Pennod 1: Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd tua chwech o bob deg (59%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Dywedodd bron i draean o’r ymatebwyr (31%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ond nad oedden nhw’n gwybod rhyw lawer amdano, os o gwbl. Dywedodd tua un o bob deg ymatebydd (11%) nad oedden nhw wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (footnote 1).
Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (89%), Cymru (95%), a Gogledd Iwerddon (92%) wedi clywed am yr Cynllun Sgorio (Ffigur 1)**. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny yn Lloegr (57%)**.
Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd ymatebwyr rhwng 16 a 74 oed yn fwy tebygol o fod yn gwybod o leiaf ychydig am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny dros 75 oed. Er enghraifft, dywedodd 68% o’r ymatebwyr 45-54 oed eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, o gymharu â 37% o’r rheiny sy’n 75 oed a throsodd (Ffigur 2).
Roedd ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a gwybodaeth amdano, hefyd yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol o bobl:
- Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm dros £19,000 (er enghraifft, 62% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio, o gymharu â’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (53%)**.
- Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr yn yr holl grwpiau eraill (er enghraifft, 62% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (45%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (44%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (59%) yn fwy tebygol o fod yn gwybod am y Cynllun Sgorio na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (46%).
Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd bod yr ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd trwy weld sticer yn cael ei arddangos mewn safleoedd busnes bwyd (85%). Roedd dros draean yr ymatebwyr (37%) wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar wefan busnes bwyd, roedd 22% wedi dod ar ei draws ar wefan a/neu ap archebu a/neu ddosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, UberEats) ac oredd 14% o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar wefan yr ASB (Ffigur 3) (footnote 2).
Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (91%), Lloegr (84%) a Gogledd Iwerddon (90%) wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd trwy weld sticer ar safle busnes bwyd (Ffigur 4)**.
Adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd iddyn nhw, dywedodd bron i 9 o bob 10 ymatebydd (88%) eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (87%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%) (footnote 3)**.
Ffigur 5. Adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, dywedodd 96% o’r ymatebwyr 16-24 oed eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o’u cymharu â 60% o’r ymatebwyr 75 oed a throsodd (Ffigur 5).
Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio rhwng y mathau canlynol o bobl:
- Incwm blynyddol cartrefi: roedd ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rhai ag incwm is. Er enghraifft, roedd 95% o’r rheiny ag incwm o £96,000 neu uwch wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o gymharu ag 81% o’r rheiny ag incwm llai na £19,000.
- NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol, er enghraifft, galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (89%) a myfyrwyr amser llawn (97%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (76%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (88%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (76%).
Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer mewn bwytai (81%), mewn caffis (71%) neu mewn siopau tecawê (66%) (Ffigur 6) (footnote 4).
Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 4
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn bwytai yng Nghymru (82%), Lloegr (80%) a Gogledd Iwerddon (84%)**. Roedd tua 8 o bob 10 o ymatebwyr yng Nghymru (79%) a Gogledd Iwerddon (77%) wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn caffis o gymharu â 70% o ymatebwyr yn Lloegr**. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (61%) a Lloegr (51%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn tafarndai na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (40%) (Ffigur 7).
-
Cwestiwn: Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, Na, dydw i erioed wedi clywed amdano. Sylfaen = 4755, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post. Pwysig: Cyfeirir at y rheiny a atebodd ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano’, ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano’, ac ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano’ fel rhai a oedd yn gwybod am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
-
Cwestiwn: Ble ydych chi wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ar sticer mewn busnes bwyd, Ar wefan busnes bwyd (fel gwefan bwyty), Ar wefan neu ap archebu/dosbarth bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, UberEats ac ati), Wedi clywed gan rywun, Ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Yn y papur newyddion lleol, Trwy’r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Twitter, Facebook Marketplace), Mewn hysbyseb neu erthygl cylchgrawn, Ar ap arall (er enghraifft Scores on the Doors) (nodwch), Ar wefan arall, Rhywle arall Sylfaen = 4376, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Pwysig: Nid yw’r canrannau a ddangosir yn rhoi cyfanswm o 100% oherwydd bod yr ymatebwyr yn gallu dewis mwy nag un ateb.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi gweld y sticer hwn o’r blaen? Ymatebion: Ydw, Nac ydw, Ddim yn gwybod / Ddim yn siŵr. Sylfaen = 4755, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r canlynol, os o gwbl, ydych chi wedi gweld y sticer hwn yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau tecawê, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai/llety gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gweithgynhyrchwyr (masnachwyr busnes i fusnes) (Cymru yn unig), Mewn siopau bwyd eraill, Rhywle arall, Dydw i ddim wedi gweld y sticer hwn mewn busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Sylfaen = 4322, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post a oedd wedi gweld sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Hanes diwygio
Published: 27 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Tachwedd 2022