Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme (FHRS) Food and You 2: Wave 4

Pennod 2: Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddealltwriaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 November 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dealltwriaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol iddyn nhw.

Siart bar yn dangos canran yr ymatebwyr sy’n ymwybodol bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cwmpasu gwahanol fathau o fusnesau bwyd.
Column1 Column1
Ddim yn gwybod 4
Arall 2
Siopau bwyd eraill 38
Stondinau marchnad / bwyd stryd 44
Archfarchnadoedd 46
Ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 54
Gwestai / lletai gwely a brecwast 77
Tafarndai 84
Soipau coffi neu frechdanau 85
Siopau tecaw� 87
Caffis 90
Bwytai 92

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba fathau o fusnesau bwyd yr oedd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol yn eu tyb nhw, gan ddewis o blith rhestr o fusnesau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn berthnasol i fwytai (92%), caffis (90%), siopau tecawê (87%), siopau coffi neu frechdanau (85%), tafarndai (84%), a gwestai neu lety gwely a brecwast (77%). Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (54%) yn meddwl ei fod yn berthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill. Roedd llai na hanner yr ymatebwyr yn meddwl bod y Cynllun yn berthnasol i archfarchnadoedd (46%) a stondinau marchnad neu fwyd stryd (44%) (Ffigur 8) (footnote 1).

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle bwyd neu ar-lein) p’un a fu iddyn nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Roedd tua 4 o bob 10 (41%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 10 mis diwethaf (footnote 2)

Roedd ymatebwyr yng Nghymru (54%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr yn Lloegr (40%), ac i raddau llai y rheini yng Ngogledd Iwerddon (46%).

Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 59% o’r rheiny rhwng 16-24 oed wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o’u cymharu â 18% o’r rheiny 75 oed a throsodd.
  • Plant (o dan 16 oed) yn y cartref: roedd ymatebwyr â phlant (o dan 16 oed) yn y cartref (49%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r rheiny heb blant o dan 16 oed yn y cartref (37%). 
  • NS-SEC: roedd myfyrwyr amser llawn (57%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r ymatebwyr ym mhob grŵp galwedigaethol arall, er enghraifft, galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (42%) a’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (37%).
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (52%) neu isel iawn (52%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes na’r rhai â diogeledd bwyd uchel (38%). Roedd tua 4 o bob 10 (43%) o’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes.

Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Siart bar yn dangos canran yr ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd gwahanol fathau o fusnesau bwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Column1 Column1
Mewn siopau bwyd eraill 5
Ar stondinau marchnad / bwyd stryd 6
Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill 7
Mewn archfarchnadoedd 12
Mewn gwestai / lletai gwely a brecwast 15
Mewn tafarndai 32
Mewn siopau coffi neu frechdanau 33
Mewn caffis 46
Mewn bwytai 69
Mewn siopau tecaw� 70

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd pa fathau o fusnesau yr oedden nhw wedi gwirio eu sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (70%) a bwytai (69%). Roedd llai na hanner yr ymatebwyr (46%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis, 33% wedi gwirio sgôr siopau coffi neu frechdanau, a 32% wedi gwirio sgôr tafarndai (Ffigur 9) (footnote 3).  

Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd.

Siart bar yn dangos sut yr oedd ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd.
Column1
Mewn papur newydd lleol 2
Ar wefan arall 2
Ar ap (er enghraifft Scores on the Doors; Food Hygiene Rating) 4
Ar wefan yr ASB 15
Ar wefan busnes bwyd 22
Ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) 23
Sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd sy�n cael ei arddangos yn y busnes bwyd (yn y ffenest neu ar y drws, er enghraifft) 83

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (83%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd bron i chwarter (23%) wedi gwirio’r sgôr ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), roedd 22% wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd ei hun, ac roedd 15% o’r ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Ffigur 10) (footnote 4).

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yng Nghymru (83%) a Gogledd Iwerddon (89%) yn fwyaf tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy edrych ar sticer a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes**. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yn Lloegr (24%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein na’r rheiny yng Nghymru (13%) a Gogledd Iwerddon (11%).

Roedd y dull o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd oedolion o dan 34 oed (er enghraifft, 42% o’r rheiny rhwng 25-34 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) nag oedolion 35 oed a throsodd (er enghraifft, 6% o’r rheiny 75 oed a throsodd). 
  • Trefol yn erbyn gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (26%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) na’r rheiny oedd yn byw mewn ardal wledig (9%).
  • Diogeledd bwyd (footnote 5): roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (33%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan y busnes bwyd ei hun na’r rheiiny â diogeledd bwyd uchel (20%).

Mewn rhai achosion, gall y ffordd yr oedd gwahanol grwpiau o bobl yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ddangos y tebygolrwydd y byddai’r grŵp yn defnyddio gwasanaeth penodol wrth fwyta allan neu archebu tecawê, fel gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Bwyta, Deliveroo, Uber Eats). Er enghraifft, roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o wefan neu ap archebu bwyd ar-lein ac o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein o gymharu ag oedolion hŷn (footnote 6)

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis diwethaf pa mor aml yr oedd yn hawdd dod o hyd i’r sgôr. Dywedodd tua 1 o bob 5 o ymatebwyr ei bod bob amser yn hawdd dod o hyd i sgôr hylendid bwyd (18%), dywedodd 62% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr y rhan fwyaf o’r amser a dywedodd 18% ei bod yn hawdd dod o hyd iddi tua hanner yr amser neu’n llai aml (footnote 7).

Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd tecawê

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y byddan nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê (footnote 8)

Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddant yn archebu bwyd tecawê 

Ffigur 11. Y deg ffactor mwyaf cyffredin y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddant yn archebu bwyd tecawê.

Siart bar yn dangos y deg ffactor mwyaf cyffredin y bydd pobl yn eu hystyried wrth archebu bwyd tecawê.
Column1
P'un a oes gwybodaeth am galor�au yn cael ei darparu 2
P'un a oes gwybodaeth am alergenau yn cael ei darparu 5
P'un a oes dewisiadau iachach ar gael 8
P'un a yw'n fusnes annibynnol neu'n rhan o gadwyn 11
Adolygiadau (er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newydd) 29
P'un a oes dewis dosbarthu neu gasglu 32
P'un a oes modd archebu bwyd ar-lein, er enghraifft trwy wefan neu ap 36
Lleoliad y siop tecaw� 37
Y cynigion, bargeinion neu ostyngiadau sydd ar gael 38
Amseroedd dosbarthu neu gasglu 38
Sg�r hylendid bwyd 38
Teulu neu ffrindiau wedi argymell 50
Math o fwyd (fel dull coginio neu ddewisiadau figan/llysieuol) 59
Pris (gan gynnwys cost dosbarthu) 61
Ansawdd y bwyd 75
Fy mhrofiad blaenorol o'r siop tecaw� 80

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (80%) ac ansawdd y bwyd (75%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y byddai’r ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (75%). Roedd tua 4 o bob 10 (38%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 11) (footnote 9) .

Mae tua 4 o bob 10 o ymatebwyr yn Lloegr (38%) a Gogledd Iwerddon (40%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â 46% o’r rheini yng Nghymru**.

Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:

  • Grŵp oedran: roedd ymatebwyr 44 oed neu iau (er enghraifft, 45% o’r rheiny rhwng 25-34 oed) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê nag oedolion 75 oed a throsodd (22%).
  • Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm o £19,000 neu is (45%) yn fwy tebygol o ystyried sgôr hylendid bwyd busnes wrth archebu bwyd tecawê na’r rheiny ag incwm o fwy na £96,000 (28%).
  • Trefol yn erbyn gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (40%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu siopau bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (30%).
  • Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (54%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r rheiny â diogeledd bwyd uchel (35%).

Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan

Ffigur 12. Y deg ffactor mwyaf cyffredin y bydd pobl yn eu hystyried wrth fwyta allan.

Siart bar yn dangos canran yr ymatebwyr a ystyriodd ffactorau wrth benderfynu ble i fwyta allan.
Column1 Column1
Sg�r hylendid bwyd 41
Awyrgylch / naws 48
Math o fwyd (fel dull coginio neu ddewisiadau figan/llysieuol) 56
Ansawdd y gwasanaeth 63
Teulu neu ffrindiau wedi argymell 64
Pa mor l�n yw'r lle 65
Pris 66
Lleoliad 68
Fy mhrofiad blaenorol o'r lle 80
Ansawdd y bwyd 82
Quality of service 63
Recommendations from family or friends 64
Cleanliness of the place 65
Price 66
Location 68
My previous experience of the place 80
Quality of food 82

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4

O blith y rheiny sy’n bwyta allan, ansawdd y bwyd (82%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (80%) oedd y ffactorau mwyaf cyffredin y bydd yr ymatebwyr yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan. Roedd tua 4 o bob 10 (41%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 12) (footnote 10).

Pa mor aml roedd ymatebwyr yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd wrth gyrraedd y safle 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml y byddan nhw’n gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd y safle. Dywedodd un o bob 10 (10%) eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd, dywedodd 20% o ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser a dywedodd 31% eu bod yn gwneud hyn yn llai aml (hynny yw ‘tua hanner y amser’ neu ‘o bryd i’w gilydd’). Dywedodd ychydig dros draean (35%) o ymatebwyr na fyddan nhw byth yn edrych ar sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd (footnote 11).