Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Allforion bwyd a diod

Gwybodaeth i fusnesau ar sut i allforio cynhyrchion bwyd a diod.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw Awdurdod Cymwys Canolog y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer Masnachu Rhyngwladol. Mae’r adran yn gyfrifol am negodi marchnadoedd allforio newydd ac am sicrhau mynediad parhaus i'r marchnadoedd allforio hynny.

Ein rôl ni yw rhoi sicrwydd i Defra fod bwyd a diod a gaiff eu hallforio o'r DU wedi'u cynhyrchu'n unol â gofynion deddfwriaethol y DU. Rydym ni hefyd yn sicrhau eu bod yn bodloni unrhyw ofynion mewnforio ychwanegol y mae'r gyrchwlad (destination country) wedi'u gosod.

Ardystio allforion

Bydd rhai gwledydd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd (UE), yn ei gwneud yn ofynnol i rai allforion bwyd a diod o’r DU gael eu hardystio gan awdurdod ardystio yn y DU cyn cael eu hallforio.

Mae gwybodaeth am ardystio allforion ar gyfer mewnforwyr o Gymru ac o Loegr ar gael gan Defra ac ar gyfer allforwyr o Ogledd Iwerddon gan yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).

Cyn i chi allforio cynhyrchion bwyd a diod o'r DU, mae'n rhaid i chi wirio a oes unrhyw gyfyngiadau penodol o ran:

  • eich cwsmer
  • awdurdodau'r gyrchwlad
  • llysgenhadaeth y wlad berthnasol yn y DU

Nid yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gyfrifol am ddyfarnu unrhyw fath o ardystiadau allforio.

Bydd gan wledydd unigol ofynion penodol mewn perthynas â'r mathau o ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu hallforio. Bydd y gofynion yn amrywio gan ddibynnu ar y wlad a'r math penodol o gynnyrch.

Nid oes un ffynhonnell o wybodaeth ar gael ar gyfer y gofynion allforio cynnyrch/gwlad penodol hyn. Wrth allforio bwyd a diod yn fasnachol o'r DU, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r cyfyngiadau a'r amodau allforio sy'n berthnasol cyn i chi allforio.

Ym Mhrydain Fawr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n gyfrifol am ddyfarnu tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid i wledydd penodol. Darllenwch sut i gael tystysgrif iechyd allforio.

Yng Ngogledd Iwerddon, DAERA sy'n gyfrifol am ddyfarnu'r tystysgrifau iechyd allforio hyn.

Gall awdurdodau lleol neu gynghorau dosbarth ddarparu ardystiadau allforio ar gyfer cynhyrchion penodol nad ydynt yn dod o dan y tystysgrifau iechyd allforio a roddir gan APHA a DAERA. Gall hyn fod yn berthnasol i gynhyrchion:

  • nad ydynt yn dod o anifeiliaid
  • cynhyrchion cig wedi'u prosesu
  • bwyd a diod wedi'u gweithgynhyrchu

Mae'r math o ardystiad sydd angen ei ddarparu yn benodol i'r cynnyrch sy'n cael ei allforio a gofynion y gyrchwlad.

Dylech chi ddarparu'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu am ofynion mewnforio'r gyrchwlad i'ch awdurdod lleol neu gyngor dosbarth. Bydd hyn yn llywio'r hyn sydd angen i'r ardystiad allforio ei ddweud.

Fel arfer, yr isafswm sydd ei angen ar wledydd y tu allan i’r UE mewn ardystiad o'r fath yw cadarnhad bod y cynnyrch:

  • wedi'i gynhyrchu yn unol â rheolau hylendid domestig
  • yn addas i'w fwyta gan bobl
  • ar gael i'w werthu'n rhydd yn y DU

Gall yr Asiantaeth Taliadau Gwledig hefyd ddarparu Tystysgrifau Gwerthu'n Rhydd ar gyfer allforio cynhyrchion bwyd a diod wedi'u prosesu penodol. 

Canllawiau ar allforio bwyd a diod

Mae Defra wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol i fusnesau ar y rheolau newydd ar gyfer allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gan gynnwys i wledydd yn yr UE:

Mae canllawiau Defra ar y rheolau newydd ar gyfer allforio neu symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) o Brydain Fawr i wledydd yr UE neu i Ogledd Iwerddon ar gael trwy Allforio neu symud HRFNAO

Ffynonellau gwybodaeth ychwanegol ar allforio

Mae gan yr Adran Fasnach Ryngwladol gylch gwaith penodol i helpu busnesau i allforio a thyfu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae wedi datblygu’r wefan Exporting is Great sy’n cynnwys cefnogaeth a chyngor wedi’u teilwra i fusnesau. Gall y cyngor hwn helpu busnesau i ddechrau allforio neu gynyddu maint y nwyddau a'r gwasanaethau maent yn eu gwerthu dramor.

Mae'r wefan Open to Export yn cynnig gwybodaeth ar-lein am ddim gan y Sefydliad Allforio a Masnachu Rhyngwladol. Ei diben yw helpu busnesau bach yn y DU i baratoi i allforio ac ehangu’n rhyngwladol.

Mae cyrff masnachu sydd hefyd yn gallu helpu gyda chyngor ar allforio eich cynhyrchion yn cynnwys