Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- Anfonwch e-bost at: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- E-bost: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9.00 tan 17.00, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i'ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y rhannau nad ydynt yn cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae’r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi’i amlinellu isod ynghyd â’r dyddiadau yr ydym ni’n bwriadu trwsio’r problemau hyn erbyn.
Nid yw rhai elfennau hidlo yn ymddwyn yn y modd y byddai disgwyl iddynt ar gyfer defnyddwyr technolegau cynorthwyol, ac nid ydynt yn hygyrch i ddefnyddwyr nad ydynt yn defnyddio llygoden. (WCAG 2.1 A 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth). Rydym ni’n bwriadu trwsio hyn erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw rhai dogfennau PDF yn gwbl hygyrch, gan gynnwys:
- Mae gan benodau’r Llawlyfr ar gyfer Rheolaethau Swyddogol ambell broblem gyda’r dolenni gwe, delweddau gwael a thablau cynnwys. Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn erbyn 5 Hydref 2020.
- Mae gan ganllawiau Safe Catering (Gogledd Iwerddon) rai problemau gan gynnwys cyferbyniad lliw, maint ffont, trefn tagio anghyson a thudalennau ar eu hochr. Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn (o fewn prosiect gwella parhaus ehangach) erbyn mis Medi 2021.
- Mae gan becynnau Bwyd mwy Diogel, Busnes Gwell rai problemau gyda chyferbyniad lliw, maint ffont a labeli ffurflenni. Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn (o fewn prosiect gwella parhaus ehangach) erbyn mis Medi 2021.
- Mae’r Canllaw Ymarferol ar gyfer Cynhyrchwyr Llaeth yn cynnwys ambell broblem gan gynnwys delweddau, cyferbyniad lliw, llywio a nodau tudalen. Rydym ni’n bwriadu datrys y materion hyn erbyn diwedd mis Hydref 2020.
Mae rhai o'n dogfennau Word yn hanfodol er mwyn gallu darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym ni’n bwriadu trwsio'r rhain erbyn mis Hydref 2020. Rydym ni hefyd yn datblygu gwasanaeth newydd ar gyfer y Broses Gymeradwyo mewn perthynas â sefydliadau cig. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn bodloni safonau hygyrchedd ac rydym ni’n rhagweld y bydd y gwaith hwn yn dod i ben canol 2021.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Ein hymdrechion i wella hygyrchedd
Rydym ni’n bwriadu nodi a thrwsio problemau yn unol â'r amserlenni a ddangosir ar gyfer pob mater uchod.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 20 Gorffennaf 2020. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC)
Fe wnaethom ni ddewis y sampl o dudalennau i'w profi yn seiliedig ar deithiau defnyddwyr cyffredin sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o gynnwys. Mae hyn yn cynnwys canllawiau, rhoi gwybod am broblem gyda bwyd a rhybuddion bwyd