgrifennydd Gwladol roi pwerau perthnasol i swyddogion yr NFCU yng Nghymru a Lloegr.

Yn 2023/24, byddwn yn chwilio am gyfleoedd am fil addas i alluogi’r bwlch sy’n weddill mewn deddfwriaeth sylfaenol (yn ymwneud â goruchwyliaeth gan Arolygaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi) a gosod amserlen glir. Rydym yn rhagweld y bydd offeryn statudol yn cael ei lunio yn 2024/25, a bydd yr NFCU yn mabwysiadu’r pwerau a’u defnyddio mewn modd gweithredol tan o leiaf 2025/26.

[R9] Dylem weithio tuag at ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ei gwneud yn orfodol arddangos sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn Lloegr. 

Mae sgoriau hylendid bwyd yn adlewyrchu’r safonau hylendid bwyd a ganfuwyd adeg yr arolygiad gan yr awdurdod lleol mewn busnesau bwyd unigol. Rhoddir sticer i fusnesau sy’n dangos eu sgôr, a gallent ei arddangos ar eu safleoedd. Mae arddangos sgoriau yn orfodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ond yn wirfoddol yn Lloegr. Mae’r ASB wedi ymrwymo i wthio’r achos dros arddangos gorfodol mewn safleoedd ac ar-lein yn Lloegr.

Bydd amserlen y gwaith sydd ei angen i gyflawni’r ymrwymiad hwn yn dibynnu ar nodi llwybr addas ar gyfer llunio deddfwriaeth sylfaenol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r llywodraeth. Bydd hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

[R10] Dylem wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y mae’r ASB yn cynnal rheolaethau swyddogol yn uniongyrchol.

Yn ogystal â’r diwygiadau a ddisgrifir uchod i greu model cynaliadwy sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer rheolaethau swyddogol, byddwn yn mynd ati i barhau i wella’r ffordd yr ydym yn cynnal rheolaethau swyddogol yn uniongyrchol yn y sectorau cig, gwin a llaeth o fewn y fframwaith rheoleiddio presennol. 

Yn 2023/24, byddwn yn dod yn fwy effeithiol o ran ein swyddogaeth cyflawni gweithredol, gan ddefnyddio technoleg a gwella prosesau. Bydd y gwelliannau hyn yn cynnwys, er enghraifft, sut rydym yn casglu ac yn cyfathrebu canlyniadau arolygiadau, sut rydym yn rhoi’r adnoddau perthnasol i’n harchwilwyr gasglu a storio gwybodaeth, a sut rydym yn defnyddio data i dargedu ein hadnoddau a’n hymyriadau yn well. Byddwn hefyd yn cynhyrchu ac yn cyflawni yn erbyn fframwaith perfformiad gweithredol newydd, wedi’i optimeiddio. Byddwn yn parhau i nodi gwelliannau newydd yn 2024/25 a 2025/26.

[R11] Dylem wella ein dull o atal a rheoli digwyddiadau.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein dull o reoli digwyddiadau, gan gynnwys datblygu polisi cyflym. Rydym hefyd am ddefnyddio technoleg a mewnwelediadau sy’n dod i’r amlwg yn fwy, gan ddatblygu ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng digwyddiadau, er mwyn helpu i’w hatal.

Yn 2023/24, byddwn yn rhoi ar waith argymhellion yn sgil adolygiad strategol a gynhaliwyd yng ngoleuni’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiad yn deillio o’r rhyfel yn Wcráin, ac rydym yn disgwyl ymgorffori strwythurau newydd a rhoi newidiadau i’r Cynllun Rheoli Digwyddiadau ar waith. Byddwn hefyd yn sefydlu’r gallu i ddeall a dadansoddi digwyddiadau’n well, er enghraifft, trwy ddefnyddio dulliau gwyliadwriaeth dadansoddi gwraidd y broblem a gwaith samplu. Byddwn yn parhau i roi canlyniadau’r adolygiad strategol ar waith yn 2024/25 ac yn gwneud gwelliannau pellach yn 2025/26.

Gallem fynd ymhellach pe bai amser ac adnoddau yn caniatáu:

  • [R12] Treialu dulliau newydd pellach o roi sicrwydd rheoleiddio.

Corff gwarchod (watchdog)

Amcan: Byddwn yn siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr er mwyn annog safonau bwyd uchel yn y DU. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
[W1] Rhaid i ni lunio cyngor ar fesurau diogelwch statudol ar gyfer iechyd pobl mewn cytundebau masnach ar gais yr Adran Busnes a Masnach ar gyfer adroddiadau adran 42, a gwneud sylwadau cyhoeddus fel arall ar effaith cytundeb masnach lle bo’n briodol i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn rhoi sicrwydd o dan adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ynghylch a yw’r mesurau o ran cytundebau masnach rhwng y DU a gwledydd eraill yn cynnal safonau diogelwch statudol ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn ein cylch gwaith statudol, ac i ba raddau y maent yn gwneud hynny.

Mae hwn yn weithgaredd parhaus, y byddwn yn ei gyflawni ym mhob blwyddyn o’r cynllun hwn. Mae’r amserlenni a gofynion penodol yn dibynnu ar gyflymder uchelgais y llywodraeth i negodi a chytuno ar gytundebau masnach gyda gwledydd blaenoriaeth. Yr Adran Busnes a Masnach sy’n pennu’r dyddiadau cau ar gyfer adran 42.

Mae cysylltiad agos rhwng y gweithgaredd hwn a’r cyngor a ddarparwn ar gytundebau masnach a ddisgrifir uchod fel rhan o’n rôl fel lluniwr polisi.

[W2] Dylem fonitro safonau bwyd y DU a chynhyrchu adolygiadau rheolaidd ar  gyflwr safonau bwyd cenedlaethol (yn ymwneud â diogelwch a dilysrwydd), gan gynnwys bwyd domestig a bwyd wedi’i fewnforio yn ogystal â chyflwr y system rheoleiddio bwyd.

Yn 2022, cyhoeddodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ein hadolygiad blynyddol cyntaf o safonau bwyd ledled y DU. Yn yr adroddiad hwn, gwnaethom ofyn a yw ein safonau bwyd wedi’u cynnal yn ystod y flwyddyn adrodd, gyda’r bwriad o ddiogelu buddiannau defnyddwyr. 

Yn 2023/24, byddwn yn cyhoeddi’r ail adroddiad ar safonau bwyd, ac yn datblygu rhaglen waith bum mlynedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau pellach yn 2024/25 a 2025/26.

Gallem fynd ymhellach pe bai amser ac adnoddau yn caniatáu. Gallai ein huchelgais fel corff gwarchod gynnwys: 

  • [W3] Ehangu ein gwaith o fonitro safonau i gynnwys iechyd, cynaliadwyedd, lles anifeiliaid, effaith gymdeithasol, ac ymddygiad defnyddwyr. Yna gellid ymgorffori hyn oll mewn adroddiad blynyddol ehangach ar safonau bwyd.

Cynullydd a chydweithredwr

Amcan: Byddwn yn gweithio mewn partneriaethau ar draws y system fwyd i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar ddefnyddwyr a busnesau. 

Gweithgaredd Manylion pellach 
[CC1] Rhaid i ni weithio gyda llywodraethau ehangach yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a chyda Safonau Bwyd yr Alban i sicrhau bod yr ASB yn cyfrannu at gyflawni prif flaenoriaethau trawslywodraethol.

Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni blaenoriaethau a rennir a sicrhau bod buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn cael eu cynrychioli. Trafodir nifer o’r blaenoriaethau hyn uchod, gan gynnwys ein gwaith ar y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau a Fframwaith Windsor. 

Fodd bynnag, bydd blaenoriaethau trawslywodraethol pellach y byddwn yn cyfrannu’n sylweddol iddynt. 
Mae’r rhain yn cynnwys rhai rhwymedigaethau cyfreithiol a chyfrifoldeb ffurfiol dros bolisi, gan gynnwys:

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd yr ASB yn cefnogi datblygu a chyflwyno polisi ac ymchwil i sicrhau amgylchedd bwyd iachach yn unol â chanlyniadau’r strategaeth gordewdra newydd a arweinir gan yr Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon. Ei nod yw cefnogi defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon i gael mynediad at ddeiet iachach drwy, er enghraifft, ailfformiwleiddio, labelu maeth, cyfyngu ar hyrwyddiadau a safonau maeth.

Byddwn yn parhau i gyflwyno ein darpariaeth Gymraeg gynhwysfawr yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg statudol, o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd hyn yn sicrhau dewis iaith gweithredol i’n defnyddwyr yng Nghymru, fel y gall pawb sy’n derbyn gwasanaeth gan yr ASB, neu sy’n cyfathrebu â ni, wneud hynny yn eu dewis iaith, a chael gwasanaeth a fydd o’r un ansawdd a’r un mor hygyrch â gwasanaethau Saesneg 
Byddwn yn cefnogi Gweinidogion Cymru wrth iddynt gynnal eu hadolygiad arfaethedig o’r ASB yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried strwythurau presennol, llywodraethu a dulliau ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau y bydd unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion yn cryfhau ein gallu i roi’r adnoddau a’r prosesau sydd eu hangen ar y cyhoedd. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i gyflawni amcanion a blaenoriaethau corfforaethol yr ASB. 

Mae hefyd yn cynnwys blaenoriaethau rydym yn eu cefnogi oherwydd ein harbenigedd a’n galluoedd. Bydd y rhestr o flaenoriaethau yr ydym yn ymwneud â nhw yn esblygu dros amser. 

Bydd y rhestr yn cynnwys lansio cynllun peilot yr ASB a’r Adran Addysg, ‘Cydymffurfio â Safonau Bwyd mewn Ysgolion’, a hynny mewn 18 o awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn Lloegr. Mae hon yn fenter ar y cyd, a gefnogir gan y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau. Ei nod yw creu a phrofi dull newydd o gefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r Safonau Bwyd mewn Ysgolion presennol. Mae’r safonau’n sicrhau bod ysgolion yn darparu dewisiadau iachus i blant o ran bwyd a diod, a bod plant yn cael yr egni a’r maeth sydd eu hangen arnynt yn ystod y diwrnod ysgol. Byddwn yn cwblhau ac yn gwerthuso canlyniadau’r cynllun peilot yn 2023/24, gan ystyried y camau nesaf.

Mae’r ASB hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gydag Defra, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chynrychiolwyr o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi bwyd i ddatblygu’r Bartneriaeth Tryloywder Data Bwyd (FDTP) i wella data a gwybodaeth systemau bwyd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu metrigau cyson a diffiniedig i fesur yr effeithiau cynaliadwyedd amgylcheddol ar fwyd. Byddwn yn datblygu canllawiau’r llywodraeth ar ddull safonol o fesur a chyfathrebu allyriadau nwyon tŷ gwydr ‘Sgôp 3’ ar gyfer y sector bwyd a diod. Byddwn hefyd yn ystyried metrigau sy’n cymell ac yn mesur cynnydd tuag at wella iachusrwydd bwyd yn fwy effeithiol, a byddwn yn galluogi ac yn annog cwmnïau bwyd i ddangos cynnydd o ran iachusrwydd y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu.  Yr ASB (ynghyd â’r diwydiant) sy’n gyfrifol am y ffrwd gwaith data, sy’n elfen drawsbynciol ar gyfer yr FDTP cyfan.   

[CC2] Rhaid i ni barhau i ddylanwadu ar ddatblygiad safonau diogelwch bwyd Codex Alimentarius.

Mae’r Codex Alimentarius yn datblygu safonau bwyd byd-eang, canllawiau a chodau ymarfer ar gyfer diogelwch ac ansawdd bwyd. Fe’i sefydlwyd bron i 60 mlynedd yn ôl gan Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd i ddiogelu iechyd defnyddwyr a hyrwyddo arferion teg yn y fasnach fwyd. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw prif Adran Llywodraeth y DU ar gyfer Codex.   Yr ASB sy’n arwain llawer o’r pwyllgorau fertigol sy’n ymwneud â hylendid bwyd, ychwanegion bwyd, samplu a dadansoddi dulliau, halogion bwyd a systemau ardystio mewnforion ac allforion. 

Byddwn yn parhau i arwain ar bum Pwyllgor Codex, a fydd yn parhau i gwrdd yn rheolaidd dros y 3 blynedd nesaf i ddatblygu safonau rhyngwladol.

[CC3] Dylem feithrin perthynas waith gref â rhanddeiliaid yn y diwydiant a’r system fwyd er mwyn gweithio gydag eraill, a thrwyddynt.

Mae hyn yn cynnwys y diwydiant, y byd academaidd, cynrychiolwyr defnyddwyr a’n cyflenwyr. Trwy’r perthnasoedd hyn, gallwn nodi cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chanllawiau, yn ogystal â deall yn well sut y gallem gydweithio er budd defnyddwyr.

Mae hwn yn weithgaredd parhaus y byddwn yn gweithio arno bob blwyddyn. Fodd bynnag, yn 2023/24 byddwn hefyd yn treialu dull ‘Rheolwyr Perthnasoedd yr ASB’ newydd wrth brofi dulliau newydd o reoleiddio manwerthwyr mawr sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf a chydgysylltu ar gyfer eu busnesau (gweler y rheoleiddiwr uchod). Yna, byddwn yn asesu effeithiolrwydd ac effaith y dull hwn ac yn ystyried a yw’n rhywbeth a allai ychwanegu gwerth i’r ASB fel rhan o’n dull gweithredu fel rheoleiddiwr yn y dyfodol.

[CC4] Dylem fynd ati i sicrhau ein henw da a’n dylanwad rhyngwladol fel arweinydd ym maes diogelwch a rheoleiddio bwyd. 

Mae’r ASB bob amser wedi chwarae rhan bwysig yn rhyngwladol drwy nifer o fforymau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys chwarae rhan mewn grwpiau amlochrog fel Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid (WOAH), y Cyfleuster Datblygu Safonau a Masnach, a’n gwaith cydweithredol ag adrannau eraill y llywodraeth yn Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn gwerthfawrogi aelodau ein grwpiau technegol a gwyddonol byd-eang, yn ogystal â’n grwpiau ymatebol ar reoli argyfyngau a thwyll bwyd. Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r defnydd o ddulliau digidol a data modern gyda’n partneriaid rhyngwladol. Mae strwythur byd-eang integredig y system fwyd yn gofyn am ymgysylltiad a phartneriaethau rhyngwladol cryf a chydweithredol i gynnal diogelwch bwyd ar ein marchnad a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig yr ASB, bydd angen i’n gweithgareddau gefnogi’n glir y blaenoriaethau a nodir yng ngweddill y cynllun hwn.

Yn 2023/24, byddwn yn creu cynllun gwaith mewnol a fydd yn pennu blaenoriaethau clir ar gyfer gweithgareddau’r ASB a chyflwyno newidiadau i brosesau mewnol er mwyn cydlynu dulliau ymgysylltu’n well. Byddwn hefyd yn parhau i drefnu cyfleoedd i ymgysylltu â staff uwch i gefnogi amcanion y cynllun corfforaethol, a fydd, yn ystod 23/24, yn cynnwys Penaethiaid Asiantaethau Bwyd  Rhyngwladol yn Nulyn a’r Fenter Diogelwch Bwyd Byd-eang, ac ymweliadau â’r Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Israel a India. 

Drwy gydol y cyfnod hwn, bydd yr ASB hefyd yn parhau i ymgysylltu ar lefel ryngwladol ac ar draws Whitehall i gefnogi gwaith moderneiddio dulliau rheoleiddio wedi’i dargedu, sy’n gwella systemau rheoli bwyd rhyngwladol ac sy’n diogelu defnyddwyr yn y DU yn well. Yn unol â’n strategaeth, dylem hefyd geisio canfod cyfleoedd i gryfhau ein presenoldeb mewn fforymau rhyngwladol perthnasol. Mae’r mentrau domestig sydd gennym, fel Safonau Bwyd mewn Ysgolion (gweler uchod am fanylion) wedi denu sylw Rhaglen Bwyd y Byd y Cenhedloedd Unedig ac ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r cynllun peilot, bydd cyfleoedd posib i rannu arferion da. Mae’r ASB yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth, gan gynnwys y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a rhwydwaith newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer a  swyddogion amaethyddiaeth, i nodi cyfleoedd addas ar gyfer ymgysylltu a dylanwadu. Byddwn yn parhau i ymgysylltu i gynorthwyo ein dysgu a’n ffyrdd o feddwl mewn perthynas â dulliau arloesol o gynhyrchu cynhyrchion bwyd cynaliadwy, gan gynnwys proteinau amgen a chig sy’n seiliedig ar gelloedd, sydd oll yn archwilio agweddau amrywiol i ddeall y prosesau ond hefyd y gofynion rheoleiddio posib y byddai angen eu hystyried. 

Gallem fynd ymhellach pe bai amser ac adnoddau yn caniatáu. Gallai ein huchelgais fel cynullydd a chydweithredwr gynnwys y canlynol:

  • [CC5] Cynnull rhanddeiliaid systemau bwyd i ddatrys y prif broblemau y mae defnyddwyr yn eu hwynebu Gwaith ymatebol fyddai hwn, a hynny pan fydd mater penodol yn cael ei nodi.

Galluogwr

Amcan: Byddwn yn darparu’r bobl, yr adnoddau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion a’n blaenoriaethau corfforaethol. 

Gweithgaredd Manylion pellach 

[E1] Rhaid i ni ddenu, cadw, a chefnogi ein pobl, gan nodi’r sgiliau a’r anghenion presennol yn ogystal â chyflawni a gweithredu’r cynllun pobl.

.

Mae hyn yn cynnwys ein holl weithgareddau busnes arferol i recriwtio pobl mewn dull teg, arloesol ac effeithiol, rheoli perfformiad a thalent, a dysgu.

Mae’r prif weithgareddau sydd wedi’u nodi yn ein cynllun pobl yn cynnwys cynnal adolygiad o’n pecyn gwobrwyo tâl a buddion yn 2023/24 a pharhau i feithrin diwylliant sefydliadol ymroddedig a chefnogol fel bod ein pobl yn teimlo bod croeso iddynt yn ystod eu hamser gyda ni, a’u bod am ddod yn ôl i’r ASB. Byddwn hefyd yn cyflwyno fframwaith datblygu rheolwyr ac arweinwyr newydd sy’n adlewyrchu ein blaenoriaethau a’n gwerthoedd. Mae’r cynllun pobl hefyd yn nodi gweithgareddau ar gyfer 2024/25 a 2025/26, ein cynllun i sicrhau bod gennym y cymysgedd cywir o sgiliau yn ein sefydliad (er enghraifft, milfeddygon neu wyddonwyr), trefniadau cyflog a chynlluniau ar gyfer cynhwysiant ac amrywiaeth yn ein sefydliad.

[E2] Rhaid i ni ddarparu a datblygu data a gwasanaethau digidol ar gyfer defnyddwyr mewnol a’r cyhoedd.

Mae pawb yn y DU yn ddefnyddiwr posib o wasanaethau digidol a data yr ASB. Mae angen gwybodaeth am ddiogelwch a hylendid bwyd ar ddefnyddwyr; mae angen gwybodaeth ar fusnesau i allu rhedeg busnes bwyd yn ddiogel; ac mae angen gwasanaethau ar aelodau staff yr ASB i weithio’n effeithlon.

Byddwn yn parhau i ddatblygu ystod o wasanaethau digidol a data yn unol â’n safon gwasanaeth a safon gwasanaeth GOV.UK lle bo’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys deall anghenion a phroblemau defnyddwyr, dewis yr offer cywir a gweithio mewn ffordd ystwyth i gyflawni ein gwaith. Mae enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys gwneud cais am awdurdodiad cynhyrchion rheoleiddiedig, neu ein dangosfwrdd tebygolrwydd risg, sy’n monitro’r tebygolrwydd y bydd nwyddau bwyd a bwyd anifeiliaid peryglus yn cael eu mewnforio i’r DU ar gyfer awdurdodau lleol.

Byddwn yn parhau i ddatblygu portffolio o wasanaethau digidol a data bob blwyddyn, a thrafodir nifer o wasanaethau digidol penodol isod fel rhan o weithgareddau eraill, fel adnewyddu sawl system fawr.

[E3] Rhaid i ni adnewyddu ein systemau i ddarparu cymorth technoleg cadarn ac effeithlon, gan gynnwys roi system cyllid, cyflogres ac AD newydd ar waith.

Mae ein gwaith i ddarparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg cyflym, modern a dibynadwy yn cynnwys adnewyddu rhai o’n prif systemau.

Un o’r prif systemau sy’n cael ei disodli yw ein system cyllid, cyflogres ac AD (mae’r gwaith i gaffael a rhoi hon ar waith yn cael ei adnabod yn fewnol fel y Rhaglen ‘Connect’). Yn 2023/24, byddwn yn gadael ein cyflenwyr presennol ac yn symud yr holl ddata i’r system newydd. Yn 2024/25, byddwn yn ymchwilio i ehangu ymarferoldeb y system y tu hwnt i’r cynnyrch hyfyw lleiaf , sef cyllid, cyflogres ac AD.

Yn 2023/24, byddwn hefyd yn dechrau’r broses o adolygu ein system Hwyluso Cyfathrebu (ar gyfer cyfathrebu ag awdurdodau lleol) a chwilio am system newydd yn lle ein System Monitro Gorfodi Awdurdodau Lleol (sy’n casglu data gan awdurdodau lleol ar gynnal rheolaethau swyddogol), sy’n dod i ddiwedd eu hoes.

[E4] Rhaid i ni gefnogi model gweithredu’r ASB drwy ddarparu’r ystadau iawn ar gyfer ein hanghenion yn y dyfodol.

Mae gan yr ASB sawl swyddfa ar draws y DU, gan gynnwys Clive House (ein swyddfa yn Llundain) a swyddfeydd yng Nghaerdydd a Belfast.

Yn 2023/24, byddwn yn cwblhau ein Strategaeth Ystadau newydd, gan nodi gweledigaeth yr ASB ar gyfer ein hystadau yn y dyfodol yn ogystal â chynllun trosglwyddo. Yn 2025/26, rydym yn rhagweld gadael Clive House, ein pencadlys presennol yn Llundain, a symud i swyddfa newydd yn Llundain Ehangach.

[E5] Rhaid i ni gyflwyno a rhoi fframwaith newydd ar waith ar sicrhau perfformiad.

Byddwn yn rhoi mesurau perfformiad newydd ar waith i roi trosolwg strategol o’n cynnydd wrth gyflawni ein hamcanion. Bydd y fframwaith yn helpu i nodi risgiau trawsbynciol, yn cefnogi penderfyniadau blaenoriaethu ac yn rhoi barn gyffredinol ynghylch a ydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein hamcanion neu, os nad ydym, yn trafod pa gamau y gallwn eu cymryd ar y cyd.

Byddwn yn cyflwyno ein fframwaith sicrhau perfformiad yn 2023/24, gan fynd ati i’w roi ar waith a’i wella’n barhaus yn 2024/25 a 2025/26.

[E6] Rhaid i ni ddatblygu tystiolaeth a dull strategol o gefnogi ein hadolygiad gwariant nesaf a chomisiynau eraill y llywodraeth.

Caiff cyllideb yr ASB ei phennu gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru, gan Drysorlys EF fel rhan o adolygiadau gwariant rheolaidd, a chan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae ein setliad ariannol presennol yn gymwys tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25. 

Yn 2023/24, byddwn yn paratoi tystiolaeth ar gyfer ein cyflwyniad nesaf o ran adolygu gwariant. Rydym yn rhagweld cais gan Drysorlys EF i ddatblygu bid newydd yn 2024/25 ar gyfer blynyddoedd i ddod.