Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 6

Pennod 2: Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddealltwriaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 November 2023

Dealltwriaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol iddyn nhw.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Ddim yn gwybod 5
Arall 2
Siopau bwyd eraill 39
Stondinau marchnad/bwyd stryd 45
Archfarchnadoedd 48
Ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 55
Gwestai/lletai gwely a brecwast 78
Tafarndai 84
Siopau coffi neu frechdanau 86
Siopau tecawê 89
Caffis 91
Bwytai 94

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa fathau o fusnesau bwyd oedd yn dod o dan y CSHB yn eu tyb nhw, gan ddewis o blith rhestr o fusnesau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i fwytai (94%), caffis (91%), siopau tecawê (89%), siopau coffi neu frechdanau (86%), tafarndai (84%), a gwestai neu letai gwely a brecwast (78%). Roedd llai o ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill (55%), archfarchnadoedd (48%), a stondinau marchnad neu fwyd stryd (45%) (Ffigur 8) (footnote 1).

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein), ni waeth faint yr oedden nhw’n ei wybod am y CSHB ac ni waeth a wnaethan nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Roedd tua 4 o bob 10 (43%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (footnote 2).

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (59%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (42%) a Gogledd Iwerddon (48%).

Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 59% o’r rheiny rhwng 25-34 oed wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o’u cymharu â 22% o’r rheiny 80 oed a throsodd.
  • Plant o dan 6 oed yn y cartref: roedd ymatebwyr â phlant (o dan 6 oed) yn y cartref (55%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r rheiny heb blant o dan 6 oed yn y cartref (41%).
  • Maint y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi â 3 pherson neu fwy (er enghraifft, 55% o’r rheiny mewn cartref â 5 neu fwy o bobl) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr busnes na’r rheiny mewn cartrefi ag 1 person (33%). 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 48% o’r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is, galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (47%) a myfyrwyr amser llawn (47%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr ym mhob grŵp galwedigaethol arall (er enghraifft, 36% o’r rheiny mewn cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) a’r rhai a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (29%). Roedd y rhai a oedd yn ddi-waith a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (12%) yn fwy tebygol na’r rhan fwyaf o’r grwpiau galwedigaethol eraill (er enghraifft, 3%** o’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus) o ddweud nad oedden nhw’n gwybod a oedden nhw wedi gwirio sgôr busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. 
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Ddwyrain Canolbarth Lloegr (48%), Gogledd-orllewin Lloegr (46%) a Swydd Efrog a’r Humber (45%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr o Dde-orllewin Lloegr (34%).
  • Diogeledd bwyd (footnote 3):  roedd ymatebwyr â lefelau isel (48%) neu isel iawn (56%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 29% o’r rheiny â lefelau uchel o ddiogeledd bwyd. 
  • Grŵp ethnig: Roedd ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (53%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr gwyn (42%). 

Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Rhywle arall 1
Mewn siopau bwyd eraill 7
Stondinau marchnad/bwyd stryd 6
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 9
Mewn archfarchnadoedd 11
Mewn gwestai/lletai gwely a brecwast 17
Mewn tafarndai 37
Mewn siopau coffi neu frechdanau 37
Mewn caffis 53
Mewn bwytai 73
Mewn siopau tecawê 73

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd pa fathau o fusnesau yr oedden nhw wedi gwirio sgoriau hylendid ar eu cyfer yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (73%) a bwytai (73%). Roedd dros hanner yr ymatebwyr (53%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis, roedd 37% wedi gwirio sgôr siopau coffi neu frechdanau, a 37% wedi gwirio sgôr tafarndai (Ffigur 9) (footnote 4)

Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fusnes bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Mewn papur newyddion lleol 3
Ar wefan arall 4
Ar ap (e.e. Scores on the Doors) 6
Ar wefan yr ASB 16
Gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein (e.e Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) 24
Gwefan busnes bwyd 25
Sticer y CSHB sy’n cael ei arddangos yn y busnes bwyd (e.e. yn y ffenest neu ar y drws) 82

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (82%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd chwarter (25%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd, roedd 24% wedi gwirio’r sgôr ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), ac roedd 16% o’r ymatebwyr wedi gwirio ar wefan yr ASB (Ffigur 10) (footnote 5)

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (90%), Lloegr (81%) a Gogledd Iwerddon (88%) yn fwyaf tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy edrych ar sticer a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes**. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yn Lloegr (26%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein na’r rheiny yng Nghymru (14%) a Gogledd Iwerddon (11%).

Roedd y dull o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd oedolion o dan 44 oed (er enghraifft, 45% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein nag oedolion 45 oed a throsodd (er enghraifft, 3% o’r rheiny rhwng 65 a 79 oed). 
  • Y dref a'r cefn gwlad: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (28%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein na’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (11%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr a oedd yn byw yn Llundain (36%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein na’r rheiny a oedd yn byw yn Ne-ddwyrain Lloegr (20%) a De-orllewin Lloegr (19%). Roedd y rheiny a oedd yn byw yn Llundain (24%) hefyd yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd ar wefan yr ASB na’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr (9%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â lefelau isel (30%) ac isel iawn (37%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein o gymharu ag 19% o’r rheiny â lefelau uchel o ddiogeledd bwyd.

Mewn rhai achosion, gall y ffordd y mae grwpiau gwahanol yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ddangos ble maen nhw’n bwyta allan neu sut maen nhw’n archebu bwyd tecawê. Er enghraifft, roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o wefan neu ap archebu bwyd ar-lein ac o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft roedd 62% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed wedi archebu bwyd o wefan archebu bwyd ar-lein ac roedd 45% wedi gwirio’r sgôr gan ddefnyddio’r wefan neu’r ap hwnnw) o gymharu ag oedolion hŷn (er enghraifft, roedd 8% o’r rheiny rhwng 65 a 79 oed wedi bwyta bwyd o wefan neu ap archebu ar-lein ac roedd 3% wedi defnyddio hwn i wirio sgôr busnes bwyd) (footnote 6)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes (ar safle’r busnes, ar-lein neu mewn taflenni neu fwydlenni) yn ystod y 12 mis blaenorol pa mor aml yr oedd yn hawdd dod o hyd i’r sgôr. Dywedodd 14% o’r ymatebwyr ei bod bob amser yn hawdd dod o hyd i sgôr hylendid bwyd, dywedodd 67% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr y rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 17% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd (footnote 7)

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd tecawê

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y bydden nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê (footnote 8)

Ffigur 11. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth archebu tecawê.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Ffactorau a ystyriwyd Canran yr ymatebwyr (%)
P’un a ddarperir gwybodaeth am galorïau 2
P’un a ddarperir gwybodaeth am alergenau 6
P’un a oes dewisiadau iachach ar gael 8
P’un a yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn 10
Adolygiadau (er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newydd) 26
P’un a oes opsiwn dosbarthu neu gasglu 27
Amserau dosbarthu/casglu 32
P’un a yw’n bosib archebu bwyd ar-lein 32
Y cynigion, bargeinion neu ostyngiadau sydd ar gael 32
Lleoliad y siop tecawê 33
Sgôr hylendid bwyd 36
Math o fwyd (fel dull coginio (cuisine) neu ddewisiadau figan/llysieuol) 48
Argymhellion gan deulu neu ffrindiau 48
Pris (gan gynnwys y gost dosbarthu) 53
Ansawdd bwyd 72
Profiad blaenorol o’r siop tecawê 78

Lawrlwytho’r siart hon

 Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (78%) ac ansawdd y bwyd (72%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y byddai’r ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. 

Roedd tua 4 o bob 10 (36%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu tecawê (43% yng Nghymru, 40% yng Ngogledd Iwerddon, 35% yn Lloegr)** (Ffigur 11) (footnote 9)

Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed (48%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r holl grwpiau oedran eraill (er enghraifft, 27% o’r rhai 80 oed a throsodd).
  • Plant o dan 6 oed yn y cartref: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â phlant o dan 6 oed (44%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny mewn cartrefi heb blant o dan 6 oed (34%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Ddwyrain Canolbarth Lloegr (43%), Gogledd-orllewin Lloegr (42%) a Llundain (39%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr (28%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa bwyd (37%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â’r rhai nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (19%).   

Ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth fwyta allan

Ffigur 12. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth fwyta allan.

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Ffactorau a ystyriwyd Canran yr ymatebwyr (%)
P’un a ddarperir gwybodaeth am galorïau 5
P’un a ddarperir gwybodaeth am alergenau 8
P’un a yw’r lle’n dda gyda phlant 14
P’un a oes dewisiadau iachach ar gael 16
P’un a yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn 20
Adolygiadau (er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol) 32
Cynigion, bargeinion neu ostyngiadau sydd ar gael 39
Sgôr hylendid bwyd 45
Awyrgylch/naws 48
Math o fwyd (fel y dull coginio (cuisine) neu ddewisiadau figan/llysieuol) 54
Ansawdd y gwasanaeth 65
Pa mor lân yw’r lle 67
Argymhellion gan deulu neu ffrindiau 67
Lleoliad 67
Pris 71
Profiad blaenorol o’r lle 81
Ansawdd y bwyd 84

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

O blith y rheiny sy’n bwyta allan, ansawdd y bwyd (84%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (81%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y byddai’r ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd dros 4 o bob 10 (45%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 12) (footnote 10)

Pa mor aml roedd ymatebwyr yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd wrth gyrraedd y safle 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml y bydden nhw’n gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd y safle. Dywedodd tua un o bob 10 (11%) eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd, dywedodd 19% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 32% eu bod yn gwneud hyn tua hanner y amser neu o bryd i’w gilydd. Dywedodd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr nad ydyn nhw byth yn edrych ar sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd y safle. (footnote 11) 

Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (48%) a Gogledd Iwerddon (38%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwirio’r sgôr wrth gyrraedd y safle bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser o gymharu â’r ymatebwyr yn Lloegr (28%). Roedd ymatebwyr yn Lloegr (36%) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent erioed wedi gwirio’r sgôr wrth gyrraedd y safle o gymharu ag ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon (25%) ac yng Nghymru (18%).