Mae'r rheolaethau swyddogol a archwilir yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau o gynhyrchu cynradd ar ffermydd, wyau, llaeth, lladd-dai, ffatrïoedd torri, bwyd anifeiliaid, pysgod cregyn a chynhyrchion pysgodfeydd, yn ogystal â'r sector manwerthu fel archfarchnadoedd, cigyddion, bwytai.
Caiff y system rheolaethau swyddogol ei gweithredu gan swyddogion gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid mewn awdurdodau cymwys gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, yr ASB ei hun, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gontractau neu gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddiadau Archwilio
Rydym ni wedi cynnal nifer o archwiliadau â ffocws sy'n edrych ar agweddau penodol o waith gorfodi awdurdodau lleol.
Dogfennau Archwilio
I gael rhagor o wybodaeth am archwiliadau awdurdodau lleol, bydd angen i chi fewngofnodi i lwyfan Hwyluso Cyfathrebu'r Asiantaeth Safonau Bwyd.