Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer MyHACCP

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd MyHACCP, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni? 

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithredu fel 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Rydym ni'n casglu'r wybodaeth hon i ganiatáu i fusnesau ddatblygu a chael mynediad i'w system rheoli diogelwch bwyd. Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chyflawni ein dyletswyddau statudol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych chi yn cael ei rhannu gyda chi fel y busnes sy'n creu'r cofnod. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gefnogi mynediad i'r system, ac yn unol â'n polisi cadw, yr ydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am dair blynedd. 

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. I gynnal y gwasanaeth hwn, gall trydydd partïon gael mynediad at wybodaeth i gefnogi datblygiad ein gwasanaethau digidol ac i'w cynnal a'u cadw. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Cafodd ein gwasanaethau cwmwl eu caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth. Mae'r gwasanaethau hyn wedi'u hasesu yn erbyn egwyddorion y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).