Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Laura Sandys - Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae Laura Sandys yn gweithio mewn capasiti gwirfoddol fel sylfaenydd a chadeirydd The Food Foundation, sef melin drafod ar bolisi bwyd. Mae hi hefyd yn aelod cynghorol o fwrdd Carbon Capture a Storage Group yn y Coleg Imperial, yn gyd-sylfaenydd POWERful Women, yn Uwch Gymrawd Gwadd yng Ngholeg y Brenin (Kings College) ac yn Gymrawd y Sefydliad Ynni .

Cyn hynny, roedd hi'n Aelod Seneddol dros South Thanet ac yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. Roedd hi hefyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Gweinidog Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. Yn ogystal, roedd hi'n gweithio ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â hawliau defnyddwyr, troseddau bwyd, diogelu'r cyflenwad bwyd (food security), diogelu'r cyflenwad ynni a chynhyrchiant ynni.

Cyn camu i'r byd gwleidyddol, sefydlodd ddau gwmni marchnata, cyfathrebu a materion cyhoeddus; cynghorodd Lywodraeth Georgia ar biblinell  Baku-Ceyhan; ac roedd yn gweithio i'r sefydliad dros ddefnyddwyr, Which? Roedd hi'n Ymddiriedolwr y Brifysgol Agored ac yn Gadeirydd OpenDemocracy.net.

Astudiodd Laura Sandys am Radd Meistr yng Nghaergrawnt mewn Perthnasau Rhyngwladol, gan arbenigo yn yr Ymosodiad ar Iraq.  Mae hi wedi cyfrannu erthyglau at The Guardian, The Times, The Telegraph ac Utility Week, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar y BBC a Sky. 

Cyflogaeth

Cyflogaeth, swydd neu broffesiwn a gaiff ei dalu.

Rwy'n ymgynghorydd hunan-gyflogedig sy'n masnachu o dan enw Challenging Ideas, sy'n cynnig gwasnaethau cynghori ar fodelau busnes newydd, polisi rheoleiddiol sy'n newid ac arloesedd yn y sector ynni.

Rwy'n arwain rhaglen gyda'r Coleg Imperial a'r Energy Systems Catapult sy'n ymchwilio i ddyfodol rheoleiddio.

Mae fy ngŵr, Dr Randolph Kent, yn Athro Gwadd yng Ngholeg y Brenin, Llundain a Chyfarwyddwr y Dyfodol yn Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol. Mae’n academydd sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, arweinyddiaeth yn Affrica a Dyngarwch.

Swyddi Cyfarwyddwr

Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl

  • Challenging Ideas, cyfarwyddwr
  • Food Foundation, cyfarwyddwr a chadeirydd (heb dâl)
  • Urban Farms Ltd, cyfarwyddwr (ddim yn masnachu, heb dâl)
  • Powerful Women, cyfarwyddwr (heb dâl)

Sefydliadau, clybiau neu gyrff

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau

  • BEIS Cost of Energy Review, aelod cynghori
  • Carbon Tracker, aelod o'r bwrdd cynghori
  • Global Future, aelod o'r bwrdd cynghori
  • Carbon Capture, Coleg Imperial, aelod o'r bwrdd cynghori
  • Coleg y Brenin, uwch gymrawd gwadd
  • Y Sefydliad Ynni, cymrawd.

Mae'r rolau uchod yn ddi-dâl.

Nid wyf yn berchen ar unrhyw gyfranddaliadau.

Mae gan fy ngŵr bortffolio cyfranddaliadau yn UDA sy’n cael ei reoli ac nid ydym yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r portffolio.