Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 6

Pennod 3: Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd pobl yn defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan neu ble i brynu bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023

Sgoriau hylendid bwyd derbyniol

Ffigur 13. Parodrwydd i fwyta bwyd mewn bwyty neu o safle tecawê sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na 5.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
 Aros am arolygiad – Lloegr, Gogledd Iwerddon Aros am sgôr – Cymru 0 – angen gwella ar frys 1 – angen gwella yn sylweddol
Dal i fwyta yn y bwyty/siop tecawê 35 41 2 3
Peidio â bwyta yn y bwyty/siop tecawê 43 36 95 93
Ddim yn gwybod 21 23 4 4

Lawrlwytho’r siart hon

 Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a fydden nhw’n dal i fwyta neu archebu bwyd o fwyty neu siop tecawê pe baen nhw’n gweld sgôr is na’r sgôr uchaf o 5 (da iawn) ar sticer sgôr hylendid bwyd wrth gyrraedd safle’r busnes bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y bydden nhw’n dal i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (93%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (59%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (93%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%) (Ffigur 13) (footnote 1).  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y bydden nhw fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddyn nhw pan fydden nhw’n ystyried prynu bwyd o rywle. Byddai 8% o’r ymatebwyr ond yn ystyried sgôr o 5 fel un dderbyniol, ond dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr mai sgôr o 3 (39%) neu 4 (42%) oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol. Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 0 (1%), 1 (1%) neu 2 (4%) yn dderbyniol (footnote 2)

Sefyllfaoedd sy’n effeithio ar sgoriau hylendid bwyd derbyniol

Ffigur 14. Parodrwydd i brynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na’u sgôr dderbyniol isaf.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Colofn1 1 – angen gwella yn sylweddol 2 – angen gwella 3 – boddhaol ar y cyfan 4 – da
Yn barod 33 52 21 21
Ddim yn barod 67 44 69 68
Ddim yn gwybod 0 4 11 11

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allen nhw feddwl am sefyllfa lle y bydden nhw o bosib yn penderfynu prynu bwyd o fusnes â sgôr is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Ar draws pob sgôr, dywedodd tua dau draean o’r ymatebwyr (67%) na allen nhw feddwl am sefyllfa lle y bydden nhw o bosib yn penderfynu prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is, tra oedd 23% yn gallu meddwl am sefyllfa o’r fath (Ffigur 14) (footnote 3)

Ffigur 15. Sefyllfaoedd lle y byddai’r ymatebwyr o bosib yn prynu bwyd gan fusnes bwyd sydd â sgôr hylendid bwyd is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Sefyllfaoedd Canran yr ymatebwyr (%)
Mynd â’r bwyd i ffwrdd yn lle bwyta ar y safle 8
Archebu math penodol o fwyd 11
Ystyried yn ddiogel os yw’n dal i fod ar agor 12
Roedd yn rhan o gadwyn gyfarwydd 15
Mewn lleoliad anghyfarwydd 15
Rhywun arall ddewisodd y busnes bwyd 19
Mwynhau blas y bwyd 20
Rhywun arall wedi argymell y busnes 27
Doedd gen i ddim llawer o arian / dewis rhad 27
Roedd hi’n hwyr yn y nos 31
Gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel 34
Bu’n rhaid dewis rhywle yn gyflym 37
Doedd dim llawer o ddewis arall 50
Wedi bwyta yno o’r blaen 50

Lawrlwytho’r siart hon

Source: Food & You 2: Wave 6

O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle y bydden nhw o bosib yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddyn nhw egluro beth fyddai’r sefyllfa honno drwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin oedd: pe baen nhw wedi bwyta bwyd yno o’r blaen (50%); pe na bai llawer o ddewis o leoedd i fynd (50%); pe bai angen iddyn nhw brynu rhywbeth ar fyrder (37%); neu pe baen nhw’n gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel (34%) (Ffigur 15) (footnote 4)

Ffigur 16. Parodrwydd i brynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Colofn1 0 – angen gwella ar frys 1 – angen gwella yn sylweddol 2 – angen gwella 3 – boddhaol ar y cyfan
Yn barod 32 56 44 65
Ddim yn barod 62 17 46 21
Ddim yn gwybod 7 27 9 14

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allen nhw feddwl am sefyllfa lle y bydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. 

Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (61%) yn gallu meddwl am sefyllfa lle y bydden nhw’n gwneud hyn, ac nid oedd 25% o’r ymatebwyr yn gallu. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn tybio bod sgôr o 2 (angen gwella) (66%), 3 (boddhaol ar y cyfan) (66%), neu 4 (da) (64%) yn gyffredinol dderbyniol yn gallu meddwl am sefyllfa lle y bydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch (Ffigur 16) (footnote 5).

Ffigur 17. Achlysuron lle byddai’r ymatebwyr ond yn prynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol arferol.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Achlysur Canran yr ymatebwyr (%)
Arall 6
Pan fyddai’n rhan o gadwyn 13
Eisiau mynd i rywle drud 19
Gyda phlant ifanc 38
Gyda phobl h?n 39
Problemau iechyd arbennig 40
Mewn lleoliad anghyfarwydd 41
Gyda phobl benodol/aelodau o’r teulu 45
Achlysur arbennig 53

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am achlysur lle bydden nhw ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddyn nhw egluro beth fyddai’r achlysur hwnnw trwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Yr achlysuron mwyaf cyffredin oedd achlysuron arbennig (53%), pan fyddai’r ymatebydd yng nghwmni pobl benodol neu aelodau penodol o’i deulu (45%), pan fyddai’r ymatebydd mewn lle anghyfarwydd (er enghraifft gweithio i ffwrdd neu ar ei wyliau) (41%), neu pan fyddai gan yr ymatebydd neu rywun arall ofynion iechyd arbennig (er enghraifft salwch neu feichiogrwydd) (40%) (Ffigur 17) (footnote 6)

Effaith y sticer sgôr hylendid bwyd ar ganfyddiadau ac ymddygiadau

Pe na bai sticer sy’n dangos sgôr hylendid bwyd y busnes yn cael ei arddangos wrth y fynedfa, gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba raddau, os o gwbl, y byddai hynny’n effeithio ar eu penderfyniad i fwyta yno. O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta bwyd mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. Fodd bynnag, dywedodd 29% o’r ymatebwyr na fyddai’n eu gwneud yn llai tebygol o fwyta yno. Dywedodd 13% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n gwybod beth fyddai’r effaith ar eu penderfyniad i fwyta yno pe bai busnes yn peidio ag arddangos ei sgôr.

Dywedodd cyfran uwch o’r ymatebwyr sy’n byw yng Nghymru (68%) y bydden nhw’n llai tebygol o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa o’u cymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (57%). Byddai dros 6 o bob 10 (64%) o’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon yn llai tebygol o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa** (footnote 7)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB a oedden nhw wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd. Dywedodd 18% eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd, a dywedodd 63% nad oedden nhw wedi gwneud hyn. Fodd bynnag, dywedodd 19% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n gwybod, neu nad oedden nhw’n gallu cofio, a oedden nhw wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd (footnote 8).

Pryderon am fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos sgôr CSHB

Ffigur 18. Pryderon yr ymatebwyr pe na bai busnes bwyd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar ei safle.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Pryder Canran yr ymatebwyr (%)
Ni fyddwn yn poeni 4
Ni fyddwn yn sylwi bod y sticer ar goll 27
Nad yw’r busnes yn bodloni’r gofynion cyfreithiol 39
A yw’r busnes bwyd wedi cael ei arolygu gan yr awdurdodau perthnasol 42
Pa mor ddiogel yw bwyta yn y busnes 44
Risg uwch o gael gwenwyn bwyd/salwch/haint 44
Bod gan y busnes bwyd sgôr wael/isel a’i fod yn ceisio’i chuddio 48
Bod gan y busnes safonau hylendid gwael 49

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth fyddai’n peri pryder iddyn nhw pe baen nhw’n ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar y safle. Y pryderon mwyaf cyffredin oedd bod gan y busnes bwyd safonau hylendid gwael (49%) a bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid bwyd wael neu isel a’i fod yn ceisio’i chuddio (48%). 

Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd safonau hylendid gwael (60%), bod gan y busnes sgôr hylendid bwyd wael/isel a’i fod yn ceisio’i chuddio (58%), ac nad yw’r busnes bwyd yn bodloni’r gofynion cyfreithiol (49%) nag ymatebwyr yn Lloegr (48% yn poeni am safonau hylendid gwael, 47% yn poeni am sgôr hylendid bwyd wael/isel, a 38% yn poeni nad yw’r busnes yn bodloni’r gofynion cyfreithiol). Roedd ymatebwyr yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol o boeni a oedd y busnes bwyd wedi cael ei arolygu gan yr awdurdod perthnasol (54%) nag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (42%). 

Ni fyddai dros chwarter o’r ymatebwyr (27%) yn sylwi pe na bai sticer yn cael ei arddangos, ac ni fyddai 4% yn poeni am ddim byd pe na bai’r sticer yn cael ei arddangos (Ffigur 18) (footnote 9). Roedd ymatebwyr yn Lloegr (28%) yn fwy tebygol o ddweud na fydden nhw’n sylwi pe bai’r sticer ar goll nag ymatebwyr yng Nghymru (16%). Yng Ngogledd Iwerddon dywedodd (23%)** na fydden nhw’n sylwi pe bai’r sticer ar goll nag ymatebwyr yng Nghymru.