Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 15 Gorffennaf 2021

Penodol i Gymru

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 15 Gorffennaf 2021

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 February 2022

WFAC 21/07/01    
I’w drafod

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Adroddiad y Cadeirydd 

Crynodeb Gweithredol

1.    Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb byr o’r materion a drafodwyd yng nghyfarfod polisi’r Bwrdd ar 16 Mehefin, ac yn rhestru cyfarfodydd eraill ar lefel y Bwrdd yr aeth y Cadeirydd iddynt ac adroddiadau ar agweddau ar waith sy’n ymwneud â chylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 
 

2.    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd 
  • gofyn i’r Cadeirydd ymhelaethu ar unrhyw faterion i'w trafod ymhellach

Cysylltwch â: Lucy Boruk
Lucy.Boruk@food.gov.uk 

 
WFAC 21/07/021    
I’w drafod

Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor – Ebrill 2021


1.     Cyfarfodydd y Bwrdd

1.1    Cynhaliwyd cyfarfod polisi diwethaf y Bwrdd ar 16 Mehefin. Cynhaliodd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor) gyfarfod ar 10 Mehefin i gytuno ar ei gyngor ar y saith papur a oedd yn cael eu hystyried.  Fel rhan o drafodaeth y Bwrdd ar bob papur, lle’r oedd yn berthnasol, fe dynnais sylw at y cyd-destun gwahanol yng Nghymru gan adlewyrchu cyngor WFAC.  Dyma’r papurau polisi a gafodd eu cymeradwyo ar ôl trafodaethau:

Diweddariad Gwyddoniaeth Blynyddol gan Brif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB (Papur FSA 21/06/04) - (Saesneg yn unig)

1.2    Rhoddodd y papur hwn drosolwg o rôl gwyddoniaeth o fewn yr ASB, gan dynnu sylw at brif gerrig milltir gwyddoniaeth a gwaith ymgysylltu â’r Llywodraeth ehangach. 

1.3    Wrth gymeradwyo gwaith y Prif Gynghorydd Gwyddonol, codais y pwyntiau canlynol:

  • Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod cysylltiadau cryf yn parhau gyda Phrif Gynghorwyr Gwyddonol mewn adrannau eraill o'r llywodraeth, gan gynnwys yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
  • Awgrymodd y Pwyllgor, a Peter Halligan, y byddai Dr Rob Orford (Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru) yn gyswllt defnyddiol
  • Roedd y Pwyllgor yn croesawu creu darnau cyfathrebu gwyddoniaeth  hawdd eu deall fel taflenni a fideos ‘Mae’r ASB yn Esbonio’ a’r ffaith eu bod ar gael yn Gymraeg     
  • Roedd y Pwyllgor yn siomedig nad yw unrhyw brifysgolion na sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn ymwneud ag unrhyw brosiectau ymchwil yr ASB (a gafodd ymateb cadarnhaol);
  • Awgrymwyd y byddai llwyfan digidol haws ei ddefnyddio yn cynyddu amlygrwydd galwadau am ymchwil. Derbyniodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol yr awgrym hwn a chredai y gellid mynd i’r afael â hyn trwy ddulliau ymgysylltu mwy uniongyrchol 
  • Mae gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru yn sector mawr, gyda llawer o fusnesau bach a chanolig 
  • Mae materion sy’n ymwneud â fforddiadwyedd bwyd yn faes sydd yn aml yn peri pryder i’r Pwyllgor, a gofynnais sut y gellid defnyddio gwybodaeth tracio defnyddwyr i fynd i’r afael â’r materion hyn. Ymatebodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ei fod yn awyddus i sicrhau bod data’r ASB yn cael ei gyhoeddi, fel y gallai fod yn ddefnyddiol.

Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Polisi a Rheoleiddio’r ASB (Papur FSA 21/06/05) - (Saesneg yn unig)

1.4        Rhoddodd y papur hwn drosolwg o’r dirwedd bolisi sy’n datblygu. 

 1.5       Wrth groesawu’r prif flaenoriaethau strategol, seiliwyd fy sylwadau ar y canlynol: 

  • Croesawyd y dull o seilio datblygiad polisi yn y dyfodol yng nghyd-destun y tair a phedair gwlad
  • Roedd ymrwymiad parhaus yr ASB i gydweithio ar draws y tair gwlad a chyda Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn gadarnhaol ac yn hanfodol
  • Mae’r Concordat ar gyfer trefniadau gweithio rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd 
  • Roedd y Pwyllgor yn croesawu cyfeiriadau yn y papur at ddeddfwriaeth a chynlluniau gweithredu sy’n benodol i Gymru – Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod Cymru, Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Nodwyd ei bod yn bwysig bod y model cost salwch yn ystyried y gwahaniaethau yn y pedair gwlad (er enghraifft, mae presgripsiynau yn rhad ac am ddim yng Nghymru) 
  • Croesawyd y broses o gydgysylltu materion labelu sy’n adlewyrchu’r gwahanol gylchoedd gwaith ar draws yr ASB yn ganolog 
  • Wrth ymgysylltu â’r diwydiant, nodwyd ei bod yn bwysig bod yna nifer mawr o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ac felly croesawodd y Pwyllgor y dulliau arloesol a ddefnyddir i ymgysylltu â’r sector hwn
  • Roedd defnyddio’r ymadrodd ‘safonau bwyd a diogelwch bwyd’ yn creu’r argraff nad oedd ‘safonau bwyd’ yn cynnwys diogelwch, tra bod ei gwmpas yn cynnwys unrhyw beth a allai fod yn niweidiol neu’n andwyol i ddefnyddwyr. Ar ben hynny, byddai’r term ‘safonau bwyd’ yn helpu i bontio’r bwlch rhwng cylch gwaith cyfredol yr ASB o ran maeth a newidiadau posibl a allai olygu bod yr ASB yn chwarae ran fwy yn y maes hwnnw.

Adroddiad blynyddol ar Raglen Sganio’r Gorwel (Papur FSA 21/06/06) - (Saesneg yn unig)

1.6       Roedd y papur yn archwilio gallu’r ASB i sganio’r gorwel, a’r gallu i nodi bygythiadau, risgiau a chyfleoedd sy’n dod i'r amlwg.  
 

1.7       Wrth groesawu’r gwaith, dyma’r pwyntiau a ddaeth i’m sylw:

  • yr angen i ddilysu’r asesiadau a’r blaenoriaethau a ddarparwyd yn erbyn tystiolaeth arall 
  • ni ddangosodd yr wybodaeth am ddefnyddwyr a ddeilliodd o’r traciwr unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 
  • efallai y byddai’r angen am sganio ar gyfer ardaloedd newydd yn rheolaidd a gwaith y Ganolfan Biogyfansoddiau ym Mhrifysgol Bangor mewn perthynas ag arloesi ym maes bioddeunyddiau o ddiddordeb i’r ASB – awgrym a dderbyniwyd yn gadarnhaol.   

Adroddiad Blynyddol ar Asesu Risg (Papur FSA 21/06/07) - (Saesneg yn unig)

1.8        Mae’r papur hwn yn rhoi manylion gwaith asesu risg yr ASB a’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma, gan dynnu sylw at heriau a chynlluniau. Mae’r papur hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yr asesiadau risg ar gyfer Labelu sy’n Gysylltiedig â Maeth a Safonau Cyfansoddiadol (NLCS) sy’n cefnogi cyfrifoldebau’r ASB yng Ngogledd Iwerddon, a hefyd geisiadau am asesiadau risg i gefnogi cylch gwaith polisi adrannau eraill y Llywodraeth. 

1.9      Wrth gefnogi gwaith yr uned asesu risg, dyma’r pwyntiau a godais: 

  • mae angen diweddaru adolygiadau systematig drwy’r amser 
  • mae angen i arbenigwyr reoleiddio, lleihau a dileu risgiau trwy ddeall technolegau arloesol

Diweddariad ar Orsensitifrwydd i Fwyd (Papur FSA 21/06/08) - (Saesneg yn unig)

1.10      Mae’r papur yn nodi’r cynnydd a wnaed ers mis Rhagfyr 2020 ym meysydd allweddol gorsensitifrwydd i fwyd. Mae’r meysydd gwaith hynny’n cynnwys newidiadau i’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol, a chefnogi defnyddwyr a busnesau.

1.11     Wrth gefnogi datblygiad y mecanwaith i roi gwybod am alergeddau, dyma’r pwyntiau a godwyd gennyf:

  • Codwyd pryderon am y cynigion posib o ran diwygio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i ymgorffori cynllun diogelwch ar gyfer alergeddau bwyd, gan nodi y byddai hyn yn gymhleth o ystyried y cynlluniau statudol sy’n bodoli yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac y gallai fod yn ddryslyd i’r defnyddiwr
  • Gallai’r angen i ddatblygu rheolaethau ar gyfer rheoli a labelu alergenau o fewn y sector gweithgynhyrchu, yn benodol y defnydd o labelu alergenau rhagofalus (PAL), olygu nad yw’r risgiau gwirioneddol yn cael eu hystyried yn ddigonol – fel rhan o’r ymateb, fe’m sicrhawyd y byddai’r ASB yn ymgynghori â busnesau bwyd a defnyddwyr ar y defnydd priodol o labelu alergenau rhagofalus
  • Mae angen parhau i weithio gyda busnesau bach, gan ystyried y nifer mawr o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod dulliau rheoleiddio’n cynnwys arlwywyr bach a’u bod yn ymwybodol o’r newidiadau i labelu alergenau ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) – mewn ymateb i hyn fe’m sicrhawyd bod y cymorth i fusnesau o’r fath eisoes yn cynnwys y busnesau hyn yng Nghymru 
  • Roedd rhywfaint o orgyffwrdd â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, felly roedd angen i ddefnyddwyr ddeall beth oedd wedi’i gynnwys yn y ddau gynllun, er mwyn osgoi’r argraff bod sgôr uchel yn golygu dulliau rheoli alergenau effeithiol. Fel rhan o’r ymateb i hyn, dywedwyd wrthyf fod hwn yn un maes allweddol a bod yna ymdrechion i ddatblygu’r Cynllun Ymwybyddiaeth Alergeddau Bwyd, gan ystyried cymhlethdod gorsensitifrwydd i fwyd.

Adroddiad Terfynol Gweithgor y Cyngor Gwyddoniaeth ar Orsensitifrwydd i Fwyd ac Ymateb yr ASB (Papur FSA 21/06/09) - (Saesneg yn unig)

1.12    Roedd y papur hwn yn cyflwyno adroddiad ac argymhellion terfynol Gweithgor y Cyngor Gwyddoniaeth ar Orsensitifrwydd i Fwyd, gan nodi dadansoddiad yr ASB o argymhellion y Grŵp a chynnig ymatebion. Codais berthnasedd ymgysylltu â’r byd academaidd yng Nghymru i ddeall y gwaith y maent yn ei wneud.

Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd (Papur FSA 21/06/10) - (Saesneg yn unig)

1.13    Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer adroddiad blynyddol ar y cyd rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Ers hynny mae swyddogion yr ASB wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Safonau Bwyd yr Alban i ddatblygu’r adroddiad. 

1.14    Wrth gefnogi’r cynnig am adroddiad blynyddol ar y cyd, roedd fy sylwadau’n seiliedig ar y pwyntiau canlynol:

  • Dylai’r adroddiad ganolbwyntio ar fuddiannau defnyddwyr a ph’un a yw safonau bwyd wedi’u cynnal neu eu gwella
  • Croesawyd y dull gweithio ar draws y tair a phedair gwlad yn yr adroddiad 
  • Gwnaeth y Pwyllgor groesawu’r ymagwedd fwy cyfannol at “safonau bwyd”, gan gynnwys maeth a labelu bwyd yn ogystal â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid.   

1.15    Mae fideo o drafodion llawn cyfarfod 16 Mehefin ar gael ar wefan yr ASB. Bydd cofnodion y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau’r Bwrdd ar ein wefan.


1.16    Es i i gynhadledd y Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg, a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, a chymeradwywyd yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn ffurfiol. Trafodwyd y rhain yn helaeth yn flaenorol pan oeddent ar ffurf drafft.  


2.      Cynaeafu Molysgiaid yn y Fenai


2.1      Yn Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor Busnes (Saesneg yn unig), roedd cynaeafu yn y Fenai ymhlith y pynciau a drafodwyd:

2.2      Mae tudalen 3 yn cynnwys y dyfyniad sy’n arbennig o berthnasol i Gymru:

2.3      Yn dilyn fy niweddariad i’r Bwrdd ym mis Mai ar bysgod cregyn a dosbarthu ardaloedd cynaeafu, rwyf am nodi bod yr ASB wedi cwblhau ei dadansoddiad cychwynnol o newidiadau i’r broses ddosbarthu ar gyfer ardaloedd cynaeafu Molysgiaid Dwygragennog Byw.

Byddwch chi’n cofio y bu newid i’r ffordd yr oedd yr UE yn ystyried maes mewnforio pysgod cregyn ar ôl diwedd y Cyfnod Pontio. O’r herwydd, nid oedd diwydiant pysgod cregyn y DU bellach yn gallu allforio pysgod cregyn i’r UE o ddyfroedd Dosbarth B. Mae’r ASB felly wedi bod yn gweithio i fireinio ein dull o wahaniaethu rhwng dyfroedd Dosbarth A a B er mwyn sicrhau ein bod yn dosbarthu dyfroedd mewn modd mor gywir â phosibl. Yn flaenorol, nid oedd y gwahaniaeth rhwng dyfroedd A a B wedi bod yn berthnasol i faes allforio pysgod cregyn i’r UE. 

Yn y tymor byr, rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar gynigion sy’n ymarferol o fewn y fframwaith cyfreithiol cyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac a allai effeithio ar ardaloedd cynaeafu dosbarth A/B o fewn amserlen eithaf byr. Mae’r rhain yn newidiadau technegol mewn protocolau manwl, na fyddent fel arfer yn cael eu hadrodd i Bwyllgor Busnes yr ASB, ond roeddwn i am nodi hyn yn gyhoeddus gan fod y mater hwn wedi’i godi yn y Senedd ac yn y cyfryngau. 

Fel cam cyntaf, caiff ein protocolau eu diweddaru i gynnwys dau faen prawf ychwanegol ar gyfer ystyried canlyniadau anghyson o ardaloedd cynaeafu Dosbarth A. Bydd y rhain yn ein galluogi i eithrio canlyniadau annodweddiadol o uchel (y rhai sy’n 3 gwyriad safonol uwch ben y lefelau halogiad cymedrig) a chael ymateb cymesur i ganlyniadau achlysurol sydd ychydig yn uwch na’r trothwy ar gyfer ardaloedd cynaeafu Dosbarth A lle mae data monitro fel arall yn dangos bod yr ardal yn parhau i fodloni meini prawf Dosbarth A. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â Chyfraith yr UE a Ddargedwir (Retained) sy’n caniatáu i ganlyniadau anghyson o ardaloedd cynaeafu Dosbarth A gael eu diystyru ar sail asesiad risg sy’n seiliedig ar ymchwiliad. Rydym ni’n credu nad oes unrhyw risg ychwanegol i iechyd y cyhoedd yn sgil y diwygiadau gan y gellir diystyru canlyniadau anghyson eisoes, a bod y newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth. 

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dilyn adolygiad blynyddol eleni o ddosbarthiadau a oedd yn gymwys ym mis Medi 2021. Bydd yr amseriad hwn yn caniatáu i’r meini prawf ychwanegol gael eu cymhwyso i ganlyniadau anghyson hanesyddol yn y set ddata 3 blynedd, a fydd yn ystyried hyn oll. Rydym ni’n gweithio’n gyflym i ystyried sut y bydd y rhain yn effeithio ar ardaloedd cynaeafu unigol, ac i sicrhau bod y protocolau’n cael eu diweddaru i ddarparu’r fframwaith priodol er mwyn rhoi’r newidiadau ar waith. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith adeg yr adolygiad blynyddol ar ddosbarthiadau pysgod cregyn ym mis Ionawr 2022. 

2.4     Mae’r atodiad yn cynnwys dadansoddiad manylach.

2.5     Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn.  


3.     Materion Eraill


3.1     Fel Cadeirydd y Pwyllgor, es i i’r cyfarfod rhagarweiniol gyda Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles sydd newydd ei phenodi, ar 23 Mehefin. Gwnes i hefyd gymryd rhan, fel arsylwr, yng nghyfarfod partneriaeth Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) ar yr un diwrnod.  Cynhelir cyfarfod nesaf SSAFW ar 22 Medi. 

Peter PriceAelod Bwrdd ar gyfer Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
12 Gorffennaf 2021