Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yn Türkiye
Argymhelliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i archwilio rheolaethau Türkiye i sicrhau bod gweddillion plaladdwyr mewn cynhyrchion bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid (FNAO) y bwriedir eu hallforio i Brydain Fawr yn cydymffurfio â’r terfynau gweddillion penodedig a osodwyd yn neddfwriaeth Prydain Fawr.
Cefndir
Ym mis Mai 2023, gwnaeth yr ASB gyflwyno ei blaenoriaethau o ran cynnal archwiliadau trydedd wlad ar sail risg i Swyddfa Defra ar gyfer Sicrwydd Masnach SPS, i’w hystyried er mwyn eu cynnwys yng nghynllun archwilio rhyngwladol y DU. Un o’r blaenoriaethau hyn oedd archwilio system reoli Türkiye i sicrhau bod FNAO sy’n cael ei allforio i Brydain Fawr yn cydymffurfio â’n rheolaethau gweddillion plaladdwyr ar gyfer bwyd. Gan fod cynifer o fewnforion FNAO o Türkiye yn dod i Brydain Fawr, ac wrth ystyried y ffaith bod lefelau diffyg cydymffurfio’r nwyddau yn uchel, gellir cyfiawnhau rhoi sylw pellach i reolaethau Türkiye ar gyfer nwyddau FNAO sydd i’w hallforio i Brydain Fawr.
Mae yna hefyd nifer o nwyddau FNAO o Türkiye ar hyn o bryd sy’n destun rheolaethau mewnforio ychwanegol. Mae llawer o’r rheolaethau hyn wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn heb dystiolaeth ddigonol o welliant i gyfiawnhau eu dileu, sy’n awgrymu nad yw peryglon FNAO, yn enwedig gweddillion plaladdwyr, yn cael eu rheoli’n ddigonol ar lefel genedlaethol.
Mai 2023, Argymhelliad yr ASB
Mae’r ASB yn argymell bod y DU yn ceisio archwilio Türkiye o ran rheoli a defnyddio plaladdwyr ym mhob nwydd FNAO. Fel astudiaeth achos, dylai’r archwiliad ganolbwyntio’n arbennig ar nwyddau lle mae problemau hirsefydlog o ddiffyg cydymffurfio heb eu datrys.