David Brooks - Aelod o'r Bwrdd
Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae gan Dave nifer o rolau anweithredol yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
Mae'n Gadeirydd Publica Group Ltd - sefydliad a grëwyd gan bedwar cyngor dosbarth i gyflenwi eu gwasanaethau statudol. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Future Housing Group (cymdeithas dai yn Nwyrain a De Canolbarth Lloegr), yn Gyfarwyddwr Anweithredol VIP Group Ltd (dosbarthwyr cynhyrchion caledwedd technoleg) ac mae wedi buddsoddi mewn sawl busnes bach.
Mae ganddo bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y diwydiant bwyd drwy ei waith gyda Brake, Memory Lane Cakes, fel Prif Swyddog Gweithredol Finsbury Food Group plc rhwng 2002 a 2008, yn ogystal â sawl rôl anweithredol ac ymgynghorol ers 2008. Roedd hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Sussex Cricket am bedair blynedd rhwng 2008 a 2012. Criced yw ei hoff fath o chwaraeon.
Sefydliadau, clybiau neu gyrff
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau
- Clwb Criced Swydd Sussex a Sefydliad Criced Sussex (Is-Arlywydd)
- Clwb Criced Cookham Dean (clwb criced lleol)
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cyfranddaliadau
- Finsbury Food Group plc
- Standard Life plc
Hanes diwygio
Published: 21 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ebrill 2018