Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gweithio gyda gwyddoniaeth

Mae ein fframwaith ar gyfer llywodraethu gwyddoniaeth yn nodi sut rydym yn sicrhau ein bod yn glynu at ein hegwyddorion o fod yn agored, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Gorffennaf 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Gorffennaf 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rydym yn sicrhau'r canlynol:

  • polisïau, penderfyniadau a chyngor sy'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael, gan gynnwys cyngor arbenigol annibynnol
  • rydym ni'n agored am y dystiolaeth a'r dadansoddiad gwyddonol sy'n sail i'n penderfyniadau, gan gynnwys unrhyw ansicrwydd, bylchau a rhagdybiaethau, a sut yr ydym wedi defnyddio tystiolaeth a dadansoddiad gwyddonol, ac unrhyw ffactorau eraill, yn ein penderfyniadau a'n cyngor
  • caiff tystiolaeth a dadansoddiad gwyddonol ei lywio gan fewnbwn, craffu a herio arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill
  • mae tystiolaeth a dadansoddiad ar gael i'w defnyddio ymhellach gan y gymuned wyddonol a rhanddeiliaid eraill

Ein strategaeth ar wyddoniaeth a thystiolaeth

Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar nodi a defnyddio gwyddoniaeth yn effeithiol ac mae'n hanfodol i gyflawni ein nodau uchelgeisiol o ran diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Byddwn yn defnyddio gwyddoniaeth, tystiolaeth a gwybodaeth i fynd i’r afael â heriau heddiw yn ogystal ag i nodi a chyfrannu at fynd i’r afael â risgiau’r dyfodol.

Gwnaethom nodi pedair blaenoriaeth ymchwil. O dan bob blaenoriaeth strategol mae set o themâu ymchwil, sy'n sail i'n rhaglenni ymchwil a thystiolaeth gydlynol.

Mae ein pedair blaenoriaeth ymchwil yn ymwneud â:

  1. Sicrhau diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid
  2. Deall defnyddwyr a'n cymdeithas ehangach
  3. Addasu i systemau bwyd a bwyd anifeiliaid y dyfodol
  4. Mynd i'r afael a heriau mawr byd-eang

Mae rhagor o fanylion am bob blaenoriaeth ymchwil i'w gweld yn ein rhestr o Feysydd o Ddiddordeb Ymchwil.

Prif nodweddion y strategaeth

Yr wyddoniaeth y mae gofyn i ni ei datblygu a’i defnyddio

  • deall risgiau a sut i’w gwerthuso a’u cymharu, fel y gallwn dargedu ein gwaith ar ddiogelu defnyddwyr yn effeithiol
  • defnyddio data, gwybodaeth a dadansoddeg yn ddeallus a rhannu’r defnydd ohonynt, i ddeall risgiau cyfredol, nodi risgiau newydd a newidiol, a datblygu trefniadau goruchwylio a rheoleiddio effeithiol wedi’u targedu
  • deall defnyddwyr, busnesau bwyd, partneriaid gorfodi ac eraill yn y system fwyd a sut y gallwn weithio gyda nhw i gefnogi newid mewn ymddygiad a datblygu a lledaenu arferion da
  • dysgu o beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio, i sicrhau’r effeithiau cadarnhaol gorau posibl a gwerth am arian, drwy’n gwaith ein hunain a’n gwaith gydag eraill

Y ffordd rydym yn cynnal ein gwyddoniaeth

  • meithrin a chynnal y sgiliau a’r galluoedd rydym eu hangen
  • sicrhau ansawdd ein gwyddoniaeth, ein tystiolaeth a’n gwybodaeth a’r defnydd ohonynt fel eu bod o fudd i ni ac o ddefnydd ac yn gyfreithlon i eraill
  • defnyddio, cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth am wyddoniaeth, tystiolaeth a gwybodaeth, ar gyfer gweithredu’n agored, ymgysylltu a defnydd ac effaith effeithiol gan yr ASB ac eraill
  • cyflawni amcanion uchelgeisiol ac effaith drawsbynciol drwy bartneriaethau strategol

Cefngoaeth ein Prif Gynghorydd Gwyddonol

Mae ein Prif Gynghorydd Gwyddonol yn dod ag uwch oruchwyliaeth wyddonol wrth wraidd yr ASB ac yn darparu her annibynnol, wrthrychol i'r ffordd yr ydym yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth. Maent yn aelod allweddol o'n uwch grŵp arweinyddiaeth, gan weithio'n agos gyda Bwrdd yr ASB a'r Tîm Rheoli Gweithredol. Yn ogystal, mae'r Prif Gyngorydd Gwyddonol yn gyswllt rhwng yr adran a gweddill y Llywodraeth fel rhan o'r Rhwydwaith Prif Gyngorydd Gwyddonol ehangach ac mae'n chwarae rhan allweddol wrth gyfleu ein gwyddoniaeth i ddefnyddwyr, i fusnesau ac i'r cyhoedd.

Cefnogaeth pwyllgorau

Cawn ein cynghori gan bwyllgorau cynghori gwyddonol annibynnol, sy'n darparu cyngor annibynnol ar asesu risg a'n defnydd o wyddoniaeth, ac yn herio hynny. Mae'r pwyllgorau'n cynnwys mwy na 120 o arbenigwyr annibynnol a benodwyd trwy gystadleuaeth agored.