Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymbelydredd mewn bwyd

Sut rydym ni'n asesu a rheoleiddio lefelau ymbelydredd mewn bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2018

Mae ymbelydredd wedi bodoli ers i'r ddaear ffurfio?gael ei chreu ac mae'n bodoli'n naturiol yn yr atmosffer, y pridd, y moroedd a'r afonydd. Mae'n anochel bod rhywfaint ohono’n  mynd i mewn i'r bwyd rydym ni'n ei fwyta.

Mae ymbelydredd yn digwydd yn naturiol ym mhob bwyd. Mae ymbelydredd naturiol yn gallu cael ei drosglwyddo i fwyd mewn gwahanol ffyrdd:

  • i mewn i gnydau o greigiau a mwynau sy'n bresennol yn y pridd
  • gall dŵr yfed godi ymbelydredd o'r ddaear
  • gall pysgod a physgod cregyn gymryd ymbelydredd o'r dŵr neu wely'r môr

Gall ymbelydredd artiffisial hefyd fynd i mewn i fwyd. Gall hyn ddigwydd pan fydd deunyddiau ymbelydrol yn cael eu rhyddhau i'r amgylchedd o ganlyniad i weithrediadau niwclear sifil neu filwrol. Yna bydd ymbelydredd artiffisial yn pasio drwy'r gadwyn fwyd yn yr un modd ag ymbelydredd naturiol.

Ymbelydredd a'n cyrff

Gall ymbelydredd niweidio DNA ein cyrff. Mae modd trwsio dosau isel o ymbelydredd, ond gall dosau uwch newid celloedd ein cyrff. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'r tebygolrwydd  o ddatblygu canser yn uwch.

Sut mae gwastraff ymbelydrol a diogelwch bwyd yn cael eu hasesu

Yn y Deyrnas Unedig (DU), mae yna gyfreithiau llym ar:

  • sut y mae'n rhaid cael gwared ar wastraff ymbelydrol
  • lefelau ymbelydredd sy’n dderbyniol i bobl ddod i gysylltiad â nhw

Dim ond ar ôl i fusnesau a sefydliadau asesu'r gwastraff ymbelydrol y mae angen iddynt gael gwared arno (er enghraifft o safleoedd niwclear, sefydliadau ymchwil ac ysbytai) y byddant yn cael trwydded i wneud hyn.

Rydym ni'n asesu sut y gallai cynlluniau i gael gwared ar wastraff ymbelydrol effeithio ar ein bwyd. Mae ffyrdd eraill y gall pobl ddod i gysylltiad ag ymbelydredd yn yr amgylchedd hefyd yn cael eu hystyried cyn y gellir rhoi trwydded . Mae asiantaethau amgylcheddol rhanbarthol yn gwneud hyn.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am geisiadau i gael gwared ar ymbelydredd yn yr amgylchedd. 
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am geisiadau i gael gwared ar ymbelydredd yn yr amgylchedd.

Rydym ni hefyd yn darparu cyngor gwyddonol arbenigol i sefydliadau eraill ar sut mae deunydd ymbelydrol mewn bwyd yn effeithio ar bobl.

ASB yn Esbonio

Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n cynhyrchu gwastraff ymbelydrol fonitro'r amgylchedd o gwmpas eu safle. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cynnal gwiriadau eilaidd.

Mae lefelau ymbelydredd mewn llaeth gwartheg yn cael eu monitro'n agos gan ei bod yn ffordd hynod effeithiol o fesur ymbelydredd o gwmpas safleoedd niwclear. Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd wartheg yn pori gerllaw ac fel arfer bydd unrhyw elfennau ymbelydrol y maen nhw'n ei fwyta yn mynd i mewn i'w llaeth.

Mae pysgod a physgod cregyn, sy'n gallu bwyta elfennau ymbelydrol yn y dŵr, yn cael eu monitro ar ôl cael eu dal.

Mae gwiriadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer rhai bwydydd sy'n cael eu mewnforio i'r DU o wledydd sydd â lefelau uchel o ymbelydredd. Gallai hyn fod o ganlyniad i ddamweiniau niwclear.

Ein gwaith ymchwil ar ymbelydredd mewn bwyd a'r amgylchedd