Neidio i’r prif gynnwys

Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau

Gofynion o ran awdurdodi cyflasynnau (flavourings) bwyd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.
Diweddarwyd ddiwethaf
Mae'r dudalen hon yn rhan o'r Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio

Defnyddir cyflasynnau er mwyn:

  • ychwanegu blas neu arogl newydd i fwyd
  • gwella blas neu arogl presennol bwyd

Mae cyflasyn masnachol yn aml yn gymysgedd cymhleth o wahanol sylweddau a ddewisir i ddarparu'r blas a ddymunir.

Deddfwriaeth cyflasynnau

Rhaid i bob cyflasyn a phob cyfansoddyn o gyfuniad cyflasyn fod yn ddiogel o dan ddeddfwriaeth cyfraith bwyd gyffredinol. Yn ogystal, rhaid i rai cyflasynnau gael eu gwerthuso'n ddiogel cyn eu hawdurdodi i'w defnyddio mewn bwyd ym Mhrydain Fawr. Mae deddfwriaeth yr UE a ddargedwir (retained EU law) ar y weithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd yn amlinellu'r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn.

Mae angen awdurdodi'r mathau hyn o gyflasynnau: 

  • sylweddau cyflasynnau
  • paratoadau cyflasynnau a gafwyd o ddeunyddiau heblaw bwyd
  • cyflasynnau proses thermol os yw cynhwysion yn dod o ddeunyddiau ffynhonnell heblaw bwyd neu os na chyflawnir yr amodau neu'r terfynau cynhyrchu a osodir yn Atodiad V o Reoliad 1334/2008 yr UE a ddargedwir (retained EU law)
  • rhagsylweddyn (precursor) blas a gafwyd o ddeunydd ffynhonnell heblaw bwyd
  • cyflasynnau eraill
  • deunyddiau ffynhonnell heblaw bwyd

Gallwch chi ddod o hyd i restr o sylweddau cyflasynnau awdurdodedig a 'chyflasynnau eraill' i'w defnyddio mewn bwyd ym Mhrydain Fawr yn Atodiad I o Reoliad 1334/2008 yr UE a ddargedwir.

Awdurdodiad newydd

I wneud cais i awdurdodi cyflasyn ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio. Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, anfonir dolen atoch lle gallwch lanlwytho dogfennau cais a fydd yn ffurfio'ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.
Dylai eich cais i awdurdodi cyflasyn gynnwys:

  • llythyr cysylltiedig yn rhoi amlinelliad o'r cais (yn nodi'r sylwedd, ei ddefnydd arfaethedig, a'r categorïau bwyd perthnasol y mae'r cais yn ymwneud â nhw)
  • coflen dechnegol
  • crynodeb o'r goflen
  • crynodeb cyhoeddus o'r goflen 
  • gwybodaeth gyswllt yr ymgeisydd/ymgeiswyr ac arbenigwyr technegol

Os ydych chi am i rai rhannau o'r ffeilo’r goflen gael eu trin yn gyfrinachol, mae angen i'ch cais gynnwys:

  • rhestr o rannau o'r goflen yr hoffech iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • cyfiawnhad dilysadwy ar gyfer pob rhan y gofynnir iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • coflenni cyflawn heb rannau cyfrinachol

Canllawiau manwl

Mae canllawiau hefyd wedi’u datblygu’n flaenorol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ac maent yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE.

Dylech ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio.

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am gyflasyn i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Wrth lenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodi cyflasynnau troednodiadau

Os yw'ch cyflasyn wedi'i gynnwys yn Atodiad I o Reoliad 1334/2008 gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Nid yw EFSA wedi cwblhau gwerthuso sylweddau cyflasynnau sydd wedi'u marcio â throednodyn yn Atodiad I Rhan A o Reoliad 1334/2008. Bydd y sylweddau hyn yn parhau i gael eu caniatáu ym Mhrydain Fawr nes bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gorffen gwerthuso.  Byddwn ni maes o law yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gorffen gwerthuso'r sylweddau hyn a gofyn am gyflwyno gwybodaeth i ganiatáu i'r gwerthusiadau gael eu cwblhau. Yn y cyfamser, efallai y byddwn ni’n gofyn am wybodaeth am sylweddau cyflasyn unigol fesul achos.

Fel cynhyrchydd neu ddefnyddiwr cyflasyn mae'n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar asesiad diogelwch cyflasyn. Gallwch chi gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth newydd drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Awdurdodiadau presennol

Os awdurdodwyd eich cyflasyn gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr ac nid oes angen i chi wneud cais am awdurdodiad.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer camau allweddol yn y broses ar gyfer asesu risg ac ystyriaethau rheoli risg. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn. Nid yw'r llinellau amser yn berthnasol ar gyfer sylweddau troednodyn.

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gwnewch gais i awdurdodi cyflasyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio.