Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Awdurdodau lleol

Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol yn y DU i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn onest. Mae gennym gytundebau a phrotocolau ar waith i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith a rhoi arweiniad i esbonio’r rheoliadau a sut y gellir eu cymhwyso i fusnesau bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dewch o hyd i Godau Ymarfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd lleol

Rhwydwaith Rhannu’r ASB

Fel rhan o ddatblygu’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ag awdurdodau lleol yn barhaus, ac yn darparu adnoddau iddynt er mwyn cyflawni eu rolau’n effeithiol, rydym wedi creu llwyfan Rhwydwaith Rhannu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA LINK); llwyfan i alluogi cyfathrebu, cydweithio ac adnoddau sydd wedi’u targedu at swyddogion awdurdodau lleol sy’n gweithio ym meysydd gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid.

Y llwyfan hon fydd y prif borth i awdurdodau lleol ddod o hyd i adnoddau fel ffurflenni, templedi, pecynnau cymorth a chanllawiau.

I ddefnyddio llwyfan Rhwydwaith Rhannu’r ASB, mae angen i chi greu cyfrif. Dylai swyddogion awdurdodau lleol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost gwaith swyddogol er mwyn cael mynediad ar unwaith lle byddant yn gallu gweld yr holl gynnwys unwaith bod y cyfrif wedi'i gymeradwyo. Gall rhanddeiliaid â diddordeb gofrestru i ddarllen gwybodaeth ‘Swyddogol’.

Gallwch weld yr archif o lythyrau gorfodi rhwng 2008 a 2017 yn yr Archifau Cenedlaethol.

Cefnogi awdurdodau lleol

Rydym yn darparu canllawiau a fframweithiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson wrth orfodi’r cyfreithiau perthnasol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys Codau Ymarfer, Cytundebau Fframwaith a Chanllawiau Ymarfer.

Y Llawlyfr Safonau Bwyd

Mae’r Llawlyfr Safonau Bwyd yn cyfeirio at ddeddfwriaeth cyfansoddiad bwyd a labelu bwyd. Mae hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol i ddeddfwriaeth a nodiadau canllaw.

Bwriad y llawlyfr hwn yw helpu swyddogion diogelwch bwyd i ddod yn fwy cyfarwydd â deddfwriaeth safonau bwyd a chanllawiau cysylltiedig. Dylai’r llawlyfr roi trosolwg o gamau gweithredu ymarferol mewn perthynas â deddfwriaeth safonau bwyd, yn ogystal â’r camau a gymerir i orfodi’r ddeddfwriaeth, a dylai hefyd alluogi swyddogion i nodi ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.

Cytundeb Fframwaith

Mae’r Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol yn rhoi ffordd i ni arfer ein pwerau o dan y Ddeddf Safonau Bwyd er mwyn dylanwadu ar weithgarwch gorfodi awdurdodau lleol a’i oruchwylio.

Mae’r Cytundeb yn nodi manylion am y canlynol:

  • cynlluniau gwasanaethau lleol sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cynyddu tryloywder gwasanaethau gorfodi lleol
  • safonau gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid y cytunwyd arnynt ar gyfer awdurdodau lleol
  • camau monitro data gwell gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau arolygiadau ac sy’n rhoi gwybodaeth fanylach ar berfformiad awdurdodau lleol
  • cynllun archwilio gyda’r nod o sicrhau gwelliannau a rhannu arferion da

Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol

Mae’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol ar gyfer bwyd anifeiliaid ac ar gyfer hylendid bwyd ar lefel cynhyrchu cynradd yn cael eu datblygu’n flynyddol mewn ymgynghoriad â’r canlynol:

  • cynrychiolwyr awdurdod lleol 
  • Safonau Masnach Cenedlaethol 
  • arweinwyr bwyd anifeiliaid rhanbarthol 
  • Panel Amaethyddiaeth Cenedlaethol 
  • Aelodau Panel Cenedlaethol Bwyd Anifeiliaid mewn Porthladdoedd 

Mae ymgorffori’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol i raglen o reolaethau swyddogol yn helpu i gynnal gwelliannau o ran lefelau cydymffurfio gan weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid drwy orfodi ar sail gwybodaeth. Nod hyn yw:

  • cynnal cydraddoldeb ar gyfer busnesau onest a diwyd, sydd er budd y diwydiant bwyd anifeiliaid yn ei gyfanrwydd
  • lleihau beichiau diangen ar fusnesau drwy ganolbwyntio gweithgarwch awdurdodau lleol ar feysydd cytunedig sy’n peri’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl a/neu iechyd anifeiliaid
  • creu dull ymyrryd hyblyg ac effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth, wrth gynnal lefelau priodol o fonitro cydymffurfiaeth ledled Cymru a Lloegr
  • gwireddu ein nod strategol o ‘Fwyd y Gallwn Ymddiried Ynddo’ 
  • gwella ansawdd a chysondeb rheolaethau swyddogol ledled Cymru a Lloegr
  • diogelu iechyd anifeiliaid a/neu iechyd y cyhoedd

Blaenoriaethau Safonau Bwyd Cenedlaethol

Cafodd yr adroddiad cyntaf ar flaenoriaethau Safonau Bwyd Cenedlaethol ei gyhoeddi a’i rannu ag awdurdodau lleol ym mis Mai 2024. Cafodd y blaenoriaethau eu nodi ar sail gwaith ymchwil a thrwy ddadansoddi nifer o ffynonellau data, gan gynnwys cudd-wybodaeth am faterion bwyd, canlyniadau samplu o amrywiaeth o raglenni, adroddiadau ar gŵynion cwsmeriaid a gwybodaeth gan grwpiau bwyd.

Datblygwyd y blaenoriaethau yn dilyn ceisiadau gan yr awdurdodau lleol hynny a oedd ynghlwm wrth y cynllun peilot o ddatblygu’r model gweithredu safonau bwyd. Er nad ydym yn awgrymu mai dyma’r unig broblemau y gallai tîm bwyd orfod ymdrin â nhw, maent yn adlewyrchu asesiad o swmp yr adroddiadau a gawsom ynghylch y problemau a’r risgiau cysylltiedig mewn perthynas â safonau bwyd.

Mae’r blaenoriaethau’n helpu’r ASB wrth iddi gynnal ei rhaglen samplu i ganfod unrhyw achosion drwgdybiedig o ddiffyg cydymffurfio. Bydd y blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n flynyddol.

Deunyddiau canllaw ategol ar gyfer swyddogion gorfodi

Yn ogystal â’r Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer, rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw annibynnol ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym, datblygiad mewn polisi neu mewn ymateb i ddigwyddiad.

Mae’r Canllaw ar Gyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (diweddarwyd Ionawr 2018) yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn amlinellu sut mae’r cyfrifoldeb am gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU wedi’i rannu. Rydym yn diweddaru'r rhestr hon ar hyn o bryd, ond mae’n parhau i fod wedi’i gyhoeddi at ddibenion cyfeirio gan ei fod yn adnodd defnyddiol o hyd.

Hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi

Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi ar nifer o wahanol bynciau gan gynnwys: 

  • samplu 
  • labelu
  • cudd-wybodaeth
  • Model Gweithredu Safonau Bwyd
  • diogelwch bwyd
  • hylendid a safonau
  • diogelwch bwyd anifeiliaid
  • gallu i olrhain

Mae dolenni i ddeunyddiau hyfforddi a chyrsiau ar-lein ar gyfer swyddogion gorfodi ar gael drwy lwyfan Rhwydwaith Rhannu’r ASB, ein porth adnoddau a chyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol.

Monitro gweithgarwch awdurdodau lleol

Fel rheoleiddiwr, mae gennym ddyletswydd statudol i fonitro gweithgarwch awdurdodau lleol fel bod gennym sylfaen dystiolaeth ynghylch cynnal rheolaethau bwyd swyddogol. Rydym yn defnyddio’r data hwn i asesu perfformiad awdurdodau lleol.

Ers dechrau’r pandemig COVID-19, mae ffurflenni ar-lein pwrpasol wedi’u defnyddio i gasglu data yn lle System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS). Cyflwynwyd y ffurflen flynyddol gyntaf ym mis Ebrill 2021. Ar hyn o bryd, mae data’n cael ei gasglu ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio llwyfan ar-lein.

Unwaith y bydd y data wedi’i ddadansoddi a’i werthuso, cyhoeddir data cyfanredol ar lefel gwlad, er enghraifft mewn perthynas ag ymyriadau a gynhaliwyd, adnoddau staff o fewn timau bwyd, a gweithgareddau samplu a gorfodi, mewn adroddiadau i Fwrdd yr ASB. Hyd at 2020, roedd adroddiadau LAEMS, a oedd yn cynnwys data cyfanredol, yn cael eu cyhoeddi ynghyd â data ar lefel awdurdod lleol.

Data Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol

Mis Rhagfyr 2020 i fis Medi 2024

Mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae adroddiadau o flynyddoedd cynharach ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.