Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dull rheoleiddio

Mae ein dull rheoleiddio’n darparu gwybodaeth am sut mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn diwallu ei chyfrifoldebau o dan fframwaith rheoleiddio’r llywodraeth, ac yn rhoi gwybod am effeithiau’r newidiadau rheoleiddio rydym yn eu cyflwyno yn unol â’n hymrwymiadau o ran rhoi gwybod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Ein prif amcan statudol yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae gosod rheoliadau gormodol neu aneglur yn rhoi baich diangen ar fusnesau ac yn rhwystro’r broses o gyflawni’r manteision bwriadedig yn effeithiol. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio a datblygu penderfyniadau polisi, ac i asesu effeithiau’r penderfyniadau hyn.

Rydym yn ymdrechu i fod yn rheoleiddiwr teg ac effeithiol, yn gymesur a blaengar yn ein dull rheoleiddio gan ganolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau rydym ni am eu gweld.

Ein haddewid yw rhoi defnyddwyr yn gyntaf ym mhopeth a wnawn, fel bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, fel bod gennym fynediad at ddeiet iach a fforddiadwy, ac fel ein bod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn rydym ni’n ei fwyta, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae ein llyfryn gwybodaeth – Bwyd y gallwn ymddiried ynddo – yn nodi ein blaenoriaethau a’n dulliau arfaethedig i gyflawni ein canlyniadau strategol gan gynnwys ein hegwyddorion gwaith.

Ymgysylltu ac ymgynghori

Rydym yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid yn rheolaidd er mwyn datblygu ein polisi rheoleiddio. Gallwch helpu i lywio ein dull trwy roi eich barn a thystiolaeth er mwyn llywio ein proses benderfynu.

Ewch ati i ddysgu mwy am ymgynghoriadau neu ddod o hyd i’r ymgyngoriadau diweddaraf.

Asesiadau effaith

Mae Asesiad Effaith yn offeryn polisi a ddefnyddir i asesu effeithiau opsiynau sy’n cael eu hystyried. Mae hyn yn cynnwys costau a manteision disgwyliedig yn erbyn y rhesymeg ar gyfer ymyriadau gan y llywodraeth. Mae deall costau, manteision, a risgiau unrhyw fesur neu gynnig newydd yn hanfodol i’r gwaith o wneud polisïau da.

Adrodd ar Darged Effaith Busnes

Mae Targed Effaith Busnes (BIT) y llywodraeth yn ymwneud ag effaith economaidd rheoliadau ar fusnesau.

Mae gofyn i ni roi gwybod am fesurau cymwys sy’n dod i rym, neu sy’n peidio â bod mewn grym mwyach, yn ystod y cyfnod adrodd yn unol â Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 a Deddf Menter 2016.

2021 i 2022

Darpariaethau rheoleiddio cymwys 2021-2022

Rhwng 17 Rhagfyr 2021 ac 16 Rhagfyr 2022, ni wnaethom gyflwyno unrhyw ddarpariaethau rheoleiddio cymwys o dan y BIT.

Darpariaethau rheoleiddio anghymwys 2021-2022

Adroddiad cryno o Ddarpariaethau Rheoleiddio Anghymwys yr ASB: 2021 i 2022

2020 i 2021

Darpariaethau rheoleiddio cymwys 2020-2021

Rhwng 17 Rhagfyr 2020 ac 16 Rhagfyr 2021, ni wnaethom gyflwyno unrhyw ddarpariaethau rheoleiddio cymwys o dan y BIT.

Darpariaethau rheoleiddio anghymwys 2020-2021

England, Northern Ireland and Wales

2019 i 2020

Darpariaethau rheoleiddio cymwys 2019-2020

Rhwng 13 Rhagfyr 2019 ac 16 Rhagfyr 2020, ni wnaethom gyflwyno unrhyw ddarpariaethau rheoleiddio cymwys o dan y BIT.

Darpariaethau rheoleiddio anghymwys 2019-2020

England, Northern Ireland and Wales

Adroddiadau BIT yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer blynyddoedd blaenorol
 

Adroddiadau Targed Effaith Busnes (BIT) y Llywodraeth

Adolygiad Rheoleiddiol

Dylai gwaith rheoleiddio fod yn gymesur ac yn effeithiol wrth gyflawni’r canlyniad bwriadedig. Cynhelir ein hadolygiad rheolaidd o’r rheoliadau presennol er mwyn monitro a chynnal cymesuredd ac effeithiolrwydd rheoleiddiol.

Manylion adolygiadau’r ASB sydd wedi’u cynllunio a’u cwblhau (Lloegr yn unig).

Canllawiau Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yr ASB

Canllawiau Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Saesneg yn unig ac wrthi’n cael eu hadolygu).

Rydym wrthi’n adolygu ein rhestr gyhoeddedig o ddeddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cyhoeddir y rhestr ar ein gwefan at ddiben cyfeirio gan ei bod yn parhau i fod yn gymhorthyn defnyddiol.

Cod y Rheoleiddwyr

Rydym yn dilyn Cod y Rheoleiddwyr sy’n darparu fframwaith clir a hyblyg, yn seiliedig ar egwyddorion ar gyfer sut y dylai rheoleiddwyr ymgysylltu â’r rheiny maen nhw’n eu rheoleiddio. 

Er ein bod yn ceisio bod yn rheoleiddiwr gwych, atebol a chyfoes, rydym yn derbyn na fydd eraill bob amser yn cytuno â’n dull. Mae’r canlynol yn nodi’r safonau y dylech eu disgwyl gan yr ASB a sut y gallwch gwyno os nad ydym yn llwyddo i gyflawni hyn.

Safonau gwasanaeth – p’un a ydych yn ddefnyddiwr neu’n fusnes, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth defnyddiol, cwrtais ac effeithlon i chi, fel sydd wedi’i nodi yn ein datganiad o safonau gwasanaeth.

Cwynion a sylwadau – mae derbyn sylwadau ac ymateb i gŵynion yn bwysig i ni, a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblem yn gyflym, ac egluro beth rydym wedi’i wneud a pham.