Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rheoliadau allweddol

Mae ein gwaith yn seiliedig ar nifer o ddarnau allweddol o ddeddfwriaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Deddf Safonau Bwyd 1999

Prif bwrpas Deddf Safonau Bwyd 1999 yw ein sefydlu fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Mae'r Ddeddf yn bodoli i roi swyddogaethau a phwerau i ni, ac i drosglwyddo rhai swyddogaethau mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd.

Cyflwynwyd y Ddeddf yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1999. 

Mae'n nodi ein prif nod i ddiogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd. Mae'n rhoi'r pŵer i ni weithredu er budd y defnyddiwr ar unrhyw adeg yn y gadwyn cyflenwi a chynhyrchu bwyd. 

Deddfwriaeth Deddf Safonau Bwyd 1999 

England and Wales

Northern Ireland

Cyfraith Bwyd Cyffredinol

P'un a ydych chi'n fusnes bwyd neu'n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae'r trosolwg hwn yn trafod y brif ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol:

  • mewnforion ac allforion bwyd
  • diogelwch
  • olrhain
  • labelu
  • galw a thynnu cynhyrchion yn ôl

Cyfraith Bwyd Cyffredinol

Codau Ymarfer

Cymryd cip ar Godau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd

Daeth Rheoliadau domestig Gwybodaeth am Fwyd 2014 i rym ar 14 Gorffennaf 2014 ac mae'n galluogi awdurdodau lleol i orfodi Rheoliad (UE) 1169/2011 a gymathwyd ar wybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr (Rheoliadau FIC).

Mae angen i fusnesau ddarparu gwybodaeth am alergenau os yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw un o'r 14 alergen fel y'u rhestrir yn y 'rheoliadau FIC'. Canllawiau i fusnesau bwyd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau ac arfer gorau ar gyfer trin alergenau.

Bydd modd defnyddio trosedd wrth gefn os nad yw busnesau yn cydymffurfio â Hysbysiad Gwella, lle bydd gofyn i droseddwr, ar gollfarn ddiannod (summary conviction), dalu dirwy nad yw'n fwy na lefel 5. Bydd troseddau yn parhau i fodoli os yw busnesau yn mynd yn groes i ddarpariaethau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys, yn bennaf, cam-labelu bwyd sy'n cynnwys alergenau gan fod peidio â chydymffurfio â'r darpariaethau alergenau yn gallu arwain at risg i iechyd a diogelwch defnyddwyr.

Mae'r rheoliadau yn mabwysiadu rhai rhanddirymiadau a hyblygrwydd cenedlaethol a ganiateir gan y Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd sef:

  • rhanddirymiad (derogation) o'r angen i roi gwybodaeth orfodol am laeth a chynhyrchion llaeth mewn poteli gwydr y bwriedir eu hailddefnyddio. Mae mabwysiadu'r rhanddirymiad hwn yn cynnal yr eithriad presennol.
  • rhanddirymiad o safonau cyfansoddiad briwgig (minced meat) ar fraster a cholagen i gymarebau protein cig yn y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd. Mae mabwysiadu'r rhanddirymiad hwn yn caniatáu i fusnesau barhau i gyflenwi marchnadoedd y DU â briwgig traddodiadol, ar yr amod ei fod yn cael ei werthu o dan farc cenedlaethol.
  • i gadw'r gofyniad i nodi enw'r bwyd ar fwyd sy'n cael ei werthu heb ei becynnu.
  • i gadw'r gofyniad am arwydd meintiol o'r cynnwys cig ar gyfer cynhyrchion cig sy'n cael eu gwerthu heb eu pecynnu ymlaen llaw.
  • i gyflwyno'r dulliau penodol y mae'n rhaid eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth orfodol am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.
  • diweddaru deddfwriaeth labelu a safonau bwyd arall i adlewyrchu'r Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd a chyflwyno Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014.


Mae rheoliadau tebyg, ond ar wahân, wedi'u llunio yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban.

Northern Ireland