Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Canllawiau ar gyfer busnesau

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd – o ffermio a chynhyrchu i werthu ac arlwyo. Yma, mae cyngor ar sut i reoli hylendid a diogelwch bwyd ym mhob rhan o'r busnes.

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r ASB 

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld trwy legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

Darllenwch ein datganiad am ddiweddaru cynnwys a gynhyrchwyd cyn diwedd cyfnod pontio’r UE neu tra’r oedd y DU yn yr UE.

Sut i redeg eich busnes bwyd

My HACCP

Sut i weithredu egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Rheoli Pwyntiau Critigol (HACCP) yn eich busnes.

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Pecyn cymorth PPDS a chanllawiau sector-benodol yn helpu busnesau bwyd i nodi a ydynt yn darparu bwyd PPDS a pha newidiadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud.