Anthony Harbinson – Aelod Bwrdd yr ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Gwnaeth Anthony Harbinson ymddeol o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon fel Ysgrifennydd Parhaol Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Gorffennaf 2022, wedi 37 mlynedd o wasanaethu cyhoeddus. Ac yntau’n Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig o ran cymhwyster, dechreuodd ei yrfa yng Ngwasanaeth Trydan Gogledd Iwerddon, cyn symud i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Personol Gogledd Iwerddon am 15 mlynedd, lle ymgymerodd ag ystod o Swyddi Cyfarwyddwr, gan gwmpasu meysydd fel Cyllid, Cynllunio, AD, TGCh, Ystadau a Chontractio mewn ystod o gyrff iechyd, gan gynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans, Gofal Sylfaenol, ac Ymddiriedolaethau Ysbytai Acíwt.
Yn 2001 ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil gan dreulio’r pum mlynedd nesaf fel Uwch Gyfarwyddwr Cynorthwyol Erlyniadau Cyhoeddus, gan ddylunio a gweithredu’r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon cyn symud i Swyddfa Gogledd Iwerddon lle treuliodd dair blynedd fel Cyfarwyddwr Adnoddau. Yn 2010 ymunodd ag Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon, a oedd newydd ei ffurfio, lle gwasanaethodd i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyflawni Cyfiawnder, ac yna fel Cyfarwyddwr Cymunedau Diogelwch, ac yn olaf fel Cyfarwyddwr Mynediad at Gyfiawnder a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon.
Ef hefyd yw cyn-Lywydd Byd-eang Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), corff cyfrifyddu byd-eang mwyaf y byd; bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Cyrff Cyfrifyddu (CCAB), sef grwpiau ymbarél o gyrff proffesiynol siartredig ar gyfer cyfrifwyr ardystiedig siartredig ym Mhrydain.
Diddordebau personol
- Cerdded
- Coginio
- Gwaith Elusennol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Dim
Gwaith am ffi
- Dim
Gwaith heb ffi
- Dim
Cyfranddaliadau
- Dim.
Clybiau a sefydliadau eraill
- Trysorydd ac Aelod o Urdd Farchogol Beddrod Sanctaidd Caersalem, Rhaglawiaeth Iwerddon.
Buddiannau personol eraill
- Aelod Bwrdd Anweithredol Nazareth Care Ireland – elusen cartref nyrsio a gynhelir gan urdd grefyddol.
- Cyfarwyddwr Anweithredol Richmond Fellowship Ireland (sy’n masnachu fel Threshold) – elusen iechyd meddwl.
Cymrodoriaethau
- Cymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
Cymorth anuniongyrchol
- Aelod o Bwyllgor Cyllid Corfforaethol a Dibenion Cyffredinol Cynhadledd Esgobol Iwerddon.
Ymddiriedolaethau
- Ymddiriedolwr Cynllun Pensiwn Staff ACCA.
Tir ac eiddo
- Dau eiddo preswyl yng Ngogledd Iwerddon
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim