Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol ar gyfer sefydliad bwyd

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol a’r broses gymeradwyo

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Sefydliadau sydd angen cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol

Mae angen cymeradwyaeth ar gyfer rhai sefydliadau bwyd sy’n trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, fel cig, pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth, a chynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid, sy’n cyflenwi sefydliadau eraill.

Mae’n bosib y bydd angen cymeradwyaeth ar y sefydliadau hyn, naill ai gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu gan awdurdod lleol. Ceir enghreifftiau o sefydliadau o’r fath ar ein tudalen Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd.

Mae'r dudalen we hon yn ymdrin yn benodol â chymeradwyaeth gan awdurdodau lleol.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen cymeradwyaeth arnoch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am gymeradwyaeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Sylwer: Mae’n drosedd i sefydliad bwyd sy’n ddarostyngedig i gymeradwyaeth weithredu, oni bai bod yr awdurdod lleol wedi rhoi cymeradwyaeth.

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd nad oes angen cymeradwyaeth arnynt, fod wedi’u cofrestru gyda’u hawdurdod lleol.

Ceir manylion ynghylch pwy sydd angen cofrestru a sut i gofrestru ar ein tudalen Cofrestru busnes bwyd newydd.

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol

Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy