Monitro ac archwilio
Rydym ni'n monitro gweithgarwch pysgod cregyn, hylendid cig a llaeth i sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei fonitro ar bob cam o'r gadwyn fwyd.
Rydym ni'n darparu cyngor, cymorth ymarferol, a chyllid ar gyfer arolygu a rhaglenni samplu ar lefel leol a chenedlaethol.
Monitro
Hylendid cig
Mae gennym arolygwyr cig ac archwilwyr sy'n monitro gweithgarwch safleoedd lladd. Rydym ni hefyd yn gorfodi'r tâl a godir ar eich safle am y gwaith y mae'n ei wneud â ni.
Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar hylendid cig
Pysgod cregyn
Rydym ni'n monitro'r rheolaethau swyddogol a'r broses o ddosbarthu pysgod cregyn.
Mae hyn yn cynnwys y gweithgarwch canlynol:
- Samplu
- Halogion
- Lefelau biotocsinau
- Ffytoplancton
Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar bysgod cregyn (Saesneg yn unig)
Hylendid llaeth
Rydym ni'n monitro ac yn arolygu ffermydd llaeth, safleoedd godro, offer ac anifeiliaid sy'n cynhyrchu llaeth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau gofynnol. Dysgwch ragor am y ffordd yr ydym ni'n monitro hylendid llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Archwiliadau
Manylion archwilaidau allweddol o 2010 i 2018.