Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Ein hymrwymiad i bolisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Chwefror 2023

Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal a chael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu a bwlio o bob math. Rydym ni’n hyrwyddo amgylchedd gweithio da a chytûn lle caiff pawb eu trin â pharch a lle na fydd unrhyw un yn goddef gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath.

Mae'n ofynnol i'n gweithwyr ac unigolion sy'n gweithio dan drefniadau contract ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth, ac i osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon.

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

Daeth Dyletswydd y Sector Cyhoeddus i rym ar 5 Ebrill 2011. Yn unol â'i ofynion, rydym wedi ymrwymo i roi sylw dyledus i:

  • gael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth
  • hyrwyddo cyfleoedd cyfartal rhwng gwahanol grwpiau
  • meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau

Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Mae deddfwriaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a gyflwynwyd yn 2017 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob cyflogwr sy'n cyflogi dros 250 o weithwyr gyhoeddi eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn. Mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod, wedi'u mynegi mewn perthynas ag enillion dynion.

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2021

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2020

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2019

Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2018

Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2017

 

Ystadegau Amrywiaeth

Mae ein hystadegau Amrywiaeth i'w gweld yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon.  

Yn yr ASB, rydym yn ymrwymo i fod yn weithle lle mae pawb yn teimlo: 

  • y gallwn ni fod yn ni ein hunain 
  • bod ein cyfraniad unigryw yn cael ei gydnabod, ei barchu a’i werthfawrogi 
  • ein bod ni’n sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • y gallwn ni ganfod ystyr yn ein gwaith 
  • ein bod ni’n perthyn ac mae lle i ni dyfu 

     
Ymrwymiadau a chamau gweithredu 

Ymrwymiad 1 - Denu a chadw gweithlu amrywiol 

Gall safbwyntiau a mewnwelediadau amrywiol ein helpu i gryfhau ein haddewid i roi defnyddwyr yn gyntaf, cyflawni newid trawsnewidiol, arloesi, hybu creadigrwydd a meithrin gallu yn ein staff. Bydd cofleidio diwylliant cynhwysol yn ein helpu i recriwtio a chadw’r bobl orau o’r gronfa dalent ehangaf. 

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau recriwtio/gyrfa amgen a dulliau dethol i ddenu ystod ehangach a mwy amrywiol o ymgeiswyr
  • parhau i fonitro a gwerthuso ein prosesau recriwtio i sicrhau eu bod yn ddiduedd ac yn anwahaniaethol
  • parhau â’n hymrwymiad i gael paneli cyfweld dienw, sy’n amrywio o ran rhywedd a chynnig hyfforddiant ar ragfarn anymwybodol i gyfwelwyr
  • cynyddu mynediad at gyfleoedd mentora, cysgodi, hyfforddiant a sgyrsiau gyrfa i annog a hyrwyddo dilyniant i rolau uwch a chymryd rhan weithredol mewn cynlluniau traws-lywodraethol sy'n cefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol. Yn benodol, byddwn yn mynd i'r afael â’r tangynrychiolaeth o staff lleiafrifoedd ethnig ymhlith ein graddau uwch
  • ymrwymo i ddod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd fel ein bod yn cyflogi ac yn cadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd

Ymrwymiad 2 - Hyrwyddo cynhwysiant ar draws ein cymuned arwain a rheoli 

Bydd ein harweinwyr a’n cymuned reoli yn ysgogi ac yn atgyfnerthu newid diwylliannol ac amgylchedd gwaith cynhwysol, trwy roi ein gwerthoedd ASPIRE ar waith. 

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • cynnwys amcan perfformiad i bob rheolwr greu a chefnogi amgylchedd amrywiol a chynhwysol
  • sefydlu Cyngor Amrywiaeth i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau o dan y strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • datblygu ein rheolwyr fel eu bod yn ymgorffori egwyddorion amrywiaeth a chynhwysiant yn eu timau, trwy werthfawrogi, datblygu ac ysgogi pobl; adeiladu a chynnal timau o bell; herio ymddygiadau sy'n effeithio'n negyddol ar gynhwysiant; a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu
  • penodi Hyrwyddwyr Cynhwysiant o fewn y Tîm Rheoli Gweithredol, yr Uwch-dîm Arwain a ledled y busnes i ddatblygu gweithle sydd â diwylliant amrywiol a chynhwysol 


Ymrwymiad 3 - Datblygu a chefnogi rhwydweithiau staff i gryfhau ein diwylliant amrywiol a chynhwysol  

Rydym am i'n rhwydweithiau staff berchen i’n staff a chael eu llywio ganddynt. Gallant ddarparu gofod diogel, pan fo angen, ar gyfer mynegi pryderon a gallant hefyd chwarae rhan trwy godi ymwybyddiaeth a hybu arferion cynhwysol.   

Byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • darparu cymorth parhaus fel y gellir meithrin a chynnal gallu a chapasiti ein rhwydweithiau
  • parhau i gefnogi ein rhwydweithiau staff gweithgar, gan hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu wedi'u teilwra
  • darparu arweiniad a chefnogaeth i helpu staff sy’n gwirfoddoli i sefydlu mwy o rwydweithiau