Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru â thema a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2023

Penodol i Gymru

Cyfarfod hybrid ar thema Gwyddoniaeth ac Arloesi

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 April 2024

Yn bresennol

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:

  • Rhian Hayward  – Cadeirydd
  • Dr Philip Hollington 
  • Christopher Brereton OBE
  • Georgia Taylor 
  • Dr John Williams
  • Helen Taylor
  • Jessica Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

  • Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
  • Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
  • Lucy Edwards – Uwch-reolwr Busnes
  • Jonathan Davies – Pennaeth Polisi Safonau a Diogelu Defnyddwyr 
  • Owen Lewis – Pennaeth Polisi Rheoleiddio a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
  • Jane Clark – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol
  • Kerys James-Palmer – Pennaeth Strategaeth Ddeddfwriaethol
  • Christin Price – Cydlynydd Milfeddygon Maes

Arsylwyr:

Cynrychiolwyr o’r canlynol:  

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 
  • Safonau Masnach Cymru 
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru 
  • Canolfan Dechnoleg Bwyd Coleg Menai 
  • Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
  • Hybu Cig Cymru 

Cyflwynwyr:

  • Dr Rebecca Charnock – Rheolwr Datblygu Ymchwil Ddiwydiannol, ArloesiAber 
  • Dr Catherine Howarth – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Pip Nicholas-Davies – Adran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth
  • Yr Athro Darrell Abernethy – Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth

1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod diwethaf

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Gorffennaf 2023.

2. Datgan buddiannau

2.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3. Gwyddoniaeth ac arloesi

3.1 ArloesiAber – Rhoddodd Dr Rebecca Charnock gyflwyniad yn esbonio cenhadaeth y campws, sef cynnig cyfleusterau i gefnogi cwmnïau uchelgeisiol, cydweithredol er mwyn darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol yn y meysydd bwyd anifeiliaid, bwyd a thanwydd. Un campws o blith nifer o gampysau UKRI yw ArloesiAber, ac mae ganddo gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys Biofanc Hadau a Chyfleuster Prosesu, Canolfan Bioburo, Canolfan Bwyd y Dyfodol, Uwch Ganolfan Ddadansoddi a Pharth Arloesi. Ar y safle, mae Deorfa ArloesiAber hefyd, sef cymuned fusnes o entrepreneuriaid, busnesau newydd, busnesau sefydledig a swyddfeydd ategol, sydd â thros 30 o denantiaid ar hyn o bryd. 

3.2 Wedyn, rhoddodd Dr Charnock drosolwg o’r meysydd ymchwil a datblygu allweddol a oedd yn cynnwys CBD, gwymon, ymchwiliadau i honiadau iechyd, ansawdd bwyd, treuliadwyedd, proteinau amgen a dulliau tyfu cig wedi’i feithrin, ymhlith eraill. Cafodd y Pwyllgor drosolwg o astudiaethau achos yn ymwneud â chynhyrchion fel olew palmwydd, hadau cywarch a chaws.

3.3 Cydnabu’r Pwyllgor y gwaith arloesol a chafwyd trafodaeth am gyllid ar gyfer y campws a hefyd gostau i fusnesau, gan nodi bod y Ganolfan yn cynorthwyo busnesau yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.

3.4 Cyflwyniad gan Dr Catherine Howarth oedd nesaf, a roddodd drosolwg o raglen bridio planhigion IBERS, dros ganrif o ddatblygiad, profiad a buddsoddiad. Canolbwyntiodd Dr Howarth yn benodol ar y rhaglen bridio ceirch a chodlysiau ac ymchwil sy’n gweithio ar draws graddfeydd, o’r genom i’r maes, gan gwmpasu dilyniannu genomau, amrywiaeth genetig, Genoteip Ffenoteip GxE, cysylltiad marciwr genetig, gwella dulliau bridio ac amrywiaeth newydd i’r diwydiant. Y nod yw datblygu cynhyrchion arloesol, sy’n cael effaith sylweddol ar y farchnad ac ar y defnyddiwr terfynol, a gaiff eu marchnata gan blanwyr masnachol trwy berthnasoedd hirdymor. Gofynnodd Dr Howarth, “Pam ceirch?” a’i hateb oedd bod ceirch yn rawn o ansawdd sy’n ddefnyddiol ar gyfer bwyd pobl, bwyd anifeiliaid ac at ddefnydd diwydiannol. Gellir gwneud pob math o fwyd o geirch nad oedd yn bosib o’r blaen. Mae ymchwil yn ystyried effeithiau’r hinsawdd yn y dyfodol a datblygiad ceirch gwydn. Er enghraifft, caiff amgylcheddau eu rheoli i edrych ar effeithiau sychder a thir dyfrlawn. Mae 65% o’r ceirch a ddefnyddir yn y DU yn cael eu bridio yn Aberystwyth, ac mae’r amrywiadau’n cael eu marchnata trwy Senova Ltd.

3.5 Trafododd y Pwyllgor unrhyw effaith y gallai Bridio Manwl ei chael ar y gwaith hwn, yn ogystal â’r manteision iechyd a gynigir gan geirch. Rhagor o wybodaeth am Dr Howarth a’i gwaith

3.6 Symudwyd wedyn at Dr Pip Nicholas-Davies a roddodd gyflwyniad ar y Prosiect Ansawdd Cig Eidion. Nod y prosiect yw hwyluso gwell ansawdd bwyta a sicrhau gwerth y Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a roddir ar gyfer cynhyrchu cig eidion yng Nghymru. Yr amcanion yw profi ac arddangos gwell system ar gyfer graddio ansawdd bwyta carcasau, yn seiliedig ar fodel Safonau Cig Awstralia, sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Awstralia ers amser maith. Roedd y gweithgareddau allweddol yn cynnwys cyrsiau hyfforddi graddwyr, cynnal arolwg o garcasau a gyflwynwyd i’w lladd, profi blas defnyddwyr, arolwg i’r diwydiant, astudiaethau achos, cyfathrebu â’r diwydiant ac argymhellion. Cynhaliwyd arolwg cynnyrch ar 2,090 o garcasau mewn 8 ffatri, a chymerwyd samplau ym mis Chwefror a mis Awst 2019. Nodwyd 69 o fridiau a chroesfridiau gwahanol. Esboniodd Dr Nicholas-Davies y gwahaniaeth rhwng EQ (ansawdd bwyta) a’r system EUROP gyfredol a ddefnyddir ar gyfer graddio, yn ogystal â rhoi cipolwg ar brofi blas defnyddwyr a sut y cyfrifwyd yr EQ. Dyma’r argymhellion:  

  • ategu, nid disodli EUROP 
  • yr angen am safonau rhagfynegi ansawdd bwyta tryloyw, cenedlaethol er mwyn i’r diwydiant symud ymlaen
  • mynediad at ddata a modelau – Sefydliad 3G Ymchwil Cig Ryngwladol 
    • Ddata ar gael ar gyfer ymchwil pellach
    • yn fasnachol ar gyfer rhagfynegiad EQ
  • ymchwil bellach
    • rhyngweithio rhwng EQ ac 
      • agenda ansawdd amgylcheddol 
      • amcanion effeithlonrwydd a pherfformiad 

3.7 Dywedodd y Pwyllgor fod posibilrwydd o gysylltu trydydd piler strategaeth yr ASB ac archwilio’r cysylltiad rhwng ansawdd bwyta a maeth. Cafwyd mewnbwn hefyd gan gynrychiolydd yr NFU a ddywedodd fod hwn yn waith pwysig a bod y diwydiant yn croesawu’r prosiect hwn a’r cynnydd arno er budd y diwydiant a’r defnyddiwr. Roedd cwestiwn hefyd ynghylch a oedd cysylltiadau rhwng ansawdd bwyta a lles anifeiliaid. Cadarnhaodd Dr Nicholas-Davies fod hyn yn destun ymchwiliadau yn Awstralia ar hyn o bryd. Rhagor o wybodaeth am BeefQ – Ansawdd Bwyta Cig Eidion — Porth Ymchwil Aberystwyth 

3.8 Rhododd Yr Athro Darrell Abernethy y cyflwyniad olaf, gan siarad am
am Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth a gradd Baglor Gwyddor Filfeddygol (BVSc) yn Aberystwyth. Mae’r radd yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr hyfforddi mewn dau sefydliad gwyddonol ac addysgol: Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RVC) a Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r ffocws ar astudiaethau cymdeithasol, profiad ymarferol a phwyslais ar ddatrys problemau. Maen nhw hefyd yn hynod angerddol dros ddatblygu graddedigion o Gymru sy’n gallu siarad Cymraeg a darparu gwasanaeth Cymraeg yng Nghymru. Soniodd yr Athro Abernethy hefyd am y Rhaglen Nyrsio Milfeddygol sydd i fod i ddechrau ym mis Medi 2024. Y nod yw denu mwy o filfeddygon yn ôl i Gymru ar ôl iddynt ddod yn gymwys, gan fod prinder milfeddygon a nyrsys milfeddygol, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig. Y weledigaeth yw creu ysgol filfeddygol sy’n rhagori mewn addysg filfeddygol, ymchwil ac ymwybyddiaeth mewn cyd-destun Cymreig, ac sy’n cyfrannu’n optimaidd at gynllun strategol y brifysgol, y proffesiwn milfeddygol a’r diwydiant da byw yng Nghymru. 

3.9 Cafwyd trafodaeth ynghylch sut y gallai hyn gynyddu nifer y milfeddygon mewn swyddi’r llywodraeth o bosib, a nododd y Pwyllgor yr ymdrechion i ddenu myfyrwyr o wahanol ddemograffeg.

4. Trafodaeth panel a phwyllgor 

4.1 Canmolodd y Pwyllgor y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yng Nghymru ym maes Gwyddoniaeth ac Arloesi. Dangosodd y cyflwyniadau y gallwn ymgymryd â phrosiectau arloesol yma yng Nghymru. Mae gennym lwybr drwy’r prifysgolion at  faes gweithgynhyrchu bwyd a’r farchnad. Nodwyd bod hanes bridio ceirch yn rhywbeth i Gymru ymfalchïo ynddo, a thynnwyd sylw at y 100 mlynedd a mwy o waith o ymchwil a datblygu sydd wedi’i gynnal yn y maes, a’r perthnasoedd masnachol sydd wedi’u meithrin. Aberystwyth yw un o’r unig leoliadau yn y DU lle mae’r gwaith hwn wedi parhau i gael ei gynnal mewn ffordd mor drylwyr. O ran y Prosiect Ansawdd Cig Eidion, mae’n dda gallu dychmygu cael gwybodaeth i ddefnyddwyr sy’n caniatáu mwy o wybodaeth am ddewis defnyddwyr. 

5. Adroddiad y Cadeirydd 

5.1 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar lafar ar ei chyfnod byr fel Cadeirydd WFAC ers ei phenodiad ym mis Medi, a oedd yn cynnwys manylion ei rhaglen gynefino.

6. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 23/10/03)

6.1 Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad ar lafar ar ei adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariadau ar Fridio Manwl a Chynhyrchion Rheoleiddiedig. 

7. Unrhyw fater arall 

7.1 Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod busnes yn cael ei gynnal 7 Rhagfyr.

Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.