Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Trwydded i ladd

Sut i gael trwydded ofynnol i ladd anifeiliaid mewn sefydliad cig.

Tystysgrif Cymhwysedd

Gan fod y DU wedi gadael yr UE, nid yw Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) a gyhoeddwyd yn unrhyw le heblaw’r DU yn ddilys mwyach ac ni ellir ei derbyn i gyflawni dyletswyddau mewn lladd-dai cymeradwy.

Gall dinasyddion o Weriniaeth Iwerddon wneud cais am CoC y DU drwy gysylltu â WATOK@food.gov.uk gyda manylion eu CoC gyfredol yng Ngweriniaeth Iwerddon, ynghyd â’r ffi briodol. Bydd CoC y DU yn cael ei chyhoeddi ar sail cywerthedd ar gyfer yr un rhywogaethau a gweithrediadau.

Pam mae angen un arnoch chi

Mae angen Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) arnoch gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i wneud unrhyw rai o’r canlynol mewn lladd-dy a gymeradwyir gan yr ASB:

  • trin anifeiliaid cyn iddynt gael eu ffrwyno
  • ffrwyno anifeiliaid er mwyn eu stynio neu eu lladd
  • stynio anifeiliaid
  • gwirio bod y stynio wedi gweithio
  • llyffetheirio (shackle) neu godi anifeiliaid byw
  • gwaedu anifeiliaid byw
  • lladd crefyddol
  • pithio anifail sydd wedi’i stynio
  • gwirio bod y pithio wedi gweithio

Yr hyn y bydd yn ei gwmpasu

Mae’n rhaid i’ch CoC gwmpasu pob math o anifail rydych chi’n gweithio gyda nhw a phob gweithrediad rydych chi’n ei gyflawni.

Os ydych chi’n stynio anifeiliaid, rhaid i’ch CoC gynnwys y gwahanol fathau o offer rydych chi’n eu defnyddio.

Os oes angen i chi ychwanegu mwy o weithrediadau neu fathau o anifeiliaid at eich CoC, rhaid i chi gael CoC dros dro a chwblhau hyfforddiant ac asesiad ar gyfer y gweithrediad neu’r anifail ychwanegol.

Mae angen CoC lawn neu CoC dros dro arnoch chi os ydych chi’n gwneud unrhyw un o’r canlynol:

  • trin anifeiliaid cyn eu ffrwyno
  • lladd anifail â bwled rhydd er mwyn i bobl ei fwyta
  • llyffetheirio dofednod

Tystysgrifau Cymhwysedd dros dro

Bydd Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) dros dro yn eich galluogi chi i weithio dan oruchwyliaeth uniongyrchol deiliad Tystysgrif Cymhwysedd lawn ar gyfer y rhywogaethau a’r gweithrediadau rydych chi’n eu cynnal.

Rhaid darparu tystiolaeth o gofrestriad i’r milfeddyg swyddogol er mwyn caniatáu cyhoeddi’r CoC dros dro.

Mae’r dystysgrif hon yn ddilys am dri mis o’r dyddiad cyhoeddi. Mae’n rhaid i chi lwyddo mewn asesiad gan ddarparwr achrededig er mwyn cael tystysgrif cymhwyster.

Mae angen y dystysgrif cymhwyster hon er mwyn gallu cyhoeddi CoC.

Gallwch chi wneud cais er mwyn i’r dystysgrif dros dro gael ei hail-gyhoeddi am dri mis ar ôl i’r un flaenorol ddod i ben os na allwch chi gwblhau’r asesiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth. Gallwch chi wneud hyn trwy’r milfeddyg swyddogol yn y lladd-dy.

Cymru a Lloegr

Dim ond ar gyfer achosion eithriadol y caiff tystysgrif ei hail-gyhoeddi dros dro, a bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â chyhoeddi CoC dros dro a CoC lawn, cysylltwch ag animalwelfare@food.gov.uk.

Rhaid i unrhyw un sy’n cynnal gweithrediadau lladd penodol sy’n ymwneud ag anifeiliaid byw hyd at farwolaeth (nid anymwybyddiaeth) fod â Thystysgrif Cymhwysedd, o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (WATOK).

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am dystysgrif cymhwysedd neu drwydded i ladd anifeiliaid.

Mae’r dudalen we hon yn rhoi gwybodaeth am y drwydded neu’r dystysgrif sydd ei hangen arnoch i ladd anifeiliaid, y gweithrediadau a gwmpesir gan y drwydded neu’r dystysgrif, a’r broses ymgeisio.

Pryd y gellir dirymu neu atal eich CoC neu’ch trwydded

Gall yr ASB ganslo neu atal dros dro eich CoC neu’ch trwydded lles anifeiliaid adeg eu lladd (WATOK) os na fyddwch yn dilyn rheoliadau WATOK.

Apeliadau yng Nghymru a Lloegr

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr ASB yng Nghymru neu Loegr i wrthod, atal neu ddirymu CoC.

Mae’r system apelio’n rhoi hawl i chi gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a mynd o flaen Tribiwnlys Haen Gyntaf y Siambr Reoleiddio Gyffredinol.

I wneud hyn, mae angen i chi ddefnyddio ffurflen T98 y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’i hanfon cyn pen 28 diwrnod i’r penderfyniad.

Bydd angen i chi anfon y ffurflen apelio at:

Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
PO Box 9300