Nod y cyflwyniad hwn yw eich helpu i ddeall a yw'r gofynion labelu alergenau newydd yn effeithio ar eich busnes a beth i'w wneud nesaf i gydymffurfio â'r gyfraith.
O 1 Hydref 2021 bydd y gofynion ar gyfer labelu bwyd sydd wedi'i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. Bydd y labelu newydd hyn yn helpu i ddiogelu eich defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar y deunydd pecynnu a allai achub bywyd.
Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes sy'n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu gydag enw'r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion, gan bwysleisio’r cynhwysion alergenaidd ar y rhestr.
Mae angen i fusnesau ddeall a oes angen labelu PPDS ar eu cynhyrchion a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r rheolau newydd.
Beth yw bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol neu fwyd PPDS?
Mae bwyd PPDS yn cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr ac mae yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis.
Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (er enghraifft, o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy'n cael ei werthu mewn safleoedd symudol neu dros dro.
Pwysig
Bwyd nad yw'n PPDS
- Unrhyw fwyd nad yw mewn deunydd pecynnu neu sy'n cael ei becynnu ar ôl cael ei archebu gan y defnyddiwr. Mae'r rhain yn fathau o fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ac nid oes angen label arnynt gydag enw, cynhwysion ac alergenau wedi'u pwysleisio. Rhaid parhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau ond gellir gwneud hyn trwy ddulliau eraill, gan gynnwys ar lafar.
- Bwyd wedi'i becynnu gan un busnes a'i gyflenwi i fusnes arall. Mae hwn yn fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw ac mae'n rhaid iddo fod wedi’n labelu llawn yn barod, gan gynnwys enw'r bwyd a rhestr gynhwysion lawn, gyda chynhwysion alergenaidd yn cael eu pwysleisio.
Gwerthu o bell
Gwerthu o bell
Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd PPDS a werthir o bell, fel bwyd y gellir ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.
Bydd angen i fusnesau sy'n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i'r defnyddiwr cyn iddo brynu'r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.
Enghreifftiau o fwyd PPDS
Gall bwyd wedi'i becynnu i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) gynnwys y canlynol:
- Brechdanau a chynhyrchion becws sy'n cael eu pecynnu ar y safle cyn i ddefnyddiwr eu dewis neu eu harchebu.
- Bwyd cyflym wedi'i becynnu cyn ei archebu, fel byrgyr o dan lamp boeth lle na ellir newid y bwyd heb agor y deunydd pecynnu.
- Cynhyrchion sy'n cael eu pecynnu ymlaen llaw ar y safle yn barod i'w gwerthu, fel pizzas, cyw iâr rotisserie, saladau a photiau pasta.
- Byrgyrs a selsig wedi'u pecynnu ymlaen llaw gan gigydd ar y safle yn barod i'w gwerthu i'r defnyddiwr.
- Samplau o gwcis a roddir i ddefnyddwyr am ddim a gafodd eu pecynnu ar y safle.
- Bwydydd sy’n cael eu pecynnu ac yna'u gwerthu mewn man arall gan yr un gweithredwr mewn stondin farchnad neu safle symudol.
- Bydd hefyd angen labelu bwyd PPDS mewn ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a lleoliadau tebyg eraill.
Beth sydd angen bod ar y label?
Mae angen i'r label ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion gyda'r 14 alergen y mae'n ofynnol eu datgan yn ôl y gyfraith wedi'u pwysleisio.
Rhaid i'r rhain fod yn unol â'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i enwi'r bwyd a rhestru cynhwysion.
Rhaid i fusnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion gwybodaeth a labelu bwyd perthnasol presennol ar gyfer y wlad y maent yn gweithredu ynddi.
Dyma ein gwybodaeth am yr 14 alergen a sut i gyfeirio atynt, lle byddwch chi'n dod o hyd i'r rheolau manwl am gynnwys, ffurf a chyflwyniad enw, cynhwysion a gwybodaeth am alergenau.
Sut i fodloni'r gofynion
Os yw'ch busnes yn gwerthu neu'n cyflenwi bwyd PPDS mae angen i chi weithredu cyn 1 Hydref 2021 i gydymffurfio â'r gyfraith.
Rhaid i fusnesau wirio a ydyn nhw'n cynhyrchu bwyd PPDS a sicrhau eu bod nhw'n barod i gydymffurfio â'r gofynion newydd. Defnyddiwch ein hadnodd penderfynu ar gyfer labelu alergenau a chynhwysion ar fwyd.
Rydym ni wedi diweddaru ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd i gynnwys y gofynion newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adran gofynion labelu a gwybodaeth am alergenau bwyd y Canllawiau Technegol
Mae gennym ni hefyd wybodaeth am labelu alergenau ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd.
Amlinellir y gofynion labelu alergenau yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE.
Pam mae'r newidiadau i wybodaeth am alergenau yn cael eu cyflwyno?
Ar hyn o bryd, gellir darparu'r wybodaeth am alergenau ar gyfer y cynhyrchion hyn mewn unrhyw fodd. Mae hyn yn cynnwys cael eich hysbysu ar lafar gan staff.
Mae llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y bydd angen darparu gwybodaeth am gynhwysion ac alergenau ar labeli’r bwydydd hyn o 1 Hydref 2021.
Mae hyn yn dilyn marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a gafodd adwaith alergaidd a achoswyd drwy fwyta baguette nad oedd yn rhaid cynnwys label alergenau arno ar y pryd.