Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar Ganabidiol (CBD) ar gyfer Cymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau i fusnesau ar ganabidiol (CBD) fel bwyd newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Hydref 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Hydref 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
 
Mae’r canllawiau hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr. Mae canllawiau CBD gwahanol ar waith yng Ngogledd Iwerddon.

Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn ganabinoidau (cannabinoids). Mae i’w gael mewn cywarch (hemp) a chanabis, a gellir ei gynhyrchu’n synthetig.

Gellir cael echdyniadau (extracts) CBD o’r rhan fwyaf o rannau planhigion canabis neu gywarch. Gellir eu hechdynnu’n ddetholus, gan ddarparu crynodiad CBD. Gall rhai prosesau newid cyfansoddion cemegol eraill. 

Nid yw hadau cywarch, olew hadau cywarch, hadau cywarch daear, hadau cywarch wedi’u dihysbyddu (yn rhannol) na bwyd arall sy’n deillio o hadau cywarch yn fwydydd newydd. Ystyrir hefyd nad yw trwyth dŵr o ddail cywarch (lle nad oes topiau wedi’u blodeuo a ffrwytho arnynt) yn fwyd newydd. Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth i ddangos bod hanes o’i yfed cyn mis Mai 1997. Nid yw hyn yn wir am echdyniadau CBD eu hunain nac unrhyw gynhyrchion y cânt eu hychwanegu atynt fel cynhwysyn (fel olew hadau cywarch). Mae hyn hefyd yn berthnasol i echdyniadau o blanhigion eraill sy’n cynnwys canabinoidau fel yr amlinellir yng Nghatalog Bwyd Newydd yr UE.

Statws CBD fel bwyd newydd

Cadarnhawyd statws bwyd newydd CBD ym mis Ionawr 2019. Dyna pam mae angen awdurdodiad ar gynhyrchion bwyd CBD cyn y gellir eu gwerthu’n gyfreithlon ym Mhrydain Fawr.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw echdyniadau CBD nac unigion (isolates) CBD wedi’u hawdurdodi ar y farchnad.

Gwneud cais am awdurdodiad

Mae’n rhaid i fusnesau bwyd wneud cais i awdurdodi echdyniadau CBD, unigion CBD a chynhyrchion cysylltiedig i’w rhoi ar farchnad Prydain Fawr gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.

Yn y rhan fwyaf o achosion, yr ymgeisydd fydd y gweithgynhyrchwr, ond gall cyrff masnach a chyflenwyr eraill wneud cais hefyd.

Unwaith y bydd cynhwysyn CBD wedi’i awdurdodi, mae’r awdurdodiad hwnnw’n gymwys i’r cynhwysyn hwnnw yn unig. Mae hyn yn golygu defnyddio’r un dulliau cynhyrchu manwl, ar gyfer yr un defnyddiau yn union ag a ddisgrifir yn yr awdurdodiad, a defnyddio’r un sylfaen dystiolaeth ar gyfer diogelwch.

Os yw bwyd newydd wedi’i awdurdodi a’i ychwanegu at y rhestr yn seiliedig ar ddata gwyddonol perchnogol neu wybodaeth sydd â chaniatâd diogelu data, caniateir iddo gael ei roi ar y farchnad gan yr ymgeisydd yn unig, a hynny am gyfnod o 5 mlynedd. 

Canllawiau ar gyfer gwneud cais

Mae angen i chi wneud cais i awdurdodi eich echdyniadau a’ch unigion CBD gan ddefnyddio’r weithdrefn ar gyfer ceisiadau llawn am fwydydd newydd.

Mae ystyried diogelwch y cynnyrch yn rhan bwysig o unrhyw gais am CBD fel bwyd newydd. Heb wybodaeth o’r fath, na chyfiawnhad dros yr oedi cyn darparu’r wybodaeth angenrheidiol, ni fyddwn yn gallu dilysu cais.

Nid yw bodloni’r safon ddilysu yn golygu y bydd y cynnyrch o reidrwydd yn cael ei awdurdodi. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Dim ond wrth gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch sy’n uniongyrchol berthnasol y bydd ceisiadau’n gallu symud yn eu blaen ac, o bosib, gael eu hawdurdodi.

Gwybodaeth wenwynegol

Yn dilyn y data ychwanegol a ddarparwyd i gefnogi awdurdodiadau bwyd newydd, dim ond ar gyfer cynhwysion CBD â mwy na 98% o CBD y dylid cynhyrchu data pellach yn sgil astudiaethau anifeiliaid. Ni allwn dderbyn gwybodaeth lenyddol yn unig ar gyfer agweddau gwenwynegol y cais. Yn ogystal, ni allwn ddefnyddio gwybodaeth o un cais am fwyd newydd er budd ymgeisydd arall heb ganiatâd perchennog y data. Er mwyn lleihau’r defnydd o anifeiliaid, rydym yn annog ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, i ddefnyddio’r setiau data presennol a gynhyrchwyd.

Dylai data a gynhyrchir i gefnogi ceisiadau bwyd newydd fod ar ddeunydd prawf perthnasol sy’n adlewyrchu cyfansoddiad y bwyd newydd sy’n ceisio awdurdodiad.  Dylid cynhyrchu data hefyd yn unol â dulliau gwenwynegol a gydnabyddir yn rhyngwladol fel protocol OECD TC 408.  

Mae’r datganiad gan yr ACNFP a COT yn amlinellu sawl maes lle gellid cynhyrchu data ychwanegol a sut y gallai hyn lywio’r wybodaeth am ddiogelwch CBD. Rydym yn annog ymgeiswyr sydd am gynhyrchu data i ystyried y bylchau hyn yn y data a, lle bo modd, ddefnyddio dulliau safonol. Pan fo data newydd yn cael ei gynhyrchu, rydym yn annog ymgeiswyr i weithio ar y cyd i wneud y mwyaf o’r wybodaeth a gynhyrchir. 

Cynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd

Mae’r rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • roedd y cynhyrchion ar y farchnad adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020)
  • daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law erbyn 31 Mawrth 2021
  • gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu

Dylai pob cynnyrch CBD gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol eraill ac ni ddylent fod:

  • wedi’u labelu’n anghywir 
  • yn anniogel
  • wedi’u hystyried yn sylweddau a reolir

Rhaid tynnu unrhyw gynhyrchion nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr neu sydd wedi’u nodi fel rhai sydd wedi’u ‘Dileu’ oddi ar y farchnad.

Mwy o wybodaeth am gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwydydd newydd

Chwiliwch drwy’r Gofrestr o Gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â bwyd newydd 

Rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd

Mae’r rhestr hon yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Mae mwy o wybodaeth am gynhyrchion CBD yng Ngogledd Iwerddon yn ein canllawiau CBD ar gyfer Gogledd Iwerddon. Safonau Bwyd yr Alban sy’n gyfrifol am reoliadau bwyd newydd yn yr Alban.

Cynhyrchion bwyd CBD eraill

O ddyddiad ein cyhoeddiad (13 Chwefror 2020) ymlaen, ni ddylai unrhyw echdyniadau CBD, unigion CBS na chynhyrchion terfynol cysylltiedig newydd sy’n defnyddio'r cynhwysyn newydd hwn, gan gynnwys brandiau newydd a chynhyrchion label gwyn, gael eu rhoi ar y farchnad nes bod ganddynt yr awdurdodiad angenrheidiol. Nid yw cais wedi’i ddilysu yn ddigonol i roi cynhyrchion newydd ar y farchnad. Rydym yn disgwyl i unhryw gynnyrch CBD arall nad yw wedi’i nodi ar y rhestr gael ei dynnu’n ôl yn wirfoddol. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi, a gallant dynnu’r cynhyrchion hyn oddi ar y farchnad os na chaiff cynhyrchion eu tynnu’n ôl yn wirfoddol.

Mae gwybodaeth fanwl am geisiadau cynhyrchion CBD annilys ar ein tudalen ceisiadau awdurdodi CBD annilys. Yng Nghymru a Lloegr, cynigir mai dim ond y cynhyrchion hynny sydd ar y rhestr o geisiadau cynhyrchion CBD cysylltiedig â bwyd newydd, ac sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n aros am dystiolaeth neu ddilysiad, fydd yn aros ar y farchnad, a hynny wrth aros am benderfyniad ar awdurdodiad. 

Diogelwch cynhyrchion CBD

Rydym wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio CBD ar gyfer oedolion iach a grwpiau agored i niwed.

Dylai’r rheiny sy’n gwerthu CBD fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon, a dylent allu rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth yw’r dos uchaf dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion iach. Fel mesur rhagofalus, nid ydym yn argymell CBD ar gyfer pobl mewn grwpiau agored i niwed, oni bai eu bod wedi cael cyfarwyddyd meddygol i’w gymryd. Mae hyn yn cynnwys plant (rhai dan 18 oed), pobl sy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth, y rhai sy’n ceisio beichiogi a’r rhai sy’n feichiog neu sy’n bwydo o’r fron.