Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Gwybodaeth am godau ymarfer a chanllawiau ymarfer cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a’r Fframwaith Cymyseddau ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE yn gymwys mwyach ym Mhrydain Fawr. O ran deddfwriaeth yr UE a oedd wedi’i dargadw pan ymadawodd y DU â’r UE, trodd hon yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd. Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol.

Wales

England

Northern Ireland

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid. Mae angen i awdurdodau bwyd anifeiliaid ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol iddynt.

Wales

England

Northern Ireland

Canllawiau Ymarfer

Rydym yn cyhoeddi Canllawiau Ymarfer sy’n anstatudol sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer statudol. Mae’r rhain yn darparu cyngor cyffredinol ar y dull o orfodi’r gyfraith.

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd

England

Northern Ireland

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Wales

England

Northern Ireland

 

Fframwaith Cymwyseddau

Gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cyflenwi rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau’n nodi’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn Nghymru a Lloegr, a swyddogion cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, gan ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhain. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau ar gael ar Rwydwaith Rhannu’r ASB. Bydd angen cyfrif Rhwydwaith Rhannu’r ASB arnoch i weld hwn.