Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Polisi Bwydydd Newydd a Bwydydd GM

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â bwydydd newydd a bwydydd GM, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu gweinyddu manylion cyswllt ar gyfer busnesau mewn perthynas â dosbarthu gwybodaeth ar un ai bwydydd newydd, bwydydd wedi'u haddasu'n enetig (GM), neu'r polisi sy'n ymwneud â'r rhain.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Gallai methu â darparu'r wybodaeth arwain at oedi o ran gohebiaeth yn eich cyrraedd yn amserol.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Rydym ni hefyd yn defnyddio cynnwys yr ohebiaeth a anfonir atom ni ar fwydydd newydd, ac yn benodol ein hymatebion fel rhan o'r wybodaeth, i benderfynu a oes angen asesu bwyd o dan y Rheoliad Bwydydd Newydd. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi cyngor cyson i ddefnyddwyr a busnesau. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gallai eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo i adrannau perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn un ai bwydydd newydd neu fwydydd GM.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).