Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cyfarwyddwyr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 15 Gorffennaf 2021

Penodol i Gymru

Adroddiad Cyfarwyddwyr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru 15 Gorffennaf 2021

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 February 2022

WFAC 21/07/02    
I’w drafod

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) – Adroddiad y Cyfarwyddwr 

Crynodeb Gweithredol

  1. Mae’r adroddiad gan Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yn adrodd ar faterion perthnasol a allai fod o ddiddordeb i aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 10/06/21 a 15/07/21.
  2. Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gyda diweddariad ar lafar, lle bo’n briodol.  
  3. Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:
  • nodi’r diweddariad 
  • gofyn i’r Cyfarwyddwr ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach.

Cysylltwch â: Lucy Boruk
Lucy.Boruk@food.gov.uk 

WFAC 21/07/02    
I’w drafod
Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru i’r Pwyllgor – Gorffennaf 2021

1. Llywodraeth Cymru


1.1       Cynhaliwyd cyfarfod rhagarweiniol gyda Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles sydd newydd ei phenodi, ar 23 Mehefin. Roedd presenoldeb yr ASB yn cynnwys Ruth Hussey, Susan Jebb, Peter Price, Emily Miles, Julie Pierce, Nathan Barnhouse, a Mark Thornton. Roedd y cyfarfod cyntaf hwn gyda’r Gweinidog yn gyfle i gyflwyno’r ASB yn ffurfiol, ac i drafod ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), adfer yn dilyn COVID-19 a’r adolygiad o’r ASB yng Nghymru.  Roedd yn gyfarfod cadarnhaol ac mae’r cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ar hyn o bryd.  Ymhellach, fel rhan o gyflwyniad Susan Jebb, mae cyfarfod rhagarweiniol hefyd yn cael ei gynnal gyda Lesley Griffiths AS, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Mae hyn wedi ei drefnu ar gyfer 16 Awst.

1.2       Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant yn ddiweddar y byddai adolygiad o weithrediadau’r ASB yng Nghymru yn cael ei gynnal. Gofynnwyd i swyddogion Llywodraeth Cymru ddatblygu manyleb ar gyfer yr adolygiad hwn a phenodi tîm annibynnol. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd yr ASB yng Nghymru, ynghyd ag Uwch Reolwyr ar draws yr ASB, yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gefnogi’r adolygiad. Wrth gyhoeddi’r adolygiad, gwnaeth y Gweinidog gydnabod rôl ehangach yr ASB, yn dilyn cyfnod pontio’r Deyrnas Unedig ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), yn ogystal â’n cyfrifoldeb newydd dros lawer o’r swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop. Gwnaeth hi hefyd gydnabod rôl sylweddol yr ASB wrth iddynt gefnogi adferiad awdurdodau lleol yn dilyn COVID-19, er mwyn sicrhau’r lefelau uchel o ddiogelwch bwyd sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad yn ymgysylltu ag ystod o safbwyntiau gan randdeiliaid, a bydd yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio a fydd yn cynnwys yr ASB. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr adolygiad.  
 

1.3     Gosodwyd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2020-21 gerbron y Senedd ar 6 Gorffennaf.

2. Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW)

2.1     Cynhaliodd prif grŵp y bartneriaeth ei gyfarfod diwethaf ar 23 Mehefin. Mae Matthew Frankcom (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) wedi gadael ei rôl fel Cadeirydd. Mae’r broses o ethol Cadeirydd newydd wedi dechrau a bydd swyddog o Lywodraeth Cymru yn goruchwylio’r broses enwebu. Cynhelir cyfarfod nesaf y brif bartneriaeth ym mis Medi. Mae cyfarfod nesaf is-grŵp adfer SSAFW yn cael ei drefnu ar gyfer canol mis Gorffennaf, lle bydd trafodaethau’n cael eu cynnal ar ddisodli’r is-grŵp adfer gyda grŵp adolygu trywydd (roadmap).  

3. Allforio Pysgod Cregyn i’r UE

3.1    Rwyf wedi adrodd yn flaenorol ar waith dosbarthu gwelyau pysgod cregyn yn y Fenai. Rydym ni’n parhau i gysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru ar fater ansawdd dŵr ac unrhyw oblygiadau perthnasol o ran dosbarthu gwelyau. Byddaf yn rhoi diweddariad llafar ar y mater hwn yn y cyfarfod.  

4. Ymgysylltu’n allanol

4.1    Rydym ni’n parhau i gyfrannu at gyfarfodydd y grŵp llywio mewn perthynas â chynllunio Cynhadledd Diogelwch Bwyd Byd-eang y DU, sydd i’w chynnal ar 13-15 Hydref 2021. Bydd taflenni ’dyddiad i’r dyddiadur’ yn cael eu dosbarthu i bob aelod. Bydd gwybodaeth am fanylion y gynhadledd ynghyd â gwahoddiadau ffurfiol yn cael eu dosbarthu maes o law.

4.2   Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor (10/06/21), rwyf wedi cymryd rhan yn y cyfleoedd ymgysylltu canlynol a allai fod o ddiddordeb i aelodau:

  • 17 Mehefin – Cyfarfod â Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir i drafod adfer a gwaith parhaus arall. 
  • 23 Mehefin – Cyfarfod SSAFW
  • 6 Gorffennaf – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd Cymru
  • 14 Gorffennaf – Cynhadledd Polisi Bwyd a Maeth San Steffan – Dyfodol safonau, diogelwch a rheoleiddio bwyd yn y DU.
     

5. Rhannu gwybodaeth

5.1    Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, mae’r wybodaeth ganlynol wedi’i rhannu ag aelodau:

  • Gwybodaeth i ddefnyddwyr am gyw iâr wedi’i rewi
  • Newidiadau i arferion gwaith
  • Cyhoeddi Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB, yn ffurfiol


Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr, yr ASB yng Nghymru
10 Gorffennaf 2021