Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd – Tracio Agweddau Defnyddwyr (Cylch 8)
Rydym ni'n cynnal arolwg blynyddol o agweddau defnyddwyr tuag at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) i dracio eu hymwybyddiaeth o'r cynllun, eu hagweddau tuag ato a’u defnydd o'r sgoriau dros amser.
Cefndir
Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhyngom ni ac awdurdodau lleol ac mae'n darparu gwybodaeth am y safonau hylendid a geir mewn busnesau bwyd ar yr adeg y cânt eu harolygu. Mae'r cynllun yn cynnwys busnesau sy'n darparu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, fel bwytai, tafarndai, caffis, gwestai tecawê, ysbytai, ysgolion a llefydd eraill y mae pobl yn bwyta oddi cartref, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.
Fe gomisiynom ni arolwg i'w gynnal ddwywaith y flwyddyn i dracio agweddau'r cyhoedd i fonitro'r prif feysydd sy'n peri pryder i ddefnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Yn 2010, ychwanegwyd cwestiynau ar ymwybyddiaeth a defnydd o'r CSHB. Yn 2014, fe benderfynom ni archwilio'r CSHB yn fanylach a chomisiynu arolwg pwrpasol i dracio agweddau defnyddwyr er mwyn monitro eu hymwybyddiaeth , eu hagweddau tuag at y cynllun a’u defnydd ohono.
Dyma wythfed cylch yr arolwg tracio.
Dull Ymchwil
Cynhaliwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb â sampl gynrychioliadol o 2,041 o oedolion (16 oed a hŷn). Dewiswyd ymatebwyr gan ddefnyddio dull samplu lleoliad ar hap ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Roedd y cwestiynau'n canolbwyntio'n bennaf ar y meysydd allweddol canlynol:
- ymwybyddiaeth o’r cynllun - cyfran yr ymatebwyr sy'n dweud eu bod yn ymwybodol o'r CSHB
- adnabod y cynllun - cyfran yr ymatebwyr sy'n adnabod sticer y CSHB, neu a oedd wedi gweld busnes bwyd yn arddangos un yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
- defnyddio’r cynllun - cyfran yr ymatebwyr sy'n nodi eu bod yn defnyddio'r cynllun i wneud eu penderfyniad ar ble i fwyta neu brynu bwyd
- barn ar y cynllun - un enghraifft yw cyfran yr ymatebwyr sy'n credu y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr
Canlyniadau
Ymwybyddiaeth
- Nododd 56% o’r ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o'r CSHB (74% yng Nghymru, 54% yn Lloegr, a 59% yng Ngogledd Iwerddon). Mae'r tair canran yn dangos cynnydd o'r cylch blaenorol.
- Ers i'r arolwg tracio ddechrau ym mis Tachwedd 2014, mae cyfran yr ymatebwyr sy'n ymwybodol o'r cynllun wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon o 45% yng Nghylch 1, i 56% yng Nghylch 8.
- Gwelir y cynnydd mwyaf yng Nghymru gyda 42% o ymatebwyr yn nodi ymwybyddiaeth o'r cynllun yng Nghylch 1 i 74% yng Nghylch 8. Mae Lloegr wedi gweld cynnydd o 44% yng Nghylch 1 i 54% yng Nghylch 8, tra bod Gogledd Iwerddon wedi gweld gostyngiad bach (60% yng Nghylch 1 i 59% yng Nghylch 8).
- O'r ymatebwyr hynny a nododd ymwybyddiaeth o'r CSHB, y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cyffredin oedd sticeri neu dystysgrifau mewn busnes bwyd (88% cyn cael y dewis, 92% pan soniwyd bod sgoriau yn cael eu cynnwys). Mae hyn yn gyson â chylchoedd blaenorol.
Adnabod y Cynllun
- Nododd 84% o ymatebwyr eu bod wedi gweld sticer sgôr hylendid. Nododd cyfran fwy o ymatebwyr eu bod wedi gweld sticeri’r CSHB yng Ngogledd Iwerddon (95%) ac yng Nghymru (92%) nag yn Lloegr (84%). Mae'r ffigurau ar adnabod y cynllun ar gyfer pob gwlad wedi cynyddu ar draws y cylchoedd.
Defnydd
- Mae cyfran yr ymatebwyr a nododd eu bod yn 'aml' neu 'weithiau' yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf wedi cynyddu’n raddol ar draws y cylchoedd; cyfanswm o 40% yng Nghylch 1, a 51% yng Nghylch 8.
- Nododd 68% o'r holl ymatebwyr eu bod wedi gwirio'r sgôr trwy edrych ar ffenestr neu ddrws y busnes bwyd.
- Soniwyd am sgoriau o ‘3’ a ‘4’ yn gyfartal (39% ar gyfer y ddau) fel y sgoriau isaf a fyddai'n dderbyniol.
- Yn unol â chylchoedd blaenorol, nododd mwyafrif yr ymatebwyr (82%) na fyddent yn ystyried prynu gan fusnes bwyd a oedd â sgôr is na'r sgôr yr oeddent yn ei hystyried yn 'dderbyniol'.
Safbwyntiau ar arddangos gorfodol
- Roedd 86% o'r ymatebwyr o'r farn y dylai fod yn ofynnol i fusnesau arddangos eu sgôr yn eu safle, sef yr un ganran â’ch cylch blaenorol.
- Ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon oedd y mwyaf tebygol o nodi y dylai busnesau arddangos eu sgôr (97%) o’i gymharu â Chymru (92%) a Lloegr (85%). Mae cyfran yr ymatebwyr yng Nghymru sy'n nodi y dylai busnesau arddangos eu sgôr wedi cynyddu'n sylweddol rhwng y Cylch blaenorol (87%) a'r Cylch cyfredol (92%).
- Dywedodd 85% o'r ymatebwyr y dylai busnesau bwyd sy'n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd lle gall defnyddwyr ei gweld yn hawdd.