Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecynnu a labelu

Gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i chi eu dilyn fel busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Medi 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Medi 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Darparu Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr – Gofynion Cyfreithiol

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (‘retained EU law’). Gallwch chi weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy archif ymadael â’r UE Llywodraeth Ei Fawrhydi. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth Ymadael â’r UE berthnasol a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu’n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith bwyd yr UE yn parhau i fod yn berthnasol, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon. Ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae’r dudalen hon yn tynnu sylw at ofynion Rheoliad Rhif 1169/2011, y cyfeirir ato hefyd fel y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr (FIC), a’r safonau cyfreithiol cysylltiedig ar gyfer labelu a chyfansoddiad cynhyrchion bwyd fel dŵr potel, llaeth, pysgod a chig. Mae Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr Rhif 1169/2011 yr UE ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn dwyn ynghyd reolau’r UE ar labelu bwyd cyffredinol a labelu maeth ynghyd mewn un darn o ddeddfwriaeth. 

Mae’r fersiwn a ddargedwir o Reoliad 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn berthnasol i fusnesau bwyd ym Mhrydain Fawr. Mae cyfraith bwyd yr UE, gan gynnwys Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Labelu bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Mae’n rhaid i bob bwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw gynnwys label bwyd sy’n dangos gwybodaeth orfodol benodol. Mae pob bwyd yn destun gofynion labelu bwyd cyffredinol ac mae’n rhaid i unrhyw labelu a ddarperir fod yn gywir ac nid yn gamarweiniol.

Mae rhai bwydydd yn cael eu rheoli gan reoliadau penodol i gynnyrch ac maent yn cynnwys:

  • bara a blawd
  • coco a chynhyrchion siocled
  •  coffi toddadwy (soluble)
  • cynhyrchion llaeth
  • mêl
  • sudd ffrwythau a neithdar
  • llaeth powdwr i fabanod
  • jamiau a marmalêd
  • cynhyrchion cig – selsig, byrgyrs a phasteiod
  • pysgod
  • dŵr mwynol naturiol
  • brasterau y gellir eu taenu (spreadable)
  • siwgrau
  • bwyd wedi’i arbelydru (irradiated)
  • bwydydd sy’n cynnwys addasiad genetig (GM)

Yr ASB yn Esbonio: Safonau cyfansoddiadol

 

Beth mae’n rhaid ei gynnwys

Rhaid i’r wybodaeth ganlynol ymddangos yn ôl y gyfraith ar labeli bwyd a deunydd pecynnu:

Enw’r bwyd

Rhaid nodi enw’r bwyd yn glir ar y deunydd pecynnu a ni ddylai fod yn gamarweiniol.

Os oes enw wedi’i ragnodi yn ôl y gyfraith, rhaid ei ddefnyddio. Yn absenoldeb enw cyfreithiol, gellir defnyddio enw arferol. Gallai hwn fod yn enw y mae defnyddwyr fel arfer yn ei ddeall ac yn enw sydd wedi’i sefydlu dros amser fel ‘BLT’ ar gyfer brechdan cig moch, letys a thomato.

Os nad oes enw arferol neu os na chaiff enw ei ddefnyddio yn gyffredinol, rhaid darparu enw disgrifiadol o’r bwyd. Rhaid i hyn fod yn ddigon disgrifiadol i hysbysu defnyddwyr o wir natur y bwyd ac er mwyn gwahaniaethu’r cynnyrch oddi wrth gynhyrchion eraill a allai achosi dryswch. Bydd y mwyafrif o gynhyrchion yn dod o dan y categori hwn ac yn galw am enw disgrifiadol.

Os yw’r bwyd wedi’i brosesu mewn rhyw ffordd, rhaid cynnwys y broses yn y teitl, er enghraifft ‘cig moch mwg’ (smoked), ‘pysgnau wedi’u halltu’ neu ‘ffrwythau wedi’u sychu’.

Mae bwyd wedi’i brosesu yn unrhyw fwyd sydd wedi’i newid mewn rhyw ffordd wrth ei baratoi.

Rhestr o’r cynhwysion

Os oes gan eich cynnyrch bwyd ddau gynhwysyn neu fwy (gan gynnwys dŵr ac ychwanegion), rhaid i chi eu rhestru i gyd o dan y pennawd ‘Cynhwysion’ neu bennawd addas sy’n cynnwys y gair ‘cynhwysion’.

Rhaid rhestru cynhwysion yn nhrefn eu pwysau, gyda’r prif gynhwysyn yn gyntaf yn ôl y symiau a ddefnyddiwyd i wneud y bwyd.

Mae rhai bwydydd wedi’u heithrio o’r angen i fod ar y rhestr gynhwysion, er enghraifft: ffrwythau a llysiau ffres, dŵr carbonedig a bwydydd sy’n cynnwys un cynhwysyn ac ati.
 

Gwybodaeth am alergenau

Rhaid i gynhyrchion bwyd sy’n cynnwys unrhyw un o’r 14 alergen y mae’n rhaid eu datgan yn ôl y gyfraith fel cynhwysion, fod â’r alergenau wedi’u rhestru a’u pwysleisio yn y rhestr gynhwysion.

Rhaid i chi bwysleisio alergenau ar y label gan ddefnyddio ffont, arddull, lliw cefndir gwahanol neu drwy ddefnyddio print trwm (bold). Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i ddeall mwy am y cynhwysion mewn bwydydd sydd wedi’u pecynnu ac maent yn ddefnyddiol i bobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd ac sy’n gorfod osgoi rhai bwydydd.

Rydym ni hefyd yn cynnig hyfforddiant alergenau ar-lein yn rhad ac am ddim i fusnesau.

Datganiad meintiol o gynhwysion (QUID)

Mae’r QUID yn rhoi gwybod i gwsmer pa ganran o gynhwysion penodol sydd mewn cynnyrch bwyd. Mae hyn yn ofynnol pan fo’r cynhwysyn neu gategori’r cynhwysion dan sylw:

(a) yn ymddangos yn enw’r bwyd neu fel arfer yn gysylltiedig â’r enw hwnnw gan y defnyddiwr;
(b) yn cael ei bwysleisio ar y labeli mewn geiriau, lluniau neu graffeg; neu
(c) yn hanfodol i nodweddu bwyd ac i’w wahaniaethu oddi wrth gynhyrchion y gallai gael eu drysu â nhw oherwydd ei enw neu sut mae’n edrych.

Rhaid nodi faint o’r cynhwysyn neu’r categori o gynhwysion sy’n bresennol trwy:

  • ei arddangos fel canran, sy’n cyfateb i swm y cynhwysyn neu’r cynhwysion ar adeg ei ddefnyddio/eu defnyddio; ac
  • ymddangos naill ai yn enw’r bwyd neu’n syth ar ei ôl neu yn y rhestr gynhwysion mewn cysylltiad â’r cynhwysyn neu’r categori o gynhwysion dan sylw

Maint net

Rhaid i bob bwyd wedi’i becynnu sy’n uwch na 5g neu 5ml ddangos y maint net ar y label i gydymffurfio â’r Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd. 

Rhaid i fwydydd sy’n cael eu pecynnu mewn hylif (neu mewn sglein (glaze) iâ) ddangos y pwysau net wedi’u draenio.

Nid yw datgan maint net yn orfodol ar fwydydd:

(a) sy’n destun colledion sylweddol yn eu cyfaint neu eu màs ac sy’n cael eu gwerthu yn ôl rhif neu eu pwyso ym mhresenoldeb y prynwr;
(b) y mae eu maint net yn llai na 5g neu 5ml, oni bai bod y rhain yn berlysiau neu’n sbeisys; 
(c) sydd fel rheol yn cael eu gwerthu yn ôl rhif, ar yr amod bod nifer yr eitemau i’w weld yn glir a bod modd cyfri’r eitemau yn hawdd o du allan y deunydd pecynnu neu, os na, fod nifer yr eitemau wedi’i nodi ar y label.

Amodau storio a labelu dyddiad

Rhaid i labeli bwyd gael eu marcio â naill ai dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (best before) neu ‘defnyddio erbyn’ (use by) fel ei bod yn amlwg pa mor hir y gellir cadw bwydydd a sut i’w storio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar farcio dyddiadau ar wefan y Cynllun Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP).

Enw a chyfeiriad y gweithgynhyrchwr

Rhaid i fusnesau bwyd gynnwys enw a chyfeiriad y busnes ar y deunydd pecynnu neu’r label bwyd. Rhaid i hyn fod naill ai:

  • enw’r busnes y mae’r bwyd yn cael ei farchnata ganddo; neu
  • cyfeiriad y busnes sydd wedi mewnforio’r bwyd

Rhaid i gynhyrchion bwyd a werthir yng Ngogledd Iwerddon gynnwys cyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE ar gyfer y busnes bwyd. Os nad yw’r busnes bwyd yng Ngogledd Iwerddon nac yn yr UE, rhaid iddynt gynnwys cyfeiriad y mewnforiwr, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE.

Gall gweithredwyr busnesau bwyd barhau i ddefnyddio cyfeiriad yn yr UE, Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon ar gyfer gweithredwr y busnes bwyd ar gynhyrchion bwyd a werthir ym Mhrydain Fawr tan 30 Medi 2022.

O 1 Ionawr 2024 (wedi’i ymestyn o 1 Hydref 2022), rhaid i gynhyrchion bwyd a werthir ym Mhrydain Fawr gynnwys cyfeiriad yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw ar gyfer y busnes bwyd. Os nad yw’r busnes bwyd ym Mhrydain Fawr, rhaid iddynt gynnwys cyfeiriad y mewnforiwr, sydd wedi’i leoli yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Mae angen i’r cyfeiriad a ddarperir fod yn gyfeiriad ffisegol lle gellir cysylltu â’ch busnes trwy’r post. Ni allwch chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost na rhif ffôn. Mae darparu cyfeiriad yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gysylltu â’r gweithgynhyrchwr os oes ganddyn nhw gŵyn am y cynnyrch neu os ydyn nhw am wybod mwy amdano.

Gwlad neu fan tarddiad

Yn unol â’r Rheoliadau FIC, bydd nodi gwlad tarddiad neu fan tarddiad bwyd yn orfodol lle gallai methu â nodi hyn gamarwain y defnyddiwr o ran gwir wlad tarddiad neu fan tarddiad y bwyd. Efallai y bydd defnyddwyr yn cael eu camarwain heb yr wybodaeth hon, er enghraifft pastai porc Melton Mowbray a wnaed yn yr Eidal.

O dan y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr mae rheolau tarddiad penodol y mae’n rhaid cadw atynt, gan gynnwys y Wlad Tarddiad ar gyfer Prif Gynhwysion a’r Wlad Tarddiad ar gyfer Rhai Cigoedd 

Dyma ragor o wybodaeth o ran pryd mae’n rhaid i chi labelu’ch cynnyrch cig, pysgod neu fwyd môr gyda’i wlad tarddiad.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae rheolau Gwlad Tarddiad yr UE, fel y’u cymhwysir gan Brotocol Gogledd Iwerddon, yn berthnasol ar gyfer bwyd a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon. Pan fo Cyfraith yr UE yn gofyn am arwydd o Aelod-wladwriaeth mewn perthynas â gwlad tarddiad, rhaid i fusnesau bwyd sicrhau bod unrhyw fwyd sy’n tarddu o Ogledd Iwerddon yn cynnwys arwyddion o’r fath ar ffurf “UK(NI)” neu “United Kingdom (Northern Ireland)”.

Cyfarwyddiadau paratoi

Rhaid rhoi cyfarwyddiadau ar sut i baratoi a choginio’r bwyd yn gywir, gan gynnwys ei gynhesu mewn popty micro-don, ar y label os oes eu hangen. Os oes rhaid cynhesu’r bwyd, bydd tymheredd y popty a’r amser coginio fel arfer yn cael eu nodi.

Datganiad maeth

Rhaid cyflwyno’r datganiad maeth gorfodol yn glir mewn fformat penodol a rhoi gwerthoedd ar gyfer egni a chwe maethyn (nutrient). Rhaid rhoi’r gwerthoedd yn yr unedau (gan gynnwys kJ a kcal ar gyfer egni) fesul 100g/ml, a rhaid i’r datganiad maeth fodloni’r gofynion maint ffont lleiaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dudalen Labelu Maeth.

Gofynion labelu ychwanegol

Mae yna ofynion labelu ychwanegol ar gyfer rhai cynhyrchion bwyd a diod. Rhaid i chi ddweud wrth y defnyddiwr os yw eich cynhyrchion yn cynnwys:

  • melysyddion neu siwgrau
  • aspartame a lliwiau
  • licorys
  • caffein
  • polyols

Yr ASB yn Esbonio: Labeli bwyd

Sut i arddangos gwybodaeth orfodol ar ddeunydd pecynnu a labeli

Mae maint ffont lleiaf yn berthnasol i wybodaeth orfodol y mae’n rhaid i chi ei hargraffu gan ddefnyddio ffont gydag isafswm x-uchder o 1.2mm.

Os yw arwynebedd mwyaf y deunydd pecynnu yn llai nag 80cm sgwâr, gellir defnyddio isafswm uchder-x o 0.9mm.

Rhaid nodi manylion gorfodol gyda geiriau a rhifau. Gellir eu dangos hefyd gan ddefnyddio pictogramau a symbolau.

Dyma’r gofynion ar gyfer gwybodaeth bwyd orfodol:

  • rhaid iddi fod yn hawdd ei gweld
  • rhaid i’r wybodaeth fod yn glir ac yn ddarllenadwy ac yn anodd ei dileu, lle bo hynny’n briodol
  • ni ddylai fod wedi’i chuddio nac yn aneglur, ac ni ddylid tynnu sylw oddi wrthi nac amharu arni gydag unrhyw destun ysgrifenedig neu ddarluniadol arall
  • ni ddylai defnyddwyr fod yn gorfod agor y cynnyrch i gael yr wybodaeth

Labelu bwyd – bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw

Mae bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn cynnwys:

  • bwydydd sy’n cael eu gwerthu’n rhydd mewn siopau manwerthu
  • bwyd nad yw’n cael ei werthu wedi’i becynnu ymlaen llaw, fel prydau a weinir mewn bwytai a bwyd o siopau tecawê
  • bwyd wedi’i becynnu ar y safle gwerthu ar gais y defnyddiwr, fel brechdan a gaiff ei pharatoi o flaen y defnyddiwr 

Gofynion labelu

Ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw, rhaid nodi enw’r bwyd, presenoldeb unrhyw un o’r 14 alergen, a datganiad QUID (ar gyfer cynhyrchion sy’n cynnwys cig) i ddefnyddwyr. Mae modd gwneud hyn:

(a) ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b) ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n hawdd ei weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle mae’r prynwr yn dewis y bwyd hwnnw.
Gyda bwyd arbelydredig, rhaid i un o’r datganiadau canlynol ymddangos yn agos at enw’r bwyd: 

  • ‘bwyd wedi'i arbelydru’ (irradiated) neu
  • ‘wedi’i drin gydag ymbelydredd ïoneiddio’ (treated with ionising radiation)

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd ddarparu rhestr lawn o gynhwysion. Y gofyniad yw darparu gwybodaeth am ddefnyddio cynhwysion alergenaidd mewn bwyd. Os yw busnes bwyd yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth hon ymlaen llaw mewn fformat ysgrifenedig (er enghraifft gwybodaeth am alergenau ar y fwydlen), rhaid iddo ddefnyddio cyfeiriadau clir i gyfeirio’r defnyddiwr at y man lle gall ddod o hyd i’r wybodaeth hon, fel gofyn i aelod o staff. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, rhaid cynnwys datganiad ar fwydlenni, byrddau sialc, tocynnau archebu bwyd neu labeli bwyd.


Mae’n rhaid i fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) gynnwys label sydd â rhestr gynhwysion lawn gyda phwyslais ar unrhyw gynhwysion alergenaidd.

Pecynnau lapio (pecynnu dan wactod neu ‘vacuum packing’)

Os ydych chi’n pecynnu bwyd dan wactod (VP) neu drwy addasu’r atmosffer (MAP) fel rhan o’ch busnes, mae’n rhaid i chi:

  • ddefnyddio deunydd na fydd yn halogi deunydd lapio a phecynnu
  • storio deunyddiau lapio fel nad ydyn nhw mewn perygl o gael eu halogi
  • lapio a phecynnu’r bwyd mewn ffordd sy’n osgoi halogi cynhyrchion
  • gwneud yn siŵr bod unrhyw gynwysyddion yn lân ac nad ydyn nhw wedi’u difrodi, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio caniau neu jariau gwydr
  • gallu cadw’r deunydd lapio neu becynnu yn lân
 

Dilysrwydd bwyd

Dilysrwydd bwyd yw pan fydd bwyd yn cyfateb i’w ddisgrifiad. Caiff labelu ei reoleiddio i ddiogelu defnyddwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth gywir i wneud dewisiadau hyderus a gwybodus am fwyd yn seiliedig ar ddeiet, alergeddau, chwaeth bersonol neu gost.

Mae bwyd sydd wedi’i gam-labelu yn twyllo’r defnyddiwr ac yn creu cystadleuaeth annheg rhwng gweithgynhyrchwyr neu fasnachwyr. Mae gan bawb yr hawl i wybod bod y bwyd maen nhw wedi’i brynu yn cyfateb i’r disgrifiad a roddir ar y label. Rhan o’n rôl yw helpu i atal cam-labelu neu ddisgrifiadau camarweiniol ar fwydydd.

Mae’r disgrifiad o fwyd yn cyfeirio at yr wybodaeth a roddir am ei:

  • enw
  • cynhwysion
  • tarddiad
  • prosesu

Os ydych chi’n credu nad yw cynnyrch bwyd yn ddilys, darllenwch yr wybodaeth am droseddau bwyd.

Mae disgrifio, hysbysebu neu gyflwyno bwyd yn gamarweiniol/ffug yn drosedd ac mae yna lawer o ddeddfau sy’n helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag labelu anonest a disgrifiadau camarweiniol.

Y Ddeddfwriaeth

Cymru

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 yn galluogi awdurdodau lleol i orfodi Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr (FIC) Ewrop 1169/2011.