Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hyfforddiant diogelwch bwyd ar-lein

Cyrsiau hyfforddi ar-lein am ddim i fusnesau, gan gynnwys hyfforddiant ar alergenau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Chwefror 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Chwefror 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rydym yn cynnig cyrsiau diogelwch bwyd ar-lein am ddim i’ch helpu chi a’ch busnes i gydymffurfio â gofynion hylendid a safonau bwyd. Mae ein cyrsiau e-ddysgu yn cynnwys y canlynol:

Hyfforddiant alergeddau bwyd ar-lein

Rydym yn darparu hyfforddiant alergeddau bwyd ar-lein am ddim. Gallwch ddysgu mwy am reoli alergenau mewn cegin yn ogystal â sut i gydymffurfio â’r gofynion o ran gwybodaeth am alergenau. Mae’n addas i bob aelod o staff gan fod rhaid i chi sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi i reoli alergenau.

Dylai eich staff:

  • wybod beth yw’r gweithdrefnau pan ofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth am alergenau
  • bod wedi’u hyfforddi i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth am alergenau
  • gallu gwarantu bod prydau heb alergenau yn cael eu gweini i’r cwsmer iawn
  • gwybod am beryglon croeshalogi alergenau a sut i atal hyn wrth drin a pharatoi bwyd 

Mae ein cwrs rhyngweithiol ar alergeddau bwyd yn cynnwys chwe modiwl, a phob un â phrawf ar y diwedd. Unwaith y byddwch yn llwyddo yn y profion hyn, gallwch lawrlwytho eich tystysgrif datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’r cwrs hwn ar alergenau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cwrs dadansoddi gwraidd y broblem ar gyfer busnesau bwyd

Bydd ein cwrs Dadansoddi Gwraidd y Broblem rhad ac am ddim ar gyfer busnesau bwyd yn rhoi dealltwriaeth i chi o theori Dadansoddi Gwraidd y Broblem a sut i’w rhoi ar waith.
Cafodd y cwrs ei ddatblygu ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, ac mae’n archwilio’r dull o ddatrys problemau sy’n nodi beth sydd wedi achosi diffygion neu broblemau yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Cyrsiau a thystysgrifau hylendid bwyd 

Nid ydym yn darparu cyrsiau na thystysgrifau hylendid bwyd, ond gall eich awdurdod lleol gynnig neu argymell cyrsiau hylendid bwyd.

Yn y DU, nid oes rhaid i unigolion sy’n trin bwyd feddu ar dystysgrif hylendid bwyd i baratoi neu werthu bwyd. Ond, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod y rheiny sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio a’u hyfforddi’n briodol mewn hylendid bwyd. Rhaid i hyn fod yn unol â’r maes y mae staff yn gweithio ynddo ac i’w galluogi i drin bwyd yn ddiogel. 

Gall y sgiliau a addysgir mewn rhaglenni hyfforddi swyddogol hefyd gael eu dysgu drwy:

  • hunan-astudio
  • hyfforddi wrth weithio
  • profiad blaenorol perthnasol

Efallai y byddwch hefyd am lawrlwytho ein pecynnau gwybodaeth Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer busnesau. Rydym yn cynnig adnoddau i’w lawrlwytho ar gyfer busnesau bwyd gan gynnwys:

Mae gennym hefyd adnoddau addysgu ar gyfer colegau.

Cyrsiau labelu bwyd, olrhain, a phecynnu dan wactod

Yn y gorffennol, rydym wedi cynnig cyrsiau ar-lein ar labelu bwyd, olrhain, a phecynnu dan wactod (vacuum packing) i swyddogion gorfodi. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u dileu gan nad ydynt yn gyfredol nac yn addas i’r diben erbyn hyn.

I gael gwybodaeth am olrhain, gweler yr adran ‘canllawiau olrhain, galw a thynnu cynnyrch ôl’ yn ein cyngor ar ddigwyddiadau bwyd, tynnu cynnyrch a galw cynnyrch yn ôl.

Mae ein canllawiau ar becynnu dan wactod yn darparu gwybodaeth am hyn.  

Mae'r canllawiau canlynol ar labelu bwyd ar gael ar GOV.UK:

Rhoi gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
Enwi cynhyrchion bwyd
Labelu maeth
Labelu gwlad tarddiad
Enwau daearyddol gwarchodedig ar gyfer bwyd a diod