Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Rydym yn adran anweinidigol o’r llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.

Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.

Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal 11 Rhagfyr 2024 yn Llundain.

Fideo o Gyfarfodydd diweddaraf Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Cofrestru i wylio Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Gallwch wylio cyfarfodydd i weld trafodaethau’r Bwrdd am ein polisïau.

Mae Bwrdd yr ASB yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau cyfarfodydd.

Mae angen i chi gofrestru i wylio cyfarfod Bwrdd.

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar bapurau a gyhoeddir i’w trafod yn ei gyfarfodydd.

Gallwch gyflwyno eich cwestiynau gan ddefnyddio’r ffurflen hon hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd. Sylwer bod terfyn o 350 o eiriau i sicrhau bod eich cwestiynau’n gryno ac yn bwrpasol i’n galluogi i’w ateb yn llwyr.

Bydd cwestiynau a ddaw i law drwy’r fformat hwn yn cael eu cyhoeddi’r diwrnod cyn cyfarfod y Bwrdd.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch ateb dros e-bost cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl cyfarfod y Bwrdd, a bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi hefyd.

Ar gyfer cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar yr agenda neu ar gyfer gohebiaeth sy’n hirach na’r terfyn geiriau a ganiateir yn y ffurflen ar-lein, e-bostiwch correspondence@food.gov.uk a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ateb cyn pen 20 diwrnod gwaith. Sylwer na fydd y cwestiynau hyn, na’r ymatebion iddynt, fel rheol yn cael eu cyhoeddi.

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y gweill

Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.

Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf sydd wedi’u trefnu:

  • 11 Rhagfyr 2024 – Llundain
  • 26 Mawrth 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau
  • 19 Mehefin 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 17 Medi 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 10 Rhagfyr 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau

Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu’r cyfarfodydd canlynol ar ein gwefan: 

Cyfarfodydd yn 2024:

Cyfarfodydd yn 2023:

Cyfarfodydd yn 2022:

Cyfarfodydd yn 2021:

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd cynharach.

Pwyllgorau Bwrdd yr ASB

Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar gyfrifoldebau eraill.

Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu