Enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE)
Beth yw Enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE) a’r mesurau rheoli yr ydym ni’n eu gweithredu i atal bwyd rhag cael ei halogi ganddo.
Mae Enseffalopathi sbyngffurf buchol hefyd yn cael ei alw’n BSE neu clwy'r gwartheg cynddeiriog (mad cow disease). Mae’n afiechyd ar yr ymennydd sy’n gallu effeithio ar wartheg, defaid a geifr. Os caiff y cig heintus hwn ei fwyta gan bobl, fe all ar arwain at salwch difrifol, a hyd yn oed marwolaeth.
Mae BSE yn perthyn i deulu o afiechydon, ac mae llawer ohonynt yn gallu effeithio ar bobl. Yr un mwyaf adnabyddus yn y grŵp hwn yw afiechyd Creutzfeldt-Jakob (CJD). Mae hwn yn afiechyd prin ar yr ymennydd sy’n lladd, ac mae fel arfer yn digwydd mewn pobl hŷn.
Nid yw CJD yn afiechyd newydd mewn pobl, ond ym 1996, fe ddaeth gwyddonwyr ar draws rhywogaeth newydd o CJD sy’n digwydd yn bennaf mewn pobl iau. Daeth ymchwilwyr i’r casgliad ei bod fwyaf tebygol bod yr afiechyd hwn, o’r enw CJD amrywiol, neu vCJD, wedi’i achosi gan bobl yn dod i gysylltiad â BSE.
Sut caiff BSE ei reoli yn y Deyrnas Unedig?
Ers yr 1980au, mae mesurau rheoli llym wedi bod ar waith yn y Deyrnas Unedig i ddiogelu pobl rhag BSE. Mae’r rhain yn lleihau’r perygl o fwyta cig eidion neu gynhyrchion cig a all fod wedi’u heintio â BSE.
Rydym ni’n monitro’r mesurau rheoli hyn ac yn rhoi gwybod i’r cyhoedd os aiff unrhyw beth o’i le. Caiff y mesurau eu hadolygu o dro i dro, yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol ddiweddaraf.
Nid yw BSE wedi’i ganfod mewn unrhyw ddefaid yn y Deyrnas Unedig. Mae profion mewn labordai wedi dangos y gall defaid gael eu heintio â BSE.
Fel mesur rhagofalus, mae hefyd mesurau diogelwch ar waith i ddiogelu yn erbyn BSE mewn cig o ddefaid.
Cael gwared ar ddeunydd risg penodedig
Deunydd risg penodedig yw’r enw a roddir ar rannau o’r fuwch sydd fwyaf tebygol o gynnwys BSE. Cael gwared arnynt o’r gadwyn fwyd yw’r ffordd bwysicaf o sicrhau diogelwch bwyd.
Mae’n rhaid cael gwared ar ddeunydd risg penodedig un ai yn y lladd-dy neu yn y ffatri dorri. Mae’n rhaid ei staenio a chael ei wared, ac ni ellir ei ddefnyddio mewn bwyd na bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn diogelu rhag y perygl bod anifail sydd wedi ei heintio â BSE yn cael ei ladd cyn iddo ddangos unrhyw symptomau o fod yn sâl.
Mesurau eraill sy’n diogelu ein bwyd
Credir mai bwyd anifeiliaid a oedd yn cynnwys cig a blawd esgyrn oedd yn gyfrifol am ledaenu BSE ymhlith gwartheg.
Mae’r arfer o fwydo cig a blawd esgyrn i anifeiliaid fferm bellach wedi’i wahardd ar draws Ewrop.
Mae gwartheg sydd â BSE, neu yr amheuir eu bod â BSE, yn cael eu tynnu o’r gadwyn fwyd. Mae epil yr anifeiliaid hynny, a’r rhai sydd yn yr un cohort, hefyd yn cael eu lladd a’u gwaredu.
Caiff ‘cohort’ ei ddiffinio fel un o ddau opsiwn, sef:
- anifail sydd wedi’i eni yn yr un fuches â’r achos BSE, hyd at flwyddyn cyn neu ar ôl iddo gael ei eni
- anifail a gaiff ei fagu gyda’r achos BSE ar unrhyw adeg cyn yr oedd y ddau yn un oed