Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Digwyddiadau bwyd a galw neu dynnu cynnyrch bwyd yn ôl

Sut i roi gwybod am ddigwyddiad, ymateb iddo a'i atal, gan gynnwys sut i dynnu neu alw cynhyrchion bwyd anniogel yn ôl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw digwyddiad bwyd?

Mae digwyddiad bwyd yn codi pan fydd pryderon am ddiogelwch neu ansawdd bwyd (a/neu fwyd anifeiliaid) lle mae'n bosibl bod angen gweithredu er mwyn diogelu defnyddwyr. 

Mae digwyddiadau yn perthyn i ddau gategori yn fras:

  • halogi bwyd neu fwyd anifeiliaid wrth brosesu, dosbarthu, manwerthu ac arlwyo 
  • digwyddiadau sy’n llygru’r amgylchedd fel tân, cemegion neu olew yn tasgu ac ymbelydredd yn gollwng

Galw a thynnu cynhyrchion yn ôl

O ganlyniad i ddigwyddiad bwyd, efallai y bydd yn rhaid tynnu neu alw cynnyrch bwyd yn ôl. 

Mae'r broses tynnu'n ôl yn digwydd pan fydd bwyd anniogel yn cael ei dynnu o'r gadwyn gyflenwi cyn iddo gyrraedd defnyddwyr.  

Mae'r broses galw bwyd yn ôl yn digwydd pan gaiff bwyd anniogel ei dynnu o'r gadwyn gyflenwi ac fe gynghorir defnyddwyr i gymryd camau priodol, er enghraifft, dychwelyd neu gael gwared ar fwyd anniogel.  

Rhoi gwybod am ddigwyddiad bwyd

Os ydych chi'n credu bod bwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi'i gyflenwi gennych naill ai'n niweidiol i iechyd, yn anaddas i bobl ei fwyta neu ddim yn bodloni gofynion cyfreithiol, dylech:

  • dynnu neu alw'r bwyd yn ôl o'r farchnad ar unwaith  
  • rhoi gwybod i'ch awdurdod cymwys (awdurdod lleol neu awdurdod iechyd porthladd), a fydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau pellach y gallai fod angen i chi eu cymryd 

Os ydych chi'n credu bod bwyd anniogel wedi cyrraedd defnyddwyr, dywedwch wrth dîm digwyddiadau'r ASB. Efallai y bydd angen i ni gyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl.

I helpu gyda hyn, mae angen i chi wybod pwy yw eich cyflenwyr a'ch cwsmeriaid busnes bwyd.

Canllawiau ar alw a thynnu cynnyrch bwyd yn ôl

Mae ein 'Canllawiau ar y gallu i Olrhain, Galw a Thynnu Bwyd yn ôl o fewn Diwydiant Bwyd y Deyrnas Unedig' yn egluro'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a'r hyn y mae angen i fusnesau ei wneud.

Mae'n cynnwys cyngor ac arfer gorau ar: 

  • systemau olrhain bwyd  
  • gwneud penderfyniad ar dynnu neu alw bwyd yn ôl    
  • rolau a chyfrifoldebau
  • sut i roi gwybod i ddefnyddwyr bod bwyd wedi'i alw'n ôl
Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Bydd yr adnoddau canlynol yn helpu wrth alw bwyd yn ôl:  

Mae canllaw cyfeirio cyflym hefyd wedi'i ddatblygu i gynorthwyo busnesau ymhellach sy’n ategu'r prif ganllawiau:

 

Dadansoddi Gwraidd y Broblem (RCA)

Yn dilyn digwyddiad diogelwch bwyd, fe’ch cynghorir i gynnal ymarfer er mwyn Dadansoddi Gwraidd y Broblem.

Mae hwn yn ddull y gellir ei ddefnyddio i bennu sut a pham y digwyddodd y digwyddiad bwyd, ac i nodi camau gweithredu i atal digwyddiadau yn y dyfodol. Gellir defnyddio canlyniadau proses o’r fath i adolygu sut rydych chi’n rheoli diogelwch a hylendid bwyd yn eich busnes bwyd, gan gynnwys olrhain bwyd, tynnu bwyd yn ôl a galw bwyd anniogel yn ôl.

Gellir defnyddio gwahanol ddulliau wrth ddadansoddi gwraidd y broblem a dylech gysylltu â'ch awdurdod gorfodi i gael cyngor pellach.

Er mwyn helpu busnesau i ddeall sut i ddadansoddi gwraidd y broblem, rydym ni wedi datblygu cwrs e-ddysgu ar ddadansoddi gwraidd y broblem.

Dadansoddi gwraidd y broblem - gwersi unigol

Mae canfyddiadau dadansoddi gwraidd y broblem wedi’u defnyddio i nodi ffactorau cyffredin a arweiniodd at fathau penodol o ddigwyddiadau yn cael eu hailadrodd.
 
Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, rydym ni wedi datblygu rhai Gwersi Un Pwynt (SPL) cychwynnol i helpu i dargedu'n well y meysydd hynny lle bydd ymyrraeth yn cael yr effaith fwyaf ac i hyrwyddo 'arfer gorau' sy'n ymwneud ag atal digwyddiadau.

Diogelu ac amddiffyn bwyd a diod rhag ymosodiad bwriadol

Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig wedi creu canllaw hawdd ei ddefnyddio er mwyn helpu busnesau os nad oes gennych chi fynediad at gyngor arbenigol yn y maes hwn. Nod y canllaw yw helpu busnesau bwyd ac eraill i osgoi a lleihau bygythiadau ar bob pwynt yn y gadwyn cyflenwi bwyd a diod. Mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Gall y canllawiau eich helpu i asesu gwendidau posibl o ran twyll, unigolion sydd wedi’u hysgogi yn ideolegol a bygythiadau ‘mewnol’ eraill. Hefyd, ceir cyngor ar fygythiadau ar y we.

Ein cynllun rheoli digwyddiadau

Mae’r Cynllun Rheoli Digwyddiadau yn dangos i chi sut rydym ni'n bodloni ein cyfrifoldebau wrth ymateb i ddigwyddiadau bwyd nad ydynt yn rhai arferol. Bydd y Cynllun yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd a’i brofi’n barhaus.

England, Northern Ireland and Wales

Rhif ffôn y tîm ymateb i ddigwyddiadau


Yn ogystal â thrwy e-bost, gellir cysylltu â'r tîm ymateb i Ddigwyddiadau yn Lloegr dros y ffôn, gan gynnwys y tu allan i oriau, ar 020 7276 8448. Mae'r tîm hwn yn ymdrin â digwyddiadau bwyd a adroddir gan weithredwyr busnesau bwyd, awdurdodau lleol ac adrannau eraill o'r Llywodraeth. 

Os ydych yn ddefnyddiwr, defnyddiwch ein gwasanaeth Rhoi Gwybod am Broblem Gyda Bwyd i gael manylion ar sut i gysylltu â'ch tîm diogelwch bwyd lleol.

Trawsgrifiad o'r fideo

Dyma Joe. Mae Joe yn berchen ar, ac yn rhedeg, busnes becws yn ei dref farchnad fechan. Mae’r busnes yn gwneud yn dda ac mae’n tyfu, felly mae wedi cyflogi tîm o bobyddion i’w helpu i ateb y galw am ei gacennau. Mae Joe yn gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn rhoi gwybodaeth gywir am alergenau i’w gwsmeriaid, fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau ei greadigaethau gwych! Un o’i gacennau mwyaf poblogaidd yw ei Gacen Cnau Coco! O, mae’n flasus!

Ar ôl diwrnod prysur o werthu cacennau, mae Joe yn cael galwad ffôn gan yr awdurdod lleol yn rhoi gwybod iddo fod aelod o’r cyhoedd wedi cael adwaith alergaidd i un o’i gacennau ei Gacen Cnau Coco!

Mae gan y cwsmer alergedd i gnau almon, ond nid yw’r Cacennau Cnau Coco yn cynnwys cnau almon. Mae’r cacennau sy’n cynnwys cnau almon wedi’u labelu’n glir. Mae Joe yn poeni’n arw. Mae eisiau gwybod pam mae hyn wedi digwydd, a beth mae’n gallu ei wneud i’w atal rhag digwydd eto! Mae Joe yn gallu meddwl am ychydig o resymau pam y gallai hyn fod wedi digwydd.

Mae’r cnau almon a’r cnau coco yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd pan fyddan nhw wedi’u torri’n fân, ond gallai hynny fod yn symptom o broblem lefel uwch. Mae angen i Joe Ddadansoddi Gwraidd y Broblem. Mae Dadansoddi Gwraidd y Broblem yn derm sy’n disgrifio nifer o ddulliau strwythuredig y gellir eu defnyddio i benderfynu sut a pham mae problem wedi digwydd. Mae hyn yn ei gwneud yn bosib i gamau ataliol hirdymor mwy effeithiol gael eu rhoi ar waith.

Mae’r technegau strwythuredig hyn yn ymarferol a gellir eu defnyddio’n hawdd pan fo mater diogelwch bwyd yn codi. Mae angen i Joe ddod o hyd i wraidd y camgymeriad fel ei fod yn gallu diogelu ei gwsmeriaid, osgoi unrhyw gostau yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â galw bwyd yn ôl, diogelu ei enw da a lleihau’r effaith ariannol ar ei fusnes. I ddechrau Dadansoddi Gwraidd y Broblem, y peth cyntaf y mae angen i Joe ei wneud yw diffinio’r digwyddiad.

Nesaf, mae angen iddo gategoreiddio’r problemau uniongyrchol. Yna, bydd angen iddo bennu gwraidd y broblem diffinio’r camau ataliol sydd eu hangen ac yn olaf adolygu’r broses.

Ond sut mae Joe yn pennu gwraidd y broblem? Un ffordd y gall Joe wneud hyn yw defnyddio’r dull ‘5 Pam’. Y dull ‘5 Pam’ yw un o’r dulliau symlaf o Ddadansoddi Gwraidd y Broblem ond mae hefyd yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol. Mae’n rhaid i Joe ofyn cyfres o gwestiynau ‘pam?’.

Bob tro y bydd achos yn cael ei nodi, mae’r cwestiwn ‘pam digwyddodd hyn?’ yn cael ei ofyn hyd nes y bydd gwraidd y broblem yn cael ei nodi. Felly gadewch i ni roi cynnig arni, gan ddefnyddio’r enghraifft arfer gorau ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Pam cafodd cnau almon eu hychwanegu ar ddamwain at y Gacen Cnau Coco, yn lle cnau coco? Nid oedd y pobydd yn gallu gweld y gwahaniaeth rhyngddyn nhw. Roedd y ddau yn edrych yn debyg, ac nid oedd y naill na’r llall wedi’u labelu.

Pam na chafodd y cynhwysion eu labelu? Tynnwyd y labeli oddi ar y cynwysyddion y tro diwethaf y cawsant eu glanhau, ond ni chawsant eu rhoi nôl. Pam na chafodd y labeli eu rhoi nôl ar y cynwysyddion? Nid oedd y staff glanhau wedi ystyried effaith diffyg labelu, ac nid oedd hyn ar unrhyw un o restrau gwirio’r staff glanhau. Pam na sylwodd y pobydd ar y camgymeriad?

Mae’n ymddangos nad oedd yn gyfarwydd â’r weithdrefn gynhyrchu lawn. Pam nad oedd y pobydd yn gyfarwydd â’r weithdrefn? Roedd y pobydd wedi cael hyfforddiant, ond nid oedd proses gymeradwyo ar y diwedd i weld a oedd yr hyfforddiant yn ddigonol.

Pam nad oedd yr hyfforddiant yn ddigonol? Nid oedd yn cadarnhau dealltwriaeth y pobydd o’r broses nac o effaith ychwanegu’r cynhwysyn anghywir. Ar ôl gofyn y cwestiynau hyn, mae gan Joe ddealltwriaeth well o wraidd y broblem. Gallai Joe fod wedi defnyddio dulliau eraill, ond am y tro, roedd y dull ‘5 Pam’ yn ddigonol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y dulliau eraill hyn yn www.food.gov.uk. Mae Joe yn barod i gymryd camau i gywiro’r broblem.

Mae wedi nodi nifer o wahanol broblemau y mae angen eu datrys er mwyn atal camgymeriadau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Dyma’r atebion mae Joe wedi penderfynu bod angen eu rhoi ar waith: Ailgynllunio ei weithdrefn hyfforddi staff a chynnwys asesiad o ddealltwriaeth yr aelod o staff. Bydd hyn yn cael ei ddogfennu yng nghofnodion Joe.

Bydd Joe yn ailgynllunio’r ardal storio yn y gegin a gwneud yn siŵr bod yr holl gynhwysion yn cael eu cadw mewn lleoliadau penodol ar wahân. Bydd yn defnyddio labeli newydd na all staff glanhau eu tynnu oddi ar y cynwysyddion. Bydd yn cyflwyno cam cymeradwyo yn y weithdrefn bobi, lle mae’n rhaid i’r pobydd wirio’r cynhwysion sy’n cael eu defnyddio o gymharu â’r cynhwysion yn y rysáit. A bydd yn rhoi cam ychwanegol ar restr wirio’r staff glanhau i sicrhau bod gorsafoedd cynhwysion wedi’u labelu’n glir. Bydd hefyd yn cyflwyno taflen wirio i’w llenwi ar ôl glanhau.

Bydd angen monitro’r mesurau hyn i sicrhau eu bod wedi cael effaith ac mae angen eu hymgorffori ym mhrosesau’r busnes. Os na fyddant wedi gweithio yna bydd Joe yn gallu ymchwilio ymhellach. Nawr, mae angen i Joe ddogfennu’r ymchwiliad a’r newidiadau y mae wedi’u gwneud.

Mae dogfennaeth yn hanfodol, er mwyn darparu tystiolaeth bod ymchwiliad wedi’i gynnal, bod y ffactorau priodol wedi’u hystyried, bod dulliau a thechnegau wedi’u dewis a’u defnyddio’n addas, a bod astudiaeth drylwyr, gytbwys a gwrthrychol wedi’i chwblhau. Dylai busnesau bwyd roi gwybod i awdurdodau gorfodi am y camau a gafodd eu cymryd yn sgil digwyddiad diogelwch bwyd, i atal risgiau i’r defnyddiwr terfynol.

Gofynnir i awdurdodau gorfodi anfon canlyniadau asesiad Dadansoddi Gwraidd y Broblem y busnes bwyd at yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’w dadansoddi ymhellach, er mwyn gallu nodi camau ataliol hirdymor a rhoi arferion gorau ar waith ar draws y diwydiant bwyd. Gallai hyn helpu busnesau i gyflwyno mesurau ataliol, heb orfod dioddef y niwed ariannol a’r niwed i enw da a all ddigwydd yn sgil digwyddiad bwyd. Mae Joe nawr yn gwerthu ei Gacennau Cnau Coco unwaith eto ac maen nhw mor boblogaidd ag erioed!

Mae Joe yn hyderus y bydd y camau y mae wedi’u cymryd yn atal y camgymeriad rhag digwydd eto, gan ei fod wedi dod o hyd i wraidd y broblem, yn lle mynd i’r afael â’r symptom yn unig. Mae Joe yn deall pwysigrwydd Dadansoddi Gwraidd y Broblem, a manteision rhannu’r ddogfennaeth â’i awdurdod lleol, sydd wedyn yn ei rhannu â’r Asiantaeth Safonau Bwyd. O ganlyniad, mae busnesau eraill yn y diwydiant wedi dysgu o brofiad Joe. Ac mae Joe wedi dysgu gan eraill hefyd!

Mae wedi rhoi newidiadau pellach ar waith yn seiliedig ar brofiadau busnesau eraill. Mae hyn yn golygu bod ganddo fwy o amser i wasanaethu ei gwsmeriaid yn well a llai o broblemau gweithredol sy’n atal ei fusnes rhag tyfu! I gael mwy o wybodaeth am Ddadansoddi Gwraidd y Broblem, yn ogystal â chwrs e-ddysgu defnyddiol am ddim i chi a’ch staff ewch i www.food.gov.uk