Gallwch chi roi gwybod i ni os:
- ydych chi'n anhapus gyda'r gwasanaeth a gewch gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
- ydych chi'n anhapus ag ymddygiad neu weithredoedd aelod o staff a gyflogir gan yr ASB neu ar ei rhan
- nad yw aelod o'n staff mewn rôl sy'n wynebu'r cyhoedd yn cwrdd â'r safonau angenrheidiol o ran rhuglder llafar yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a elwir yn 'ddyletswydd rhuglder’
Er mwyn gwneud cwyn am gynhyrchion bwyd, gallwch chi ddefnyddio ein gwasanaeth rhoi gwybod am broblem bwyd i awdurdod lleol y busnes.
Sut i wneud cwyn
Gallwch chi wneud cwyn am yr ASB drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch chi hefyd anfon llythyr at:
Cydlynydd Cwynion yr ASB
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
FOI, Complaints and Transparency Team
Clive House
Floor 7
70 Petty France
Llundain SW1H 9EX
Os byddwch chi angen help i wneud cwyn, gallwch chi ein ffonio ar: 020 7276 8829
Dylech chi wneud y gŵyn o fewn 1 mis calendr i chi ddod yn ymwybodol o'r mater.
Dywedwch wrthym a ydych am i fanylion eich cwyn gael eu cadw'n ddienw ac yn gyfrinachol pan fyddwch chi'n cysylltu â ni gyntaf.
Darllenwch bolisi cwynion llawn yr ASB
Beth fydd yn digwydd nesaf
Byddwn ni'n ymchwilio i'ch cwyn yn drylwyr.
Byddwn ni'n ysgrifennu atoch gydag ymateb llawn:
- o fewn 20 diwrnod gwaith wedi i'ch cwyn ddod i law, os yw eich cwyn yn cael ei adolygu'n lleol
- o fewn 40 diwrnod gwaith os yw eich cwyn yn cael ei adolygu gan Gydlynydd Cwynion yr ASB neu'r Prif Weithredwr
Os nad yw’n bosibl ymateb o fewn yr amser hyn, byddwn ni'n esbonio pam ac yn dweud pryd y byddwch chi'n cael ateb llawn. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych sut i uwchgyfeirio'ch cwyn os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb. Bydd hyn yn cynnwys manylion ar sut y gallwch chi ofyn i'r Ombwdsmon ymchwilio i'ch cwyn a'i thrin.
Cwynion ynglŷn â safonau Cymraeg neu Saesneg llafar
Os yw eich cwyn yn ymwneud â'r 'ddyletswydd rhuglder', byddwn ni'n rhoi gwybod i'r aelod o staff sy'n destun i'r gŵyn. Bydd cyfle iddynt roi eu barn am y ffeithiau sy'n arwain at y gŵyn.
Nid ystyrir cwyn yn erbyn acen, tafodiaith, dull neu dôn cyfathrebu, tarddiad neu genedligrwydd aelod o staff yn gŵyn gyfreithlon o dan y ddyletswydd rhuglder.
Cwynion am ein Gwasanaethau Cymraeg
Mae gwybodaeth am gwynion mewn perthynas â'n Cynllun Iaith Gymraeg a gwasanaethau ar gael ar y dudalen Cynllun Iaith Gymraeg.
Sylwadau
Rydym ni hefyd yn falch iawn o gael canmoliaeth amdanom ni neu unrhyw un o'n staff. Gallwch chi hefyd wneud awgrym ar sut i wella ein gwasanaeth.
Gallwch chi anfon unrhyw ganmoliaeth neu sylwadau drwy anfon e-bost atom drwy: